Yr Athro John Witcombe o Brifysgol Bangor yn ennill gwobr o fri
Nos Fawrth, derbyniodd yr Athro John Witcombe, Cymrawd-Athro yn yr Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, wobr Amaethwr Datblygu y Flwyddyn ar gyfer 2014 gan y Gymdeithas Amaeth Drofannol.
Roedd y wobr hon, sef un bwysicaf y TAA, yn cydnabod gwaith oes, ac yn benodol cyfraniad John at y gwaith o ddatblygu mathau o reis ac india-corn trwy fridio planhigion, lle bridir mathau i ateb gofynion ffermwyr tlawd mewn ardaloedd ymylol, yn hytrach nag ar gyfer amgylcheddau a reolir yn dda ar safleoedd ymchwil. Bu’r gwaith hwn o fudd i amaethyddiaeth ar draws y trofannau a chafodd effaith wirioneddol gadarnhaol ar gymdeithas.
Mae ei india-corn ei hun, GM-6, yn aeddfedu’n gynnar, mae ansawdd a chynnyrch ei rawn yn well, ac mae wedi gwella bywoliaethau 300,000 o’r ffermydd tlotaf yn Gujarat, India, wrth iddo gael ei dyfu ar gyfanswm arwynebedd o 2 M ha a chyfrif am bron i 100% o’r cynnyrch ardystiedig o hadau india corn yn y Dalaith. Ni ddewisir nodwedd yr aeddfedrwydd cynnar ar gyfer safleoedd ymchwil, ond mae ffermwyr yn ei gwerthfawrogi fel y gallant osgoi effeithiau sychder ar ddiwedd y tymor.
Yn nwyrain India, roedd bridwyr reis yr ucheldiroedd bob amser yn credu mai reis grawn cwrs oedd ei eisiau ar ffermwyr, er i ymchwil John gael eu bod, mewn gwirionedd, am gael reis grawn main, am fod ei flas yn well ganddynt ac y gallent gael pris uwch pe bai’n rhaid iddynt werthu grawn. Ashoka 200F ac Ashoka 228 fu’r mathau mwyaf llwyddiannus o reis ucheldirol yn nwyrain India, gan ddisodli’r mathau modern eraill a dyfir yno. Trwy gyllid gan DFID, bu modd i 250,000 o ffermwyr yn nwyrain India gael hadau. Erbyn hyn, mae bron y cyfan o’r ffermwyr hynny’n parhau i dyfu’r mathau Ashoka, ac yn rhoi hadau i ffermwyr eraill yn eu pentrefi eu hunain ac mewn pentrefi eraill, a hwythau, yn eu tro, yn dosbarthu grawn. Bellach, cânt eu tyfu gan fwy na miliwn o gartrefi yn Nwyrain India, gan roi sicrwydd bwyd hanfodol yn ystod blynyddoedd o sychder a chynyddu hunangynhaliaeth cartrefi o ran bwyd, o chwe mis i naw mis.
Wrth dderbyn y wobr, diolchodd John yn arbennig i ddau gydweithiwr o Fangor, sef Dr Krishna Joshi a’r Athro Daljit Virk, ac i ddau wyddonydd o India Sri Arun Joshi, a fu’n eu helpu i ddechrau bridio india-corn GM-6, a’r Athro JP Yadavendra, a fu’n helpu i werthuso ei effaith.
Diolchodd John hefyd i DFID am gyllido’r project, gan dynnu sylw at yr eironi fod cyllid wedi dod i ben oherwydd y dybiaeth o ddiffyg llwyddiant, a’r wobr wedi’i hennill oherwydd yr effeithiau arwyddocaol a gafwyd. Dywedodd ei bod yn hynod o anffodus nad oedd gan wyddonwyr o’r DU gyfle mwyach i gymhwyso gwyddoniaeth yn uniongyrchol i liniaru effeithiau tlodi, ac arian DFID wedi’i ddarparu trwy’r BBSRC ac Innovate UK, a’r naill na’r llall ohonynt yn rhoi blaenoriaeth i liniaru effeithiau tlodi yn y byd datblygol. Gorffennodd gan ddweud ei fod yn gobeithio y byddai DFID yn newid cyfeiriad, er mwyn rhoi cyfle unwaith eto i wyddonwyr o’r DU liniaru effeithiau tlodi trwy wyddor amaeth.
Mae’r TAA yn gymdeithas broffesiynol yn ymwneud â rôl amaethyddiaeth yn y broses o ddatblygu ledled y byd, gan ddod ag unigolion a sefydliadau o bedwar ban y byd ynghyd, fel y gallant gyfrannu at bolisïau a gweithrediadau rhyngwladol sydd wedi’u hanelu at leihau tlodi a gwella bywoliaethau. Mae amgylcheddau trofannol ac is-drofannol yn gartref i biliynau o bobl ac yn wynebu llawer o sialensiau o ran cynnal y poblogaethau mawr hyn trwy wyddor amaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014