Yr Athro Phil Molyneux yn ennill gwobr o fri ym maes Cyfrifeg a Chyllid
Mae’r Athro Phil Molyneux, Athro Bancio a Chyllid, wedi ennill anrhydedd o fri gan Gymdeithas Brydeinig Cyfrifeg a Chyllid (BAFA).
Dyfernir y Wobr Academaidd Enwog yn flynyddol i unigolyn sydd, yng ngolwg BAFA, wedi cyfrannu mewn modd sylweddol ac uniongyrchol tuag at fywyd academaidd y DU ym meysydd cyfrifeg a chyllid.
Dyfarnwyd hi i’r Athro Molyneux – sydd hefyd yn Ddeon ar y Coleg Busnes, Cyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor – i gydnabod ei gyfraniad arwyddocaol at addysgu ac ymchwil. Ochr yn ochr â’i yrfa academaidd, mae ef wedi gweithredu fel ymgynghorydd i amryw o fanciau a chwmnïau ymgynghori rhyngwladol, yn cynnwys Banc Gronfa Ffederal Efrog Newydd, Banc y Byd, y Comisiwn Ewropeaidd a Thrysorlys y DU.
Derbyniodd yr Athro Molyneux y wobr yng Nghynhadledd Flynyddol y Gymdeithas yn gynharach eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2013