Yr awen yn ailgydio yn Harvard
Mae llawer o fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg ym Mangor wedi manteisio ar bartneriaid rhyngwladol y Brifysgol er mwyn cael cyfle i astudio dramor. Mae un o Athrawon yr Ysgol hefyd wedi dilyn eu hesiampl.
Cyfnod sabothol yn Adran Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd Prifysgol Harvard – un o bartneriaid Prifysgol Bangor ym maes Astudiaethau Celtaidd – a roddodd y cyfle i’r Athro Peredur Lynch gyflawni hen, hen fwriad a chwblhau ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Caeth a Rhydd.
“Ar ôl bod yn bennaeth Ysgol am chwe mlynedd, mi gefais i dymor sabothol yn wobr! Gyda’r cyfle i ddianc o brysurdeb Bangor mi wnes i fanteisio ar y llonydd oedd i’w gael yn Harvard i gynhyrchu cyfrol o gerddi o’r diwedd,” meddai Peredur Lynch.
Ac yntau’r person ieuengaf erioed i ennill cadair yr Urdd, mae Peredur Lynch yn cael ei ystyried yn un o feirdd gorau’r Gymraeg sy’n defnyddio cynghanedd. Ond am flynyddoedd lawer fe lesteiriwyd ei ysbryd creadigol gan ymroddiad i waith academaidd mwy traddodiadol a dyletswyddau gweinyddol.
“Mi oedd rhai o’r syniadau dechreuol roddodd fod i lawer o’r cerddi wedi bod yn swatio’n dawel am flynyddoedd mewn rhyw ran cysglyd o ’mhen i,” meddai. “Ond y prif ysgogiad i ailafael mewn barddoni oedd colli fy nhad ychydig flynyddoedd yn ôl.” Roedd ei dad, y Parchedig Evan Lynch (1917-2011) yn weinidog gyda’r Presbyteriaid, ac mae cyfres o ddeg cerdd yn y gyfrol wedi’i chyfansoddi er cof amdano. Yn ogystal ag archwilio perthynas mab a thad, mae’r gyfres hefyd yn rhoi ystyriaeth i faterion ehangach sy’n ymwneud â ffydd a’r dystiolaeth Gristnogol yn y byd modern.
“Mi gafodd fy nhad ei ordeinio’n weinidog yn 1945, yn union ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd,” meddai Peredur Lynch. “Mi oedd barbareiddiwch y rhyfel hwnnw, yr Holocost, Hiroshima a Nagasaki, wedi rhoi cyd-destun erchyll o newydd i un o’r anawsterau diwinyddol hynaf sy’n wynebu pob credadyn – yr angen i gysoni’r syniad o Dduw hollalluog a chariadus hefo dioddefaint a thrychinebau.”
Cafodd yr gyfrol Caeth a Rhydd ei chyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch ac y mae eisoes wedi derbyn adolygiadau gwresog mewn cylchgronau fel Barddas (“[c]yfrol cwbwl arbennig” – Alan Llwyd), Barn (“awen a hanner yw hon” – Derec Llwyd Morgan) ac O’r Pedwar Gwynt (“rhin cyfoethog hen win” – Gruffydd Aled Williams). A chan fod yr awydd i gyfansoddi wedi ailafael, mae gan Peredur Lynch nifer o syniadau creadigol eraill yn ffrwtian yn ei ben.
Mae prosiect arall y mae’n bwriadu ymgymryd ag o yn cyfuno ei ddiddordebau creadigol ac ysgolheigaidd. Gan adeiladu ar gydweithio sydd eisoes yn bod â chydweithwyr yn Ysgol Seicoleg Bangor ym maes newroestheteg, y mae’n gobeithio cwblhau astudiaeth eang o’r dadeni cynganeddol yng Nghymru. Bydd cyd-destunau llenyddol, cymdeithasol ac ideolegol y dadeni yn cael eu dadansoddi. Y gobaith hefyd yw y bydd y prosiect yn cynnig cyfleon pellach i gyflawni arbofion empiraidd ar ymateb y meddwl dynol i’r gynghanedd ac estheteg y canu caeth.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2018