Yr Esgob a’i Lyfr
Cynhelir gwasanaeth cysegru a bendithio arbennig yng Nghadeirlan Bangor brynhawn Sul 6 Chwefror am 3.15 o’r gloch i ddathlu dychweliad Llyfr Esgobol Bangor.
Llawysgrif unigryw o’r bedwaredd ganrif ar ddeg sy’n eiddo i’r Gadeirlan yw’r Llyfr Esgobol. Caiff ei gadw er diogelwch yn Archif Prifysgol Bangor erbyn hyn. Mae’r arian a godwyd gan y Gadeirlan a’r Brifysgol, yn sgil Project Llyfr Esgobol Bangor, a lansiwyd yn 2009 fel rhan o ddathliadau’r canmlwyddiant a chwarter, wedi ein galluogi i drwsio a digideiddio'r llawysgrif.
Mae’r Llyfr Esgobol i Fangor wedi dychwelyd o’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth a chaiff ei groesawu’n ôl i’r Gadeirlan yn awr. Caiff ei dderbyn gan Ddeon Bangor, y Tra Pharchedig Alun Hawkins, a’i fendithio gan Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andrew John.
Cynlluniwyd y gwasanaeth yn arbennig gan Ganolfan Ryngwladol Astudiaethau Cerddoriaeth Gysegredig Prifysgol Bangor ar y cyd â Chadeirlan Bangor. Bydd Côr y Gadeirlan, schola o ferched o’r Brifysgol a chantor proffesiynol yn canu yn ystod y gwasanaeth. Mae llawer o’r alawon plaengan o Lyfr Esgobol Bangor wedi eu trawsgrifio o’r newydd ar gyfer y gwasanaeth, a dim ond yn Llyfr Esgobol Bangor y mae dau ohonynt ar gael.
Bydd y gwasanaeth hefyd yn cynnwys darlleniadau o fywyd Sant Deiniol (m. 584), nawddsant y Gadeirlan, a adeiladwyd ar safle ei fynachlog. Caiff y Llyfr Esgobol ei fendithio gyda geiriau bendith o’r Canol Oesoedd, a gyfieithwyd ac addaswyd o lawysgrif oedd yn eiddo i Edmund Lacy, Esgob Caerwysg rhwng 1420 a 1455.
Dyma gyfle prin i weld Llyfr Esgobol Bangor yn yr adeilad sy’n gysylltiedig â’r llyfr ers bron i 700 mlynedd, a chael clywed ei eiriau a’i gerddoriaeth mewn cyd-destun cyfoes. Croeso i bawb, a bydd paned ar gael ar ôl y gwasanaeth.
Cliciwch yma i ganfod mwy am y project.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2011