‘Yr UE a Chyfraith Ryngwladol’: Bangor yn croesawu'r Athro James Crawford i Ddarlith Flynyddol y Gyfraith 2014
Eleni, trefnwyd Darlith Flynyddol Ysgolion y Gyfraith Cymru 2014 gan yr Athro Suzannah Linton yn Ysgol y Gyfraith Bangor. Roedd yn fraint fawr i Fangor groesawu'r Athro James Crawford, A.C., S.C., F.B.A. Mae'r Athro Crawford wedi bod yn Athro Cyfraith Ryngwladol Whewell ym Mhrifysgol Caergrawnt ers 1992, ac mae'n un o gyfreithwyr rhyngwladol mwyaf nodedig y byd. Cafodd ei enwebu gan Awstralia i gael ei ethol i'r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol, ac mae'n gwnsler a chyflafareddwr poblogaidd mewn anghydfodau rhyngwladol. Yn y misoedd diwethaf, mae wedi ymddangos o flaen y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol yn East Timor v. Awstralia, achos hil-laddiad Croatia-Serbia, ac roedd yn gysylltiedig â'r fuddugoliaeth ddiweddar i Awstralia yn yr achos hela morfilod. Mae'r Athro Crawford yn aelod o'r Institut de droit international, mae'n fargyfreithiwr yn Siambrau Matrix yn Llundain, ac mae wedi derbyn llawer o anrhydeddau am ei gyfraniad rhagorol i faes Cyfraith Ryngwladol.
Y ddarlith hon yn 2014 yw trydedd ddarlith Flynyddol y Gyfraith. Trefnir y darlithoedd gan wahanol ysgolion y Gyfraith yng Nghymru bob blwyddyn, ac fe'u noddir gan bob ysgol y gyfraith a Chanolfan Gymreig Materion Rhyngwladol. Cynhaliwyd y ddarlith yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd ddydd Llun, 7 Ebrill 2014, gyda chynulleidfa lawn yn cynnwys academyddion, ymarferwyr a myfyrwyr o bob rhan o Gymru. Teithiodd nifer o fyfyrwyr a staff i lawr o Fangor i’r digwyddiad.
Cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Athro Suzannah Linton. Cyflwynodd Cwnsel Cyffredinol Cymru, y QC blaenllaw Theodore Huckle, yr Athro Crawford a'i gyflawniadau disglair mewn Cyfraith Ryngwladol a'r trafodwr, yr Athro Urfan Khaliq, Athro Cyfraith Ryngwladol Gyhoeddus a Chyfraith Ewrop, sy'n Adfocad Uchel Lys Punjab ac yn aelod o Ganolfan Rhagoriaeth Cyfraith a Llywodraethau Ewrop Jean Monnet, Prifysgol Caerdydd.
Rhoddodd yr Athro Crawford ddarlith feistrolgar ar 'Yr UE a Chyfraith Ryngwladol', yn archwilio'r cysylltiad rhwng cyfraith yr UE a chyfraith ryngwladol gyhoeddus. Gwnaeth hyn gan edrych ar dri chysylltiad. Roedd y cyntaf yn ystyried cyfraith yr UE a chyfraith cytundeb buddsoddi gan ganolbwyntio ar gytundebau buddsoddi dwyochrog rhwng aelod wledydd o'r UE, a chytundebau a wneir gyda gwledydd tu allan i'r UE. Roedd yr Athro Crawford hefyd yn edrych ar reoliad 2013 sy'n sefydlu trefniadau trawsnewidiol rhwng aelod wledydd yr UE a thrydydd gwledydd. Roedd yr ail gategori o gysylltu yn asesu trefn awdurdodaethol helaeth yr UE a chyfraith y môr, yn canolbwyntio ar achosion yn erbyn yr UE a ddygwyd gan Ddenmarc ar ran Ynysoedd Ffaroe. Mae'r Ynysoedd yn rhan o diriogaeth Denmarc, nid yw'n hunanlywodraethol ac nid yw'n rhan o'r UE ond mae ganddi statws trydedd wlad gyda statws blaenoriaethol gyda'r UE. Mae'r achos hwn yn ymwneud â gwrth fesuriadau a weithredwyd gan yr UE yn erbyn y Ffaroe mewn anghydfod am benwaig Sgandinafia-yr Iwerydd ym mharth economaidd neilltuedig y Ffaroe. Yn olaf, bu'r Athro Crawford yn ystyried cyfraith yr UE a statws talaith, a chyfeiriodd at y ddadl bresennol am annibyniaeth i'r Alban. Yn ymarferol, gwelodd fod Cyfraith Ryngwladol yn cael ei defnyddio pan yw'n ddefnyddiol a'i gwrthod pan nad yw'n ddefnyddiol. Roedd hi'n amlwg bod gan yr UE ran gyfreithiol bwysig, sydd wedi esblygu o'r sefydliad rhyngwladol nodweddiadol yr ydoedd yn wreiddiol i fod yn drefn gyfreithiol annibynnol weddol integredig sy’n rhyngweithio ac weithiau'n gwrthdaro gyda chyfraith ryngwladol gyhoeddus. Nododd yr Athro Crawford sut y gallai'r atebion cyfreithiol i broblemau amrywio o un sefyllfa i'r llall, yn arbennig pan fo'r un sy'n arsylwi yn lleoli ei hun y tu fewn neu'r tu allan i’r UE. Daeth i'r casgliad y byddai'r ddelwedd derfynol, yn y naill achos neu'r llall, yn 'pointilliste', yn cynnwys llawer o ddarnau.
Yn ddeheuig, defnyddiodd yr Athro Khaliq dri o enghreifftiau'r Athro Crawford am y berthynas rhwng yr UE a chyfraith ryngwladol i ddangos sut yr oedd gan gyfreithwyr rhyngwladol academaidd ddiddordeb i ddechrau yn y sefydliadau Ewropeaidd a chytundebau craidd Ewrop. Ond ni wnaeth hyn bara, ac yn gyffredinol roedd cyfreithwyr rhyngwladol wedi colli diddordeb wrth i gyfraith Ewrop ddatblygu ar hyd ei lwybr ei hun. Er gwaethaf hynny, dywedodd yr Athro Khaliq yr ymddengys bod cyfreithwyr rhyngwladol yn gweld Ewrop yn ddiddorol unwaith eto. Ychwanegodd at y tair enghraifft a roddwyd gan yr Athro Crawford, a chyfeiriodd ar yr achos enwog Kadi ynglŷn â'r rhestri terfysgwyr gan y Cyngor Diogelwch ar ôl ymosodiadau 9/11 ac ymateb yr UE.
Cadwyd sesiwn holi ac ateb bywiog i ddilyn, gyda chwestiynau'n amrywio o annibyniaeth yr Alban, sofraniaeth, hawliau dynol a chytundebau buddsoddi dwyochrog i awdurdodaeth eang sefydliadau Ewrop ac ymwahaniad mewn cyfraith ryngwladol.
Daeth y digwyddiad i ben gyda Llywydd Canolfan Gymreig Materion Rhyngwladol, y cyn-ddiplomydd nodedig, Syr Emyr Jones Parry, yn diolch yn gynnes i'r siaradwyr. Cyfeiriodd Syr Emyr at natur y gyfraith a beth sy'n rhesymol i'r cyhoedd ei ddisgwyl. Cyfeiriodd at achos Kadi hefyd i ddangos pwyslais yr UE ar Reol y Gyfraith. Siaradodd Syr Emyr am y ddadl yn y DU ynglŷn ag Ewrop, a'r heriau enfawr sy'n wynebu'r DU, yr Alban ac Ewrop os degnys refferendwm yr Alban bod y mwyafrif o blaid annibyniaeth.
Meddai'r Athro Linton, fel trefnydd a chadeirydd, y bu'n "bleser mawr i Fangor allu trefnu'r digwyddiad eithriadol hwn yng Nghaerdydd, a'i fod yn anrhydedd mawr i groesawu'r Athro Crawford. Roedd yn brofiad gwerthfawr iawn i wrando ar siaradwr mor ddawnus a chyfreithiwr rhyngwladol mor chwedlonol. Diolchodd i'r Ganolfan Gymreig Materion Rhyngwladol am helpu i sicrhau llwyddiant y digwyddiad. Dywedodd yr Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, Bangor, bod "Yr Athro Crawford wedi codi materion diddorol iawn sy'n dangos bod rhaid i gyfreithwyr yr UE a chyfreithwyr rhyngwladol edrych dros y ffens ar ei gilydd yn amlach, a chyfeiriodd at sut y bydd rhai o'r materion pwysig a fydd yn cael eu penderfynu cyn hir yn effeithio ar farchnad sengl yr UE ond ymddengys eu bod yn disgyn o fewn maes cyfraith ryngwladol yn hytrach na chyfraith yr UE. Dangosodd pa mor fawr yw awdurdodaeth eang fframwaith cyfreithiol yr UE, a hefyd sut mae rhai materion wedi codi'n ddiweddar, fel y rhai'n ymwneud â chytundebau buddsoddi dwyochrog, a hawliau pysgota'r Ynysoedd Ffaroe. Mae'r materion hyn y tu mewn a'r tu allan i afael barnweinyddiad yr UE, gan ddangos felly rhywfaint o'r cyfyng-gyngor diddorol iawn sy'n wynebu cyfreithwyr yr UE a chyfreithwyr Rhyngwladol Cyhoeddus wrth geisio eu datrys. Roedd ei sylwadau am ymrwymiad yr UE i reol y gyfraith yn berthnasol iawn, ac yn dangos bod gweithredoedd sefydliadol yr UE yn cymharu'n ffafriol â gweithredoedd neu ddiffyg gweithredoedd sefydliadau rhyngwladol eraill fel y Cenhedloedd Unedig."
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ebrill 2014