Yr Ysgol a ‘Gwaddol Gwyn’
Mae penwythnos o ddarlithoedd a thrafod ym Mangor yn gobeithio dal rhywfaint o amrywiaeth y cyfraniad anferth a wnaeth cyn-bennaeth adran y Gymraeg.
Mae’r gynhadledd ‘Gwaddol Gwyn’ yn edrych ar rai agweddau o’r gwaith a gyflawnodd y bardd a’r darlithydd Gwyn Thomas, gan gynnwys bron hanner canrif o gysylltiad gyda’r Brifysgol.
“Roeddan ni’n teimlo bod angen digwyddiad i gofio am un o brif ffigurau llenyddol Cymru yn ail hanner yr ugeinfed ganrif – roedd ei gyfraniad yn aruthrol,” meddai pennaeth presennol yr adran, yr Athro Gerwyn Wiliams.
“Mae hi’n hollol addas mai ym Mangor y mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal am mai yma y treuliodd o’r rhan fwya’ o ddigon o’i yrfa broffesiynol ac oedd o’n cael ei uniaethu efo’r lle. Mi fuodd yna genedlaethau o fyfyrwyr yn astudio wrth ei draed o.”
Mae’r gynhadledd, nos Wener a dydd Sadwrn 23 a 24 Mawrth yn adeilad Pontio, yn cynnwys sgyrsiau am amrywiaeth fawr o ddiddordebau Gwyn Thomas, o grefydd i deledu a ffilm ac o gyfieithu gweithiau Shakespeare i gerddi plant.
Un o’i gyfeillion a chyn-gydweithwr, Yr Athro Gruffydd Aled Williams, fydd yn agor y cyfan gyda darlith ar y nos Wener yn crynhoi holl amrywiaeth cyfraniad Gwyn Thomas ac mae un o fyfyrwyr ymchwil yr Ysgol, Elis Dafydd, wedi gwneud cyfweliadau ffilm gyda nifer o feirdd cyfoes yn sôn am ei ddylanwad arnyn nhw.
“Mi fydd hwnna’n adnodd gwerthfawr i ymchwilwyr yn y dyfodol,” meddai Gerwyn Wiliams. “Mae’n cynnwys llais mwy nag un genhedlaeth, sy’n addas iawn.”
Mi fyddai Gwyn Thomas wrth ei fodd gyda’r adeilad lle mae’r gynhadledd hefyd – canolfan gelfyddydau newydd y Brifysgol, Pontio.
“Fel un a gredai’n angerddol yn y celfyddydau, rwy’n tybio y byddai Gwyn wedi bod wrth ei fodd o wybod bod y gynhadledd hon yn cael ei chynnal mewn adeilad mor gyffrous ei bosibiliadau ag adeilad Pontio,” meddai Gerwyn Wiliams.
Does dim tâl am ddod i’r gynhadledd ond mae angen cofrestru ymlaen llaw. Mae’r manylion fan hyn:
www.bangor.ac.uk/cynhadledd-gwaddolgwyn
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mawrth 2018