Yr Ysgol Hanes yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Bydd staff a myfyrwyr o’r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg yn brysur yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau ar faes Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau eleni.
Ar ddydd Llun yr ŵyl (3 Awst) bydd lansiad prosiect adnoddau digidol ar yr Oesoedd Canol ar stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am 12.00. Cerys Hudson o’r Ysgol Hanes oedd y swyddog prosiect a luniodd yr adnoddau hyn, o dan arweiniad yr Athro Huw Pryce a Dr Euryn Rhys Roberts, Ar y dydd Llun yn ogystal, bydd yr Athro Pryce yn traddodi darlith Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion ar y testun ‘Cofio Glyndŵr’(Cymdeithasau 1 am 13.00).
Trwy gydol yr wythnos, bydd yr Ysgol Hanes yn casglu atgofion cyn-fyfyrwyr a staff am eu profiadau ym Mangor ar gyfer prosiect hanes llafar ‘Straeon Bangor’, sydd o dan arweiniad Dr Andrew Edwards a Dr Mari Wiliam. Ar y prynhawn dydd Mercher (5 Awst), bydd rhai o’n myfyrwyr a’n graddedigion diweddar - Sian Davenport, Ceri Owen, Anna Prysor Jones ac Angharad Jones – yn Aduniad Prifysgol Bangor i hel straeon o’r gorffennol.
Hefyd, am 12.45 ar y dydd Mercher ar stondin Prifysgol Bangor cynhelir darlith y Sefydliad Ymchwil i Ystadau Cymru (ISWE) a arweinir gan Nia Powell, Einion Thomas a Dr Lowri Ann Rees. Traddodir y ddarlith eleni gan yr Athro Prys Morgan, a’i destun yw ‘Dolobran a’i debyg: colli ac ailganfod plasau Cymru’. Bydd Nia Powell hefyd yn cystadlu yn Ymryson y Beirdd yn ystod yr wythnos.
Testun Dr Dinah Evans yn ei hanerchiad i Archif Menywod Cymru fore dydd Gwener, 7 Awst fydd ‘Torri Tir Newydd? Merched Cymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf’ (Cymdeithasau 2 am 11.30). Ar y dydd Gwener yn ogystal, bydd cyfle i weld Fflur Elin, sydd newydd raddio mewn Hanes, yn rhoi cyflwyniad am waith Undeb Myfyrwyr Bangor (stondin Prifysgol Bangor am 15.30).
Dyddiad cyhoeddi: 28 Gorffennaf 2015