Yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymweld â Chyfnewidfa Swequity Cymru
Yn ystod ymweliad diweddar â’r Inventorium, bu’r Ysgrifennydd Gwladol David Jones yn gweld yn uniongyrchol sut mae rhaglen arloesi agored wedi datblygu cwmnïau ar gam cynnar yn eu datblygiad. Mae Inventorium yn dwyn pobl ynghyd na fyddent wedi cwrdd â’i gilydd fel arfer, i rannu syniadau ac atebion sy’n arwain at ffurfio busnesau, prosesau a chydweithio newydd. Mae’n canolbwyntio ar dechnolegau digidol ar gyfer diwylliant, addysg, iechyd, twristiaeth, trafnidiaeth a’r sector cyhoeddus.
Aeth rhaglen Cyfnewidfa Swequity Inventorium ati i ddewis deuddeg o’r syniadau gorau a thrwy broses o ffurfio rhwydwaith busnes fe ddewiswyd aelodau tîm i’w cynorthwyo i’w gweithredu. Dros bum wythnos ddwys bu’r timau yn dilyn trywyddau gwahanol gyda’u syniadau gwreiddiol ar ôl siarad â’u cwsmeriaid er mwyn sicrhau eu bod nhw’n dilysu cynnyrch neu wasanaeth a oedd yn addas ar gyfer y farchnad.
Trwy fodelau busnes diwastraff, mae Cyfnewidfa Swequity yn gweithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant, mentoriaid a’r byd academaidd i gyflwyno’r rhaglen newydd a chyffrous hon. Aeth David Jones yn ei flaen i gwrdd â’r ddwy a enillodd Gyfnewidfa Swequity 2013. Dywedodd Gemma Hughes o MoodMwd ei bod yn bosib na fyddai hi wedi ystyried sefydlu ei busnes newydd hi oni bai fod Cyfnewidfa Swequity wedi’i chyflwyno hi i dechnolegydd, person wedi graddio ym maes seicoleg defnyddwyr a dylunydd creadigol.
Meddai Mr Jones “Mae’r ffaith fod graddedigion ifanc yn chwarae rhan allweddol yn y drefn yn tystio i’r arloesedd a’r doniau sydd gennym yng Nghymru.”
Dywedodd yr Athro Sian Hope, Cyfarwyddwr Gweithredol Arloesi ym Mhrifysgol Bangor “Rwyf wrth fy modd fod yr Ysgrifennydd Gwladol David Jones wedi gallu ymweld a chwrdd ag enillwyr Cyfnewidfa Swequity ac aelodau o’u timau. Rydym yn rhoi cryn bwys ar gefnogi ein graddedigion tuag at fenter trwy’r rhaglen hon sydd o ansawdd uchel.”
Roedd gan David Jones ddiddordeb mewn dysgu mwy am egwyddorion arloesedd agored a chlywed am y cynlluniau ar gyfer datblygu’r rownd nesaf o arian Ewropeaidd ar gyfer Inventorium. Mae Inventorium yn brosiect ar y cyd rhwng CAST, Cymru ac NDRC, Iwerddon ac fe’i ariennir yn rhannol gan Interreg 4A.
Mae Cynfyfyrwyr Cyfnewidfa Swequity ar gyfer 2012/3 i’w gweld yn www.swequityexchange.com
Dyddiad cyhoeddi: 29 Awst 2013