Ysgol Busnes Bangor yn mynd i bartneriaeth newydd â Guru Nanak
Mae Prifysgol Bangor wedi llofnodi cytundeb â Guru Nanak Institute of Management and Information Technology yn India. Dan y cytundeb hwn bydd myfyrwyr Guru Nanak yn gallu trosglwyddo eu hastudiaethau i Ysgol Busnes Bangor, un o Ysgolion Busnes gorau Ewrop.
Mae gan Guru Nanak naw coleg ar draws Gogledd India gyda chyfanswm o 7,200 o israddedigion ac ôl-raddedigion. Mae’r colegau hefyd yn gysylltiedig â rhwydwaith o 16 o ysgolion uwchradd sy’n cyflwyno’r maes llafur ysgolion uwchradd Indiaidd. Golyga’r cytundeb newydd hwn â Phrifysgol Bangor y gall myfyrwyr sy’n cwblhau eu blwyddyn gyntaf yn llwyddiannus yn un o golegau Guru Nanak drosglwyddo i Ysgol Busnes Bangor, yr Ysgol a ddaeth i’r safle uchaf ym Mhrydain am ymchwil mewn Cyfrifeg, Bancio a Chyllid.
Llofnodwyd y cytundeb ar ran Guru Nanak gan Yr Athro Gujral, Cyfarwyddwr y Guru Nanak Institute of Management and Information Technology, a gyfarfu â’r Athro Colin Baker, Dirprwy Is-Ganghellor dros Addysgu a Dysgu ym Mhrifysgol Bangor. Yn ystod ei ymweliad â Bangor, fe wnaeth Yr Athro Gujral hefyd roi seminarau ar Gyfraith Cwmnïau a Llywodraeth Gorfforaethol i fyfyrwyr yn Ysgol y Gyfraith y Brifysgol.
Mae ymweliad Yr Athro Gujral yn dilyn ei ymweliad llwyddiannus cyntaf ym Mehefin 2011, pan wnaeth ef a’r Athro John Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, lofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth rhwng y ddau sefydliad. Bydd Ysgol y Gyfraith Bangor hefyd yn croesawu myfyrwyr o Guru Nanak ar raglenni LLM a gobeithir y bydd Prifysgol Bangor yn cydweithio â’r Sefydliad ar nifer o raglenni eraill yn y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2011