Ysgol Busnes Bangor yn un o’r 15 uchaf yn y byd am ymchwil i fancio
Mae Ysgol Busnes Bangor nawr ymhlith y 15 sefydliad gorau yn y byd am ymchwil ym maes Bancio (Hydref 2013).
Yn ôl safleoedd RePEc, sef adain o Adran Ymchwil Economaidd Banc Cronfa Ffederal St Louis, ar gyfer Hydref 2013, daeth Bangor o flaen sefydliadau megis Ysgol Busnes Harvard a Phrifysgol Princeton. Cadwodd hefyd ei safle uchaf yn y DU, ar y blaen i Brifysgol Rhydychen a’r Ganolfan Ymchwil i Bolisi Economaidd, Llundain.
Mae arolwg RePEc yn ystyried ymchwil a chyhoeddiadau gan fanciau, economegwyr a sefydliadau ariannol, yn ogystal â phrifysgolion megis Bangor. Yn y tabl safleoedd diweddaraf hwn, dadansoddwyd data llyfryddol, dyfyniadau a data ar boblogrwydd 1,505 o sefydliadau.
Croesawodd yr Athro John Thornton y newyddion gan ddweud:
“Mae hyn yn gydnabyddiaeth haeddiannol gan yr adnodd ymchwil hwn sy’n uchel ei barch ymysg y gymuned academaidd . Gwelir fod Bangor yn y pedwerydd safle ar ddeg ar y rhestr, a dim ond sefydliadau ariannol swyddogol, fel yr IMF a Banc y Byd, a nifer fechan o’r prifysgolion tramor gorau, sy’n uwch na ni. Bangor yw’r brifysgol Ewropeaidd uchaf ar y rhestr ac mae yn yr wythfed safle ymysg prifysgolion byd-eang a restrir yn y tabl. Mae hyn yn atgyfnerthu ein safle fel y brifysgol uchaf ym Mhrydain am ymchwil mewn Cyfrifeg, Bancio a Chyllid. Gall myfyrwyr fydd yn ymuno â ni ym Mangor neu yn ein canolfan ddysgu yn Llundain gael eu sicrhau y byddant yn astudio gydag academyddion blaenllaw iawn yn eu gwahanol feysydd.”
Ar hyn o bryd, yn ôl yr Ymarfer Asesu Ymchwil (RAE) diweddaraf gan lywodraeth y DU, Ysgol Busnes Bangor yw’r Ysgol Fusnes orau yn y DU am ymchwil ym maes Cyfrifeg a Chyllid.
I weld y rhestr lawn, ewch i http://ideas.repec.org/top/top.ban.html
Dyddiad cyhoeddi: 7 Tachwedd 2013