Ysgol Cerddoriaeth yn enill dwy wobr Cronfa Goffa Thomas Ellis
Ar ôl edrych drwy ugeiniau o geisiadau oddi wrth nifer hynod o dalentog o ymgeiswyr, mae Prifysgol Cymru wedi cyhoeddi enillwyr Cronfa Goffa Thomas Ellis eleni.
Bydd y darlithydd Cerdd ym Mhrifysgol Bangor, Dr Guto Pryderi Puw, yn derbyn £1500, a bydd y myfyriwr PhD, Gwawr Ifan, hefyd o Brifysgol Bangor yn derbyn £1000.
Ag yntau’n gyfansoddwr preswyl gyda Cherddorfa Genedlaethol BBC Cymru rhwng 2006 a 2010, bwriad Guto yw gwario’r arian ar ddogfennu canlyniadau pedair blynedd o gyfansoddi, nad oes recordiadau stiwdio ar gael ohonynt eto.
Mae ei waith wedi ennill canmoliaeth eang gan feirniaid Cerdd cenedlaethol; enillodd Concerto for Oboe wobr Gwrandawyr BBC Radio 3 yng Ngwobrau Cyfansoddwyr Prydain yn 2007, ac enwebwyd Reservoirs am un o Wobrau’r Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol yn 2005.
Cafodd tri darn cerdd mawr eu cyfansoddi a’u datblygu yn ystod cyfnod Guto gyda’r gerddorfa, a berfformiwyd ledled y wlad. Ymhlith y neuaddau cyngerdd nodedig lle cynhaliwyd perfformiadau o’i gerddoriaeth roedd Neuadd Brycheiniog Aberhonddu, Neuadd Prichard Jones ym Mangor, Neuadd Frenhinol Albert yn Llundain, Modena, Brescia a Begamo yn yr Eidal.
Wrth dderbyn y dyfarniad, dywedodd Guto:
“Byddai cynhyrchu CD o fy nghyfansoddiadau cerddorfaol yn creu casgliad cynhwysfawr o fy nghynnyrch creadigol diweddar a byddai’n gyfraniad pwysig i fy mhroffil ymchwil. Ni fyddai hyn yn bosibl heb haelioni Prifysgol Cymru.”
A hithau’n astudio am radd PhD mewn Cerddoriaeth mewn Iechyd yn Ysgol Gerdd Prifysgol Bangor, defnyddiodd Gwawr ei dyfarniad i dalu am daith i Awstralia i gynhadledd ryngwladol ar Therapi Cerdd. Ystyrir bod Awstralia a Seland Newydd yn arloeswyr ym maes ymchwil Gwawr.
Mae Cerddoriaeth mewn Iechyd yn faes cymharol newydd yng Nghymru, ac felly y prosiect PhD hwn fydd yr ymchwil cyntaf o’i fath yng Nghymru ac yn y Gymraeg.
Traddododd bapur ar cerddoriaeth mewn iechyd yn y gynhadledd, ac ymwelodd ag arbenigwyr yn ymarfer therapi cerdd gan greu cysylltiadau byd-eang.
Gan dynnu bwysleisio pwysigrwydd y dyfarniad i’w phrosiect, dywedodd Gwawr;
“Mae’n fraint enfawr i gael fy ennill gwobr Cronfa Goffa Thomas Ellis. Bu’r wobr yn gymorth mawr i mi yn fy ymchwil doethurol, drwy alluogi i mi deithio i Awstralia lle rwyf i wedi creu cysylltiadau. Rwyf i’n ddiolchgar iawn am y cyfle arbennig hwn ac am y cysylltiadau pwysig yr wyf i wedi’u gwneud ac a fydd yn fanteisiol i’r Ysgol Gerdd ym Mangor yn y dyfodol”
Caiff grantiau o Gronfa Goffa Thomas Ellis eu dyfarnu i gynorthwyo ymchwil i iaith, llenyddiaeth, hanes a hynafiaethau Cymru a Mynwy a chyhoeddi canlyniadau ymchwil o’r fath.
Sefydlwyd y gronfa er cof am y diweddar Thomas Edward Ellis MA, Warden Urdd y Graddedigion (1896-1899), ac Aelod Seneddol Meirionnydd yn ystod 1886-1899.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2011