Ysgol Cychwyn Busnesau, a gynhaliwyd gan Byddwch Fentrus
Y Pasg hwn, daeth grŵp o fyfyrwyr a graddedigion at ei gilydd ar gyfer Ysgol Cychwyn Busnesau flynyddol Bangor, a drefnir gan Broject Byddwch Fentrus, sy’n rhan o’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd. Bu mwy na 25 o fyfyrwyr o amrywiaeth o gefndiroedd pynciol academaidd yn bresennol yn y gyfres o weithdai a gynhaliwyd yn ystod cyfnod o 4 diwrnod. Roeddent yn anelu at fyfyrwyr a oedd yn ystyried hunan-gyflogaeth yn ystod eu hastudiaethau neu ar ôl gorffen.
Roedd y sesiynau’n canolbwyntio ar y wybodaeth a’r medrau entrepreneuriaeth penodol sydd eu hangen i gychwyn a chynnal busnes newydd llwyddiannus. Roedd y pynciau a gafodd sylw yn cynnwys: gwerthu a marchnata; defnyddio cyfryngau cymdeithasol ar gyfer cychwyn busnesau; cyllid busnesau; medrau cyd-drafod, a hyrwyddo/ cyflwyno syniad ar gyfer busnes. Chris Walker o Fenter Cymru a hwylusodd y gweithdai rhyngweithiol hyn a oedd yn seiliedig ar brofiad.
Dyma ddisgrifiad Ben Jones, myfyriwr israddedig yn yr Ysgol Fusnes, o’r gyfres o weithdai:
“Cwrs gwych, a roddodd gipolwg ar y sialensiau go-iawn sy’n gysylltiedig â chychwyn busnes llwyddiannus yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, a wedi’i gyflwyno mewn modd dealladwy gan staff gwybodus a chyfeillgar.”
Bu’r rhai a oedd yn bresennol hefyd yn cydweithio mewn grwpiau i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ‘Ffau’r Ddraig’, lle roedd yn rhaid i’r grŵp ddatblygu syniad busnes a’i gyflwyno i banel o entrepreneuriaid lleol ac arbenigwyr mewn cyflogaeth. Roedd panel beirniaid Ffau’r Ddraig yn cynnwys: John Jackson, Swyddog Gwobrau Cyflogadwyedd; Charlotte Hall, Myfyrwraig ôl-raddedig a Chyfarwyddwr Twelfth Man Ltd; Mici Plwm, Cyfarwyddwr Digwyddiadau MP; a Gilbert Gillan, Cyfarwyddwr Hinton Interiors.
Cyflwyno syniad ar gyfer gwesty moethus modern mewn ardal dwristaidd leol wnaeth y grŵp buddugol, gan greu argraff wych ar y beirniaid, wrth ymateb yn ddigyffro a chydlynol i holi brwd, byrfyfyr yn y Ffau. Roedd aelodau’r tîm yn cynnwys: Emma Davies a Benjamin Jones, Ysgol Busnes; ac Isabelle Marten ac Olivia Whatley, Seicoleg.
Meddai Seidu Ahmed, myfyriwr ôl-raddedig o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth:
“Roeddwn ychydig yn betrus cyn mynd i’r ysgol cychwyn busnesau, ond byddwn wedi colli llawer oni bai imi fynd. Os ydych am wybod sut i wireddu eich posibiliadau llawn, mae angen ichi ymuno â’r dosbarth nesaf.”
Mae project Byddwch Fentrus yn cynnal gweithdai, cystadlaethau a digwyddiadau eraill yn gyson yng nghyswllt medrau entrepreneuriaeth a chychwyn busnesau. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.bangor.ac.uk/careers neu www.facebookcom/b-enterprising, neu cysylltwch â’r tîm:
E-bost: b-enterprising@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 383651.
___
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2011