Ysgol Graddedigion y Celfyddydau a'r Dyniaethau - Efrydiaeth PhD Dair Blynedd ym Maes y Gymraeg / Astudiaethau Celtaidd a gyllidir gan yr AHRC
Gwahoddir ceisiadau gan Ysgol Graddedigion y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Bangor am un o Efrydiaethau PhD yr AHRC ym maes y Gymraeg/Astudiaethau Celtaidd, a fydd yn dechrau ar 1 Hydref 2013. Ym maes eang Astudiaethau Celtaidd, cydnabyddir bod gan Fangor wir ragoriaeth ar gyfer astudio Cymraeg, a gall y rhaglen ymchwil ganolbwyntio ar unrhyw faes sy’n berthnasol i lenyddiaeth Gymraeg o’r Oesoedd Canol hyd at y presennol. Gellir canolbwyntio hefyd ar feysydd sy’n gymharol eu natur, gan gysylltu’r Gymraeg â meysydd astudio megis Hanes Cymru, Crefydd, Archaeoleg, Cerddoriaeth, Llenyddiaeth Saesneg, Ysgrifennu Cymreig yn Saesneg, Astudiaethau Arthuraidd, Ieithoedd Ewropeaidd, Astudiaethau Diwylliannol a Theori ynghyd ag Ideoleg Wleidyddol.
Dylai ymgeiswyr feddu ar record academaidd gadarn, gan gynnwys gradd BA (neu gyfwerth). Dylent feddu ar radd Meistr (neu fod wrthi’n astudio ar gyfer gradd Meistr ar hyn o bryd), ond rhoddir ystyriaeth hefyd i brofiad proffesiynol perthnasol. Rhaid i ymgeiswyr ddangos bod ganddynt y gallu a’r dyfalbarhad i gwblhau traethawd PhD o fewn cyfnod yr ysgoloriaeth. Telir ffioedd llawn a bydd deiliad yr ysgoloriaeth yn derbyn lwfans o £13,590 y flwyddyn. Mae grantiau’r AHRC yn agored i ymgeiswyr o’r DU a’r UE. Ond gallai ysgoloriaethau i ymgeiswyr o’r UE fod yn gyfyngedig i grant ar gyfer ffioedd yn unig. Trefn ar gyfer gwneud cais Y dyddiad cau yw 5pm dydd Gwener 7 Mehefin 2013 a chynhelir cyfweliadau’n ddiweddarach yn ystod y mis hwnnw. Rhaid i ymgeiswyr ddefnyddio Ffurflen Gais Ôl-radd Ar-lein y Brifysgol sydd ar gael yma. https://bannerssb.bangor.ac.uk/EN-GB/bwskalog.P_DispLoginNon (i gael fersiwn Gymraeg o’r ffurflen, gofalwch bod y gosodiad iaith ar eich gwe-borwr wedi ei roi ar 'Cymraeg' a chliciwch i gael y dudalen gywir).
Bydd disgwyl i chwi ddarparu’r holl ddogfennau ategol y gofynnir amdanynt yn y ffurflen gais ar-lein, gan gynnwys amlinelliad o’r maes ymchwil (dim mwy na 1000 o eiriau). Yn yr amlinelliad hwnnw dylech grybwyll y materion a ganlyn:
(i) Unrhyw brofiad perthnasol o ran ymchwil, a disgrifiad byr o’r hyn y buoch yn ei astudio hyd yma ym maes addysg uwch.
(ii) Y maes ymchwil y carech weithio ynddo ac amcan bras o’r hyn y byddech yn gobeithio ei gyflawni yn eich traethawd PhD.
(iii) Os ydych wedi gwneud cais drwy sefydliad addysg uwch arall am un o efrydiaethau’r AHRC, dylech ddatgan hynny gan nodi enw'r sefydliad neu sefydliadau. Sylwer: Wrth ateb Cwestiwn 3, dan Eitem 5 y Rhestr Wirio ar y ffurflen gais ar-lein (‘A ydych yn ymgeisio am Broject neu Efrydiaeth Ymchwil a hysbysebwyd gan Brifysgol Bangor? Os ydych, nodwch lle clywsoch am y Project neu Efrydiaeth Ymchwil AC ysgrifennwch deitl llawn y project yma') mae angen i ymgeiswyr nodi'r hyn a ganlyn: Efrydiaeth 2015 a gyllidir gan yr AHRC – PhD Cymraeg / Astudiaethau Celtaidd
Am wybodaeth bellach am yr ysgoloriaeth hon, cysylltwch â’r Athro Peredur Lynch ( p.i.lynch@bangor.ac.uk), neu’r Athro Gerwyn Wiliams ( gerwyn@bangor.ac.uk) Ysgol y Gymraeg, Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG. (ffôn 01248 382240).
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2013