Ysgol Haf i Fyfyrwyr ar Ddechrau Busnes
Gyda busnesau bychain a chanolig yn chwarae rhan mor sylfaenol yn economi Cymru, mae Prifysgol Bangor yn rhoi pwyslais ar annog myfyrwyr i ystyried entrepreneuriaeth fel llwybr cyflogaeth posib yn y dyfodol ac mae’n cefnogi hynny. Yn aml mae gan fyfyrwyr a graddedigion y syniadau busnes a’r egni i gyfrannu at y sector economaidd bwysig hon, sydd yn cwmpasu diwydiant a gwasanaethau.
Cynhelir ‘ Ysgol Haf Dechrau Busnes’ ym Mhrifysgol Bangor ar 10-11 Mehefin. Bydd y digwyddiad yn arwain myfyrwyr drwy’r broses o ddod yn entrepreneur a dechrau busnes, gan roi sylw manwl i ddatblygu’r syniad a’i farchnata. Manteisir ar gyfryngau cymdeithasol holl bwysig i farchnata ac ymestyn y busnes. Bydd yr Ysgol Haf yn gorffen gyda her ‘Ffau’r Ddraig i’r cyfranogwyr.
Yn 2012, ffurfiodd Prifysgol Bangor Bartneriaeth Hwb Rhanbarthol gyda Grŵp Menai Llandrillo ac mae’n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i gynnal gweithgareddau menter ar y cyd. Mae’r Ysgol Haf Dechrau Busnes felly’n agored i fyfyrwyr addysg bellach Grŵp Menai Llandrillo yn ogystal â myfyrwyr a graddedigion y Brifysgol.
Arweinir yr Ysgol Haf gan Tim Ashcroft, entrepreneur a mentor busnes profiadol o Innovas, sydd ar hyn o bryd yn cefnogi nifer o fyfyrwyr blwyddyn olaf sydd yn dechrau busnesau, a Chris Walker, Ymgynghorydd Busnes Rhyngwladol a Mentor Dechrau Busnes i Raglen Cefnogi Menter HEFCW.
Eglurodd Chris Little, Pennaeth y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd: “ Mae ein gweithgareddau entrepreneuriaeth yn rhoi’r ysgogiad a’r wybodaeth i fyfyrwyr sut i fynd o’i chwmpas hi i ddechrau busnes neu i ystyried y dewis ymhellach mlaen yn eu gyrfaoedd. Rydym yn helpu myfyrwyr i adnabod a datblygu’r sgiliau hynny a fydd yn gwella’u cyflogadwyedd, p’un a ydynt yn ystyried gweithio i eraill neu eisiau mentro i fyd busnes ar eu liwt eu hunain, neu efo partner, rywbryd yn ystod eu gyrfaoedd.”
Un o ddewis eang o weithgareddau sy’n cael eu trefnu drwy’r flwyddyn yw’r Ysgol Haf. Fe’i trefnir gan Raglen Byddwch Fentrus y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd. Yn ogystal â’r Ysgol Haf, mae’r Gwasanaeth yn darparu gweithgareddau menter gan gynnwys cystadlaethau, mentora busnes a gweithdai sgiliau a seminarau ar bynciau perthnasol eraill.
Mae’r gweithgaredd yn digwydd yfel rhan o ymgyrch Prifysgolion Cymru – Tanio Tyfiant a gynhelir rhwng y 10fed a'r 14eg o Fehefin 2013. Mae’r ymgyrch yn dathlu cryfder y sector yn ogystal ag archwilio a dod i gasgliadau ynglyn â’r prif ffyrdd y gallai addysg uwch gyfrannu ymhellach i greu swyddi, ymchwil arobryn a thyfiant yma yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2013