Ysgol St Gerard's yn dod i’r brig!
Tîm o Ysgol St Gerard's ym Mangor a enillodd ornest gogledd Cymru yn y gystadleuaeth “Top of the Bench” eleni, a drefnwyd gan yr Ysgol Cemeg ym Mhrifysgol Bangor.
Cynhelir y gystadleuaeth genedlaethol i rai 14-16 oed gan y Gymdeithas Frenhinol Cemeg, a chynhelir gornestau ar hyd a lled y wlad.
Gwnaeth 10 tîm o ysgolion lleol gystadlu am y cyfle i gystadlu rhan yn y rownd derfynol, a gynhelir yn yr Adran Cemeg ym Mhrifysgol Birmingham ar 3 Mawrth 2018. Bydd St Gerard's yn teithio yno i gystadlu.
Meddai Dr Lorrie Murphy o Ysgol Cemeg Bangor: "Cawsom ein plesio'n fawr gyda lefel y wybodaeth gemeg a ddangoswyd gan bob un o'r ysgolion a ddaeth i gystadlu. Roedd yr ornest ranbarthol unwaith eto eleni yn un agos iawn gyda’r sgôr buddugol yn 55/70, sy'n sgôr da iawn. Dymunwn bob llwyddiant i St Gerard's yn Birmingham ym mis Mawrth.”
Cynhaliwyd y gystadleuaeth ar ddau safle trwy ddefnyddio sesiynau Skype ar gyfer y cyflwyniad a'r diweddglo, a chynhaliwyd y cwis ar yr un pryd ar y ddau safle.
Daeth 8 tîm i Fangor ac roedd 3 thîm yn Techniquest yn Wrecsam.
Yr ysgolion a gymerodd ran oedd:
- Ysgol Alun
- Ysgol Tryfan
- Rydal Penrhos School
- Ysgol Dyffryn Conwy
- Ysgol David Hughes
- Ysgol St. Gerard's
- Ysgol Eirias
- Coleg Dewi Sant
- Ysgol Aberconwy
- Ysgol Rhuthun
- Ysgol Croesoswallt
I gael rhagor o wybodaeth ddigwyddiadau i ysgolion yn yr Ysgol Cemeg, ewch i https://www.bangor.ac.uk/chemistry/schools.php.cy
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2018