Ysgol y Flwyddyn 2018!
Dymuna Ysgol y Gymraeg ddiolch o galon i’w holl fyfyrwyr a’i henwebodd yn y Gwobrau Dysgu dan Arweniad Myfyrwyr eleni. Yn y seremoni fawreddog a gynhaliwyd yn Neuadd Prichard Jones nos Wener ddiwethaf, enillodd Ysgol y Gymraeg gategori YSGOL Y FLWYDDYN 2018.
Meddai’r Athro Gerwyn Wiliams, Pennaeth Ysgol y Gymraeg:
“Mae’r ysgol yn ymfalchïo yn fawr iawn yn y wobr hon sy’n arwydd clir o werth a phwysigrwydd adrannau academaidd bach.”
Yng ngeiriau ei hwdis adrannol, ‘Bach yw hedyn pob mawredd’!
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2018