Ysgol y Gyfraith Bangor: uchaf yng Nghymru
Ysgol y Gyfraith, Bangor bellach yw ysgol orau'r gyfraith yng Nghymru, yn ôl y tablau cynghrair diweddaraf a gyhoeddwyd yn y Guardian University Guide ar gyfer 2018.
Mae'r Ysgol wedi codi i safle 23 yn y DU, o blith 98 o sefydliadau a gynhwysir yn y tablau, ac yn ymddangos yn uwch nag ysgolion y gyfraith eraill yng Nghymru.
Mae tablau cynghrair The Guardian yn cael eu cyfrifo o sgoriau sy'n mesur boddhad myfyrwyr, y gymhareb myfyrwyr/staff, gwariant fesul myfyriwr, cyfartaledd gofynion mynediad, a'r ganran o raddedigion sydd mewn gwaith neu astudiaeth bellach ar ôl graddio.
Yn y mesurau unigol, cafodd Ysgol y Gyfraith Bangor hefyd ei gosod yn 10fed yn y DU am foddhad myfyrwyr gydag addysgu, ac yn 8fed o ran boddhad myfyrwyr ag adborth.
Mae'r canlyniadau rhagorol hyn yn dilyn cyhoeddi Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2016, lle sgoriodd Bangor gyfanswm o 93% am foddhad myfyrwyr ym maes pwnc y Gyfraith - 5% yn uwch na chyfartaledd y sector.
Mae'r canlyniadau diweddaraf hyn yn dangos cynnydd aruthrol yr Ysgol dros y ddeng mlynedd ddiwethaf, a dywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Dermot Cahill:
"Mae ein sylw i adborth yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan ein myfyrwyr - ac mae hynny, ynghyd â dosbarthiadau o faint hylaw, yn creu profiad ardderchog i fyfyrwyr, lle bydd myfyrwyr yn cael cyfleoedd niferus i ryngweithio gyda'n hacademyddion arbennig, a chael cefnogaeth ganddynt. Mae llawer o ysgolion y Gyfraith y Deyrnas Unedig wedi aberthu ansawdd dros niferoedd; ym Mangor rydym wedi cymryd llwybr gwahanol, ac mae'r canlyniadau hyn yn cydnabod fod yr ansawdd yn uwch yma nac mewn llawer o ysgolion y Gyfraith eraill. Fel y cyfryw, rydym yn tueddu i ddenu myfyrwyr o ansawdd uwch, sydd â diddordeb yn ein graddau amlddisgyblaeth y Gyfraith, ynghyd â'r cyfleoedd rydym yn eu cynnig i astudio dramor, sy'n cyfrannu at amgylchedd dysgu cadarnhaol iawn."
Ychwanegodd: "Mae myfyrwyr yn arbennig o werthfawrogol o'r ffaith ein bod wedi sefydlu interniaethau gyda chwmnïau cyfreithwyr, sy'n eu cynorthwyo i ddod o hyd i swyddi da ar ôl eu gradd. Eleni, mae gennym fyfyrwyr mewn interniaethau ym Manceinion, Lerpwl, Caerdydd, Llundain, Brwsel a Dulyn. Mae'r cyfleoedd yn agoriad llygad iddynt i yrfaoedd posib yn y gyfraith, ac yn eu cynorthwyo i wneud y dewis gyrfa cywir ar ôl graddio."
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2017