Ysgol y Gyfraith Bangor yn chweched ar y cyd drwy Brydain o ran boddhad myfyrwyr
Cafodd Ysgol y Gyfraith Bangor sgôr anhygoel o 94% am 'foddhad cyffredinol' yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr eleni, gan ein rhoi yn chweched ar y cyd ymhlith ysgolion y gyfraith ym Mhrydain am foddhad myfyrwyr.
Sgoriodd Bangor 9% yn uwch na chyfartaledd y sector ac roedd y gyfradd boddhad myfyrwyr cyffredinol yn uwch nag ysgolion y gyfraith ym Mhrifysgol Rhydychen, King's College Llundain, SOAS, Birmingham, Caerdydd, Nottingham a Queens University Belfast, ymysg eraill.
Cafodd yr ysgol sgôr eithriadol o dda hefyd am staff yn dda am egluro pethau (95%) a myfyrwyr yn gallu cysylltu â’r staff pan oedd angen (93%).
Cynhelir Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr bob blwyddyn ymysg myfyrwyr israddedig yn y flwyddyn olaf mewn sefydliadau addysg ledled y DU. Ei fwriad yw casglu sylwadau gonest am ansawdd y cwrs a phrofiad cyffredinol myfyrwyr.
"Rydym wrth ein bodd gyda'n sgôr boddhad cyffredinol o 94%", meddai'r Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, Bangor. "Mae'r sgôr yn adlewyrchu ansawdd rhagorol ein dysgu yn yr ysgol; yr amser a dreulir gan staff yn helpu myfyrwyr ac yn rhoi sylw i adborth myfyrwyr; a mentrau unigol fel cyflwyno blaenddalen newydd i draethodau y llynedd, sydd yn ein helpu i roi sylwadau manylach i fyfyrwyr. Cafodd 98% o'r adborth ei ddychwelyd mewn pryd i fyfyrwyr y llynedd - eleni rydym yn anelu at ei gynyddu i 100%!"
"Rydym yn mynd yr ail filltir i'n myfyrwyr", ychwanegodd Dr Yvonne McDermott, Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu Ysgol y Gyfraith Bangor. "Er enghraifft rydym newydd lansio cynllun bwrsariaeth, sy'n cynnig cymorth ariannol i fyfyrwyr sydd eisiau gwneud profiad gwaith. Mae ein Pwyllgor Cyflogadwyedd, dan gadeiryddiaeth Mr Gwilym Owen, yn helpu myfyrwyr i gael hyd i leoliadau gwaith ac nid yw'r rhain wedi eu cyfyngu i lwybrau cyflogaeth traddodiadol fel cyfreithwyr neu fargyfreithwyr. Rydym hefyd yn hyfforddi a gweithredu fel beirniaid gwadd i fyfyrwyr sy’n cymryd rhan mewn cystadlaethau ffug lys, ac yn mynd â myfyrwyr ar deithiau i sefydliadau cenedlaethol, Ewropeaidd a rhyngwladol."
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2013