Ysgol y Gyfraith Bangor yn croesawu Ysgol y Gyfraith o'r UD i Academi Haf
Mae Ysgol y Gyfraith Bangor yn falch o groesawu 32 myfyriwr y gyfraith o’r UD i Brifysgol Bangor yr wythnos hon i gymryd rhan mewn rhaglen wythnos ar gyfraith eiddo deallusol rhyngwladol, dan arweiniad Howard Johnson. Mae hwn yn ddigwyddiad cyffrous iawn i’r Brifysgol, gan mai dyma’r tro cyntaf i grŵp mawr o fyfyrwyr y gyfraith o’r UD ymweld ag Ysgol y Gyfraith Bangor.
Trefnwyd y rhaglen gan Bennaeth Ysgol y Gyfraith, yr Athro Dermot Cahill, sy'n gyd-gyfarwyddwr yr University of Missouri (Kansas City)/Southern Illinois University Summer Law Academy yn Iwerddon ers nifer o flynyddoedd. Cynhelir y rhaglen ers 11 mlynedd erbyn hyn, ac ychwanegwyd wythnos arall at y rhaglen sy’n ymweld â Chymru am y tro cyntaf eleni.
Bydd hyn yn caniatáu i’r myfyrwyr gymharu systemau cyfreithiol Iwerddon a’r Deyrnas Unedig, sy’n defnyddio systemau cyfraith gwlad er bod amrywiaeth yn rhai o’r agweddau. Yn ogystal â hyn, caiff y myfyrwyr ddysgu am gysyniadau cyfreithiol byd-eang yn ymwneud a chyfraith eiddo deallusol rhyngwladol a chânt hefyd drafod gyda chyfreithwyr lleol ac aelodau o'r farnwriaeth.
Wrth gyhoeddi dyfodiad Rhaglen Haf y Gyfraith i Ysgol y Gyfraith Bangor, dywedodd yr Athro Dermot Cahill: “Mae Ysgol y Gyfraith Bangor yn falch dros ben o groesawu'r myfyrwyr gwych hyn o'r UD i Brifysgol Bangor. Maent yn frwd iawn, yn awyddus i ddysgu ac yn gweithio'n galed iawn yn ystod pob diwrnod o'r rhaglen i ddysgu a chynyddu eu gwybodaeth o'r gyfraith. Mae Ysgol y Gyfraith Bangor yn edrych ymlaen at gynyddu ei chydweithrediad gydag ysgolion y gyfraith UMCK/SIU, ac rwy’n hynod o falch bod fy nghyd-gyfarwyddwr, yr Athro Edwin T Hood, wedi cytuno i ddod â’r rhaglen i Fangor am y tro cyntaf. Mae Edward T Hood yn arbenigwr ar gyfraith trethiant rhyngwladol, ac rwy’n siŵr y gwnaiff fwynhau trafod gyda chyfreithwyr masnach ryngwladol a chyfreithwyr busnes yr ysgol.”
“Yn ogystal â hyn, bydd dod â’r rhaglen yma i Gymru yn gyfle i fyfyrwyr o’r UD gael profiad o ddiwylliant Cymru, a gweld harddwch y tirlun amgylcheddol glân a naturiol. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd eu hymweliad yn gymorth i gynyddu enw da Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor yn rhyngwladol wrth i’r blynyddoedd fynd heibio. Ar ôl cynnal rownd derfynol ranbarthol cystadleuaeth y Llys Ffug Ewropeaidd yma ym Mangor yn 2008 a 2009, mae dod â’r ysgol ryngwladol hon i Fangor yn gwella ein henw da yn rhyngwladol, ac rydym hefyd yn meithrin cysylltiadau rhwng Ysgol y Gyfraith Bangor a chyfadrannau’r gyfraith yn yr UD sy'n ymwneud â threfnu’r rhaglen hon. Er enghraifft, bydd un o athrawon SIU, sy’n arbenigwr ym maes moeseg feddygol a chyfraith gofal iechyd, yn treulio blwyddyn Sabothol yma fel aelod staff academaidd yn 2011, a bydd hyn yn siŵr o gryfhau'r cysylltiad rhwng y ddwy ysgol a hefyd rhwng yr ysgol yn yr UD a'r Ysgol Gwyddorau Meddygol newydd yma ym Mangor.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ebrill 2011