Ysgol Y Gyfraith Bangor yn dathlu 10 mlynedd o ragoriaeth
Yr wythnos nesaf bydd dros 150 o gyn-fyfyrwyr a chyn staff Prifysgol Bangor yn dod i ddathliad arbennig i nodi deng mlynedd ers sefydlu Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor.
Ers ei sefydlu yn 2004 mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor wedi saethu i fyny'r tablau cynghrair gan ddod y flaenaf o blith ysgolion y gyfraith yng Nghymru, yn ôl y tablau cynghrair diweddaraf a gyhoeddwyd gan The Guardian.
Bellach mae yn safle 32 ym Mhrydain ac mae llawer o'i chyn fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i swyddi llwyddiannus fel bargyfreithwyr a chyfreithwyr gyda chwmnïau a siambrau o safon. Ceisir ei graddedigion hefyd gan gyflogwyr mewn sectorau tu allan i'r byd cyfreithiol.
Mae'r Athro Dermot Cahill, Pennaeth yr Ysgol, yn priodoli'r llwyddiant hwn i faint bychan y dosbarthiadau. "Mae Ysgol y Gyfraith yn canolbwyntio ar ddatblygu ymwybyddiaeth fasnachol ac mae'r rhwydwaith enfawr sydd ar gael i alumni Bangor drwy'r cysylltiadau helaeth a ddatblygwyd gan ein staff yn allweddol i lwyddiant ein graddedigion.
"Rydym wedi osgoi'r demtasiwn, y mae llawer o ysgolion y gyfraith ym Mhrydain wedi syrthio iddi, o ddatblygu'n ysgol fawr yn hytrach na chynnig profiad prifysgol o safon uchel i'w graddedigion; o ganlyniad mae ein graddedigion ymhell ar y blaen pan mae'n dod yn fater o baratoi ar gyfer y farchnad swyddi gystadleuol iawn sy'n bodoli."
Mae safle'r ysgol, sef y gyntaf yng Nghymru a'r 13eg ym Mhrydain yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr diweddaraf, yn tystio i hyn. Felly hefyd, y nifer eithriadol uchel o'i myfyrwyr - yn y 90au - sy'n cael swyddi yn y maes, o'i gymharu â chyfartaledd y sector o 62%. Mae hyn yn ei rhoi yn agos i'r brig o ran cyflogadwyedd ymysg ysgolion y gyfraith ym Mhrydain.
Bellach mae ei Ffair y Gyfraith flynyddol yn denu rhai o brif gwmnïau a siambrau'r gyfraith sydd eisiau cyflogi graddedigion Bangor, ac mae'r prif bleidiau gwleidyddol yn Llundain a Chaerdydd yn ceisio cyngor strategol gan ei hacademyddion mewn meysydd fel cyfraith a strategaeth pryniant cyhoeddus.
Mae rhai o alumni Bangor hyd yn oed wedi sefydlu eu cwmnïau cyfreithiol eu hunain, tra bo eraill wedi aros yn y byd academaidd, gan astudio am raddau PhD neu LLM o blith darpariaeth helaeth yr Ysgol o raglenni arbenigol mewn Cyfraith Pryniant Cyhoeddus a Chyfraith Droseddol Ryngwladol.
Mae cerrig milltir o bwys yn hanes yr Ysgol yn cynnwys bod y sefydliad Cymreig cyntaf i gystadlu yng Nghystadleuaeth Ffug Lys Barn Rhyngwladol Telders a chael ei gwahodd i ddadlau mewn ffug lys gerbron y Goruchaf Lys yn Llundain.
Y llynedd, dathlodd agor ystafell ffug lys barn gan Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr ac yn 2014 a 2015 fe wnaeth aelodau staff academaidd gyrraedd rownd derfynol Prydain am wobr 'Athro'r Gyfraith y Flwyddyn' a gynhelir gan Wasg Prifysgol Rhydychen, sy'n tystio i ragoriaeth dysgu'r Gyfraith ym Mangor.
Dethlir y llwyddiannau hyn, a llawer eraill, mewn digwyddiad deuddydd nodedig a gynhelir ym Mhrifysgol Bangor ar 31 Gorffennaf a 1 Awst, gyda staff a myfyrwyr presennol yn ogystal â chyn staff a myfyrwyr.
Bydd y dathliadau'n cynnwys barbiciw, derbyniad rhwydweithio, trafodaethau panel a gêm bêl-droed rhwng staff a myfyrwyr. Penllanw'r penwythnos fydd cinio mawreddog gyda'r Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yn bresennol, ynghyd â ffigurau amlwg o fyd y gyfraith, cerddorion a gwesteion arbennig eraill, yn cynnwys Shaun Wallace, Uwch Fargyfreithiwr yn Great James Street Chambers s seren 'The Chase' ar ITV.
Bu Shaun yn fargyfreithiwr amddiffyn mewn achosion troseddol am 25 mlynedd ac mae ganddo brofiad enfawr ar draws ystod eang o achosion troseddol difrifol, yn cynnwys llofruddiaeth - yn arbennig achosion Operation Trident - dynladdiad, troseddau rhywiol difrifol, twyll, gwyngalchu arian, gwerthu arfau a chyffuriau. Erbyn hyn mae'n wyneb cyfarwydd iawn ar y teledu, gan ennill 'Mastermind' y BBC yn 2004 ac mae wedi ymddangos yn 'Eggheads', '15-1', 'The Weakest Link' a 'The Chase', lle mae'n ymddangos fel 'Chaser' ar hyn o bryd. Mae wedi cyflwyno rhaglenni ar Radio 4 ac mae'n gyfrannwr rheolaidd ar Radio 5 Live.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2015