Ysgol y Gyfraith Bangor yn paratoi ar gyfer Cynhadledd Ryngwladol Fawr
Mae Ysgol y Gyfraith Bangor yn paratoi tuag at gynnal cynhadledd fawr ym maes Cyfraith Cystadleuaeth ym mis Gorffennaf, a fydd yn croesawu siaradwyr gwadd o bob cwr o’r byd.
Bydd Sefydliad Cystadleuaeth a Chaffael yr Ysgol (ICPS) yn cynnal y Gynhadledd Ryngwladol ar Esblygiad a Dyfodol Cyfraith a Pholisi Cystadleuaeth India ddydd Gwener 15 a dydd Sadwrn 16 Gorffennaf 2011.
Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar faes cystadleuaeth ryngwladol. Yn cymryd rhan bydd y Barnwr John Cooke (a ddaeth yn enwog trwy achos Microsoft) cynt o Lys Gwrandawiad Cyntaf Ewrop, felly hefyd cyfreithwyr o gwmnïau rhyngwladol blaenllaw, yn ogystal ag economegwyr o’r Unol Daleithiau, swyddogion y Comisiwn Ewropeaidd ac ymarferwyr cyfraith cystadleuaeth o bob rhan o’r byd.
Dyma rai o’r pynciau fydd dan sylw:
Uno – esblygiad canllawiau byd-eang.
Cystadleuaeth- pam mae'n rhaid i normau cystadlu fod yn fyd-eang ac yn genedlaethol.
India- All Comisiwn Cystadleuaeth India ddelio’n effeithiol â materion rheolaeth?
Camddefnyddio goruchafiaeth- rhai gwersi cynnar o India.
Ymysg y prif siaradwyr yn y gynhadledd eleni fydd:
Y Barnwr John Cooke, Uchel Lys, Dulyn, cynt yn Farnwr Llys Gwrandawiad Cyntaf Ewrop.
Mr Jean-Yves Art, Cwnsler Cyffredinol Cyswllt, Microsoft, Brwsel.
Arshad (Paku) Khan, Cyfarwyddwr, Cyfraith Cystadleuaeth, Cyfreithwyr Amarchand Mangaldas, Delhi.
KK Sharma, Cynghorydd (Cyfraith), â gofal am Reoli Uno a chyn Gyfarwyddwr Cyffredinol, Comisiwn Cystadleuaeth India.
Dr Vincent Power, Partner, A&L Goodbody, Twrneiod, Dulyn
Yr Athro Dermot Cahill, Athro Cyfraith Fasnachol, Cyfarwyddwr Sefydliad Rhyngwladol Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael Bangor a Deon Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor.
Mr M Kirti Kumar, Cyn Gyfarwyddwr Cartelau yng Nghyfarwyddiaeth Gyffredinol Cystadleuaeth, Comisiwn Ewropeaidd. (Gwahoddwyd).
Francisco Enrique Gonzalez Diaz, Cyn Ddirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Cystadleuaeth, Comisiwn Ewropeaidd, Partner, Cleary Gottlieb Steen a Hamilton LLP, Brwsel (Gwahoddwyd)
Yr Ustus Anrhydeddus Deepak Verma (Gwahoddwyd)
I gael rhagor o wybodaeth am y Gynhadledd, gan gynnwys y rhaglen a rhestr lawn o siaradwyr, cliciwch yma.
Dylid cyfeirio pob ymholiad at Mrs Anwen Evans yn Ysgol y Gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2011