Ysgol y Gyfraith Bangor yn rhoi Cymrodoriaeth er Anrhydedd i’r Athro Malcolm Evans
Mae’r Athro Malcolm Evans o Brifysgol Bryste i dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Bangor am ei gyfraniad i fyd y Gyfraith.
Yn enedigol o Gymru, mae’r Athro Evans yn un o gyfreithwyr rhyngwladol mwyaf nodedig gwledydd Prydain, gydag enw da iddo’n fyd-eang. Mae ei waith wedi cael ei gyhoeddi’n gyson yn y prif gyfnodolion a chan gyhoeddwyr rhyngwladol blaenllaw. Mae’n awdur ac yn gydawdur nifer o lyfrau ar bynciau mor amrywiol â Chyfraith Forwrol, Rhyddid Crefyddol, Cyfraith Ryngwladol a Cyfraith Adnoddau Dynol.
Gwasanaethodd yr Athro Evans am nifer o flynyddoedd fel Deon Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithas a’r Gyfraith ym Mhrifysgol Bryste ac mae’n ddeiliad grantiau ymchwil tra phwysig gan gyrff cyllido ymchwil blaenllaw, megis y Comisiwn Ewropeaidd a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Yn 2004 derbyniodd yr OBE gan y Frenhines am ei gyfraniad ym maes atal poenydio a hyrwyddo rhyddid crefyddol.
Ddydd Llun, 16 Gorffennaf, bydd yn ymuno â myfyrwyr graddedig Bangor i dderbyn ei Gymrodoriaeth er Anrhydedd yn seremoni raddio Ysgol y Gyfraith.
“Gyda’r Ysgol newydd gael cymeradwyaeth y Brifysgol i sefydlu Canolfan Cyfraith Ryngwladol, mae’n adeg priodol iawn i Brifysgol Bangor benodi Cymrawd er Anrhydedd ym maes Cyfraith Ryngwladol, ac mae’r Athro Evans yn cyd-fynd â'r gofynion yma'n berffaith," meddai'r Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Bangor. “Rydym yn edrych ymlaen at weithio â’r Athro Evans i gael cyngor ac arweiniad wrth i’r Ganolfan Ymchwil newydd yma fynd ati i wneud argraff ar y llwyfan rhyngwladol.”
Ychwanegodd yr Athro Cahill: “Mae derbyniad yr Athro Evans o wahoddiad y Brifysgol iddo ddod yn Gymrawd er Anrhydedd yn ffurfioli ein cysylltiad â’r ysgolhaig a’r cyfreithiwr nodedig hwn, a fydd yn dod â bri eithriadol i Ysgol y Gyfraith ac i’r Brifysgol. Gall ein myfyrwyr hefyd edrych ymlaen at y dosbarthiadau meistr y bydd yn eu rhoi mewn meysydd fel y Gyfraith a Chrefydd, Atal Poenydio a Pharchu Hawliau Dynol. “
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mehefin 2012