Ysgol y Gyfraith i Gynnal Sgwrs We Byw ar gyfer Darpar Fyfyrwyr Ôl-raddedig
Mi fydd Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor yn cynnal sgwrs we byw ar gyfer darpar fyfyrwyr Ôl-raddedig o 11.00am ar Ddydd Mercher, 3ydd o Awst 2011, gydag arweinyddion y rhaglenni LLM yn International Law a Public Procurement Law & Strategy yma ym Mangor.
Dyma gyfle i sgwrsio gyda’r Athro Suzannah Linton a Dr Ama Eyo ac i holi eich cwestiynau ynglŷn â gofynion mynediad, ysgoloriaethau, strwythur y cyrsiau ac unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â’r rhaglenni canlynol yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor:
- LLM yn Public Procurement Law & Strategy
- LLM yn International Law
- LLM yn International Law (specialising in European Law)
- LLM yn International Law (specialising in Global Trade Law)
- LLM yn International Law (specialising in International Criminal Law & International Human Rights Law)
Am ragor o wybodaeth, a sut i gofrestru, ewch i wefan Ysgol y Gyfraith yn http://www.bangor.ac.uk/law/webchats.
Dyma gyfle amhrisiadwy i ymholwyr a darpar fyfyrwyr ganfod yr oll y maent angen ei wybod amdan astudio yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor ac i siarad yn uniongyrchol gydag arbenigwyr yn y maes.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Gorffennaf 2011