Ysgol y Gyfraith yn croesawu 200 o Gynrychiolwyr o Gymru’r Gyfraith
Ddydd Gwener, 7 Hydref, bydd Ysgol y Gyfraith Bangor yn croesawu Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, i roi’r prif anerchiad yng Nghynhadledd Flynyddol Cymru’r Gyfraith 2016, ynghyd â dros 200 o aelodau o uwch Farnwriaeth Cymru a Lloegr. Bydd arbenigwyr blaenllaw ym maes y Gyfraith Gyfansoddiadol yn ogystal â phobl ar frig y proffesiwn cyfreithiol ac athrawon prifysgol o bob cwr o'r Deyrnas Unedig, yn dod at ei gilydd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o sesiynau arbenigol llawn a grŵp ar y thema "Cydgyfeiriant neu Ddargyfeiriant rhwng Cyfraith Lloegr a Chyfraith Cymru."
Bydd y gynhadledd yn rhychwantu ystod o ddisgyblaethau, a chynhelir paneli arbenigol ar bynciau mor amrywiol ag effaith Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol ar ddinasyddion Cymru a gweithredu cyhoeddus; paneli ar y defnydd o Dechnoleg mewn Llysoedd yng Nghymru; a bydd datblygiadau mewn Cyfiawnder Gweinyddol mewn perthynas â’r gwahanol Ombwdsmyn a Thribiwnlysoedd sy’n britho maes y gyfraith yn cael eu hystyried.
Traddodir Darlith Flynyddol Michael Farmer eleni gan yr Arglwydd Ustus Davis o’r Llys Apêl, a bydd Mr Ustus Moor yn cadeirio panel o arbenigwyr fydd yn trafod Deddf Llesiant Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) ac yn ystyried sut mae dull gweithredu Cymru yn wahanol i'r dull gweithredu yn Lloegr mewn meysydd fel cyfraith a pholisi gofal plant.
Bydd Bil Cymru, sydd ar hyn o bryd yn mynd ar ei ffordd trwy San Steffan, yn destun craffu manwl, a BREXIT, sy’n cael ei drafod yn Nhŷ’r Cyffredin hyd yn oed yn fwy teilwng o archwiliad manwl gan banel dan arweiniad yr Athro Rick Rawlings o UCL. Bydd Comisiynydd y Gyfraith ar gyfer Cymru a Lloegr, yr Athro Nick Hopkins, yn arwain panel ar y gwahaniaethau sy’n datblygu rhwng Cyfraith Lloegr a Chyfraith Cymru yng nghyd-destun Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru), a bydd Llywydd Cymdeithas y Gyfraith, Robert Bourns, yn cadeirio panel ar Heriau a Chyfleoedd Cyfraith Cymru ar Waith. Cynhelir sesiynau hefyd ar wahaniaethau mewn Cyfraith Cynllunio a Chyfraith Teulu, a sesiwn hollol newydd ar Ddeddf Trawsblaniadau Cymru fydd yn gofyn a yw'r cyhoedd a'r Llywodraeth yn deall pwrpas cynllun trawsblaniadau organau dynol Cymru yn yr un ffordd.
Cynhadledd eleni fydd y cynulliad mwyaf erioed yn hanes Cynhadledd Cymru'r Gyfraith. Croesawodd Cyfarwyddwr y Gynhadledd eleni, yr Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Bangor, y diddordeb aruthrol yn y rhaglen o bob cwr, a dywedodd “Mae'n amlwg bellach fod gwahaniaethau mawr yn datblygu yn y ffordd mae deddfwrfeydd Cymru a Lloegr yn ymagweddau at faterion cyffredin sy'n effeithio ar y dinesydd, ac mae'n galonogol gweld faint o ddiddordeb sydd ar ddwy ochr y ffin, ymhlith academyddion, ymarferwyr, y farnwriaeth a swyddogion cyhoeddus, sydd i gyd yn awyddus i gael dealltwriaeth ddyfnach o lwybrau tebygol yn y dyfodol ar draws ystod o feysydd allweddol ". “Ac wrth gwrs", ychwanegodd, "mae BREXIT yn ychwanegu ychydig o gyffro i ddigwyddiadau a fydd yn gwneud trafodaethau'r gynhadledd eleni hyd yn oed yn fwy diddorol. Gan gadw'r gwin gorau tan y diwedd, bydd y Gynhadledd yn dirwyn i ben gydag Anerchiad gan yr Arglwydd Brif Ustus sy'n ymweld â Bangor am yr eildro, wedi agor ei Ffug Lys yn 2014.”
Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2016