Ysgol y Gyfraith yn croesawu Martijn Quinn o'r Comisiwn Ewropeaidd fel darlithydd gwadd
Bydd darlithydd gwadd o'r Comisiwn Ewropeaidd yn cyfrannu at y modiwl cyfraith amgylcheddol yn Ysgol y Gyfraith Bangor.
Bydd Mr Martijn Quinn, aelod o swyddfa breifat Comisiynydd yr Undeb Ewropeaidd dros Gymorth Dyngarol ac Ymateb i Argyfwng, yn cyflwyno seminarau ar bolisïau amgylcheddol ym mis Chwefror a mis Mawrth.
Graddiodd Mr Quinn o Brifysgol Caeredin a Choleg Ewrop, Bruges, a bu'n gweithio yng nghabinet Savros Dimas, cyn-gomisiynydd amgylcheddol yr Undeb Ewropeaidd, fel ei ddirprwy am nifer o flynyddoedd, gan weithio ar bolisïau amgylcheddol yr Undeb Ewropeaidd a materion amgylcheddol. Mae Mr Quinn yn arbenigwr ar bolisi amgylcheddol a chysylltiadau allanol yr UE ac erbyn hyn mae'n cynghori'r comisiynydd Kristalina Georgivea ar faterion yn ymwneud â'r amgylchedd a newid hinsawdd. Cyn hynny, bu’n gweithio gyda'r comisiynydd Poul Nielson ar bolisïau datblygu.
"Rydym yn falch dros ben o groesawu ymwelydd nodedig arall ar ein rhaglen o ddarlithwyr gwadd", meddai'r Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, Bangor. "Er mai myfyrwyr sy'n astudio'r modiwl cyfraith amgylcheddol fydd yn bennaf yn bresennol yn y seminarau hyn, bydd myfyrwyr eraill y brifysgol hefyd yn gallu dod i'r seminarau, gan eu bod yn cael eu hanelu at y gyrwyr polisi sydd wrth wraidd newid yn yr hinsawdd, a dylanwad yr Undeb Ewropeaidd ar bolisïau newid hinsawdd mewn cyd-destun byd-eang, yn hytrach na materion cyfreithiol penodol."
Cynhelir seminarau Mr Quinn ddydd Mercher 20 Chwefror, rhwng 2 a 6pm yn ystafell 1.06, adeilad Alun a dydd Gwener 8 Mawrth rhwng 9pm ac 1pm yn narlithfa 5, Prif Adeilad y Celfyddydau. Bydd y pynciau dan sylw’n cynnwys:
- The Rise – and Fall – of Environmental Politics (Globally and in Europe)
- European Union Environmental Policy: Actors and Institutions
- EU Environmental Policy: Challenges and Response
- Environmental Challenges: Case Studies
- The EU as an "ENVIRONMENTAL UNION"?
- Is the EU effective in terms of delivering effective environmental policies?
- Looking to the Future - 2020 and Beyond - are we at the beginning of a real paradigm shift – new politics and new environmental economics?
Mae croeso i fyfyrwyr yr amgylchedd neu fyfyrwyr eraill yn y brifysgol sydd â diddordeb mewn polisïau newid hinsawdd ddod i'r seminarau.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2013