Ysgol y Gyfraith yn croesawu’r Arglwydd Brif Ustus
Fe fydd y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Thomas o Cwmgiedd, Prif Arglwydd Ustus Lloegr a Chymru, yn traddodi Darlith Flynyddol Public Law mewn cydweithrediad a’r cylchgrawn Public Law (cyhoeddiad Thomson Reuters). Teitl y Ddarlith yw “The Future of Public Inquiries”. Mae’r Ddarlith, sydd yn cael ei noddi gan Thomson Reuteurs, o bwys cenedlaethol, yn enwedig o ystyried dadleuon diweddar yn amgylchynu Ymchwiliad Chilcot (Irac) ac Ymchwiliad Leveson (rheoliad y wasg), ymysg eraill.
Fel rhan o’i ymweliad â Ysgol y Gyfraith, Bangor, fe fydd yr Arglwydd Ustus hefyd yn agor yn swyddogol ystafell llys newydd Ysgol y Gyfraith, fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer sesiynau ymryson. Mae’r ystafell llys yma wedi ei hadeiladu yn bwrpasol ar gyfer myfyrwyr y Gyfraith i’w galluogi i gyflawni arbrofion a fydd yn eu galluogi i gystadlu yn erbyn Ysgolion y Gyfraith eraill, ac adeiladu ar eu llwyddiant eiriolaeth a siarad cyhoeddus, sydd eisoes yn nodedig.
Fe fydd agoriad y Llys Ymryson yn dilyn llwyddiant ysgubol yn y maes ymryson gan Ysgol y Gyfraith ym Mangor. Mae myfyrwyr y Gyfraith Bangor yn cymryd rhan mewn nifer o gystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol, ac wedi cystadlu yn Llys Goruchaf Prydain. Yn flaenorol, maent wedi ennill y Gystadleuaeth Llys Barn Ffug flynyddol Gymreig; a daeth yr ysgol ar frig yr holl dimau Prydeinig yn y gystadleuaeth ymryson fawreddog, Telders, yn yr Hâg. Mae myfyrwyr Ysgol y Gyfraith Bangor hefyd wedi ennill gwobrau am y trosglwyddiad gorau yng nghystadleuaeth ‘E-Moot’ y Gymdeithas Myfyrwyr y Gyfraith Genedlaethol.
Mewn wythnos brysur i Ysgol y Gyfraith, cynhelir cyfarfod cyntaf Pwyllgor Ymgynghorol Cymru o Gomisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr. Fe fydd yr Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, yn croesawu Syr David Lloyd Jones a’i Bwyllgor i Fangor ar y 9fed o Hydref.
Ddydd Gwener, 10fed o Hydref, fe fydd y Prif Arglwydd Ustus yn ymuno â Llywydd y Llys Goruchaf, yr Arglwydd Neuberger, ar gyfer Cynhadledd Flynyddol Cymru’r Gyfraith. Fe fydd dros 150 o academyddion, cyfreithwyr a barnwyr yn mynychu’r Gynhadledd i drafod pynciau’r dydd, ac yn enwedig felly materion Cymreig yn deillio o ganlyniad Refferendwm Annibyniaeth yr Alban, a hefyd datblygiadau diweddar mewn meysydd allweddol megis Cyfraith Teulu. Bydd anerchiad i gloi’r Gynhadledd yn cael ei thraddodi gan yr Arglwydd Ustus brynhawn Gwener.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Hydref 2014