Ysgol y Gyfraith yn cyfrannu at brosiect ‘Big Voice London’ ar hunaniaeth gyfreithiol
Croesawodd Ysgol y Gyfraith grŵp o bobl ifanc o Lundain ar gyfer cynhadledd yn y Brifysgol ym mis Tachwedd 2012. Roedd y myfyrwyr o brosiect ‘Big Voice London’ yn ymchwilio i agweddau o hunaniaeth gyfreithiol ac â diddordeb arbennig yn y traddodiad cyfreithiol yng Nghymru a’r Gymraeg. Cyfrannodd eu hymweliad at adroddiad blynyddol ‘Big Voice’ a lansiwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar Ddiwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol, Rhagfyr 10, 2012.
Yn ystod y gynhadledd, cafwyd cyflwyniadau gan Meri Huws, y Comisiynydd Iaith, a’r Barnwr Rhanbarth Owen Williams o Lys Sirol Caernarfon. Yn ogystal, rhannodd rhai o ddarlithwyr a staff yr Ysgol, gan gynnwys Mr Aled Griffiths, Dr Osian Rees, Carys Aaron a Huw Pritchard, eu harbenigedd yn y maes.
Prosiect ar gyfer grymuso ieuenctid yw ‘Big Voice’ sy’n cael ei gynnal gan ôl-raddedigion a gwirfoddolwyr gyda chefnogaeth y Goruchaf Lys a Lexis Nexis. Maent yn gweithio â phobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig er mwyn ymchwilio i faterion sy’n ymwneud ag hunaniaeth gyfreithiol a hawliau sylfaenol. Mae tri grŵp yn rhan o’r prosiect sy’n edrych ar y gyfraith o safbwyntiau arbennig megis Amrywiaeth a’r Gyfraith, Asiantaethau Cyfreithiol a Threftadaeth Gyfreithiol, gan baratoi tri adroddiad ar ddiwedd y flwyddyn.
Yn dilyn yr ymweliad, cyhoeddodd y grŵp Treftadaeth Gyfreithiol adroddiad ar Hunaniaeth Gyfreithiol a Hawliau’r Iaith Gymraeg oedd yn ehangu ar yr hyn yr oeddent wedi ei ddysgu yn ystod yr ymweliad. Cafodd y tri adroddiad eu cyhoeddi’n ddwyieithog gyda chefnogaeth Ysgol y Gyfraith a Lexis Nexis.
“Eleni, rydym wedi bod yn falch i gael y cyfle i ddysgu am hawliau iaith Cymraeg ac effaith datganoli ar y system gyfreithiol Gymraeg”, dywedodd Jennifer Blair, cydlynydd Big Voice. “Uchafbwynt ein blwyddyn oedd ein hymweliad i Brifysgol Bangor. Bu’r angerdd, y deallusrwydd a’r croeso cawsom ni gan y Brifysgol yn ysbrydoliaeth ragorol, ac rydym yn awyddus i fynd a’r syniadau bu’n cael eu rhannu gyda ni ymlaen i’n gwaith yn y dyfodol.”
Roedd Huw Pritchard, o Ysgol y Gyfraith, hefyd yn falch bod yr Ysgol wedi gallu cyfrannu at y prosiect. “Roedd hi’n bleser cael y cyfle i groesawu myfyrwyr ‘Big Voice’ i Fangor a chael y cyfle i drafod y materion hyn gyda chynulleidfa newydd a brwdfrydig. Maent wedi llwyddo i gyhoeddi adroddiad diddorol iawn sy’n ymdrin â materion sy’n berthnasol iawn i’r drafodaeth yng Nghymru ar hyn o bryd. Roedd hefyd yn fraint cael y Comisiynydd Iaith a’r Barnwr Rhanbarth Williams yn y gynhadledd i rannu eu profiadau gwerthfawr.”
Gellir gweld adroddiadau Big Voice 2012 ar-lein drwy ddilyn y ddolen hon: http://bigvoicelondon.org/2012/11/06/international-human-rights-day-and-accessing-justice/
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2013