Ysgol y Gyfraith yn ymuno ag Amnesty International i gynnal hyfforddiant ar wrthdaro arfog
Ar Ddydd Sadwrn 7 Gorffennaf 2012, cynhaliodd Ysgol y Gyfraith Bangor ac Amnesty International (Bae Colwyn) weithdy hyfforddi llwyddiannus ar ddiogelu merched a phlant yn ystod gwrthdaro arfog. Cynhaliwyd y digwyddiad yng nghanolfan gynadledda Reichel ym Mhrifysgol Bangor gan ddenu pobl o gyffiniau Bangor a thu hwnt, yn cynnwys Bae Colwyn, Lerpwl a Sir Gaerhirfryn. Roedd y tîm hyfforddi’n cynnwys Mrs Judith Bellis o Amnesty International (Bae Colwyn), a Ms Evelyne Schmid, Ms Yvonne McDermott a’r Athro Suzannah Linton o Fangor.
Nod y gweithdy oedd codi ymwybyddiaeth am yr heriau sy’n wynebu merched a phlant yn ystod gwrthdaro arfog a chyflwyno’r drefn gyfreithiol sydd ar gael i fynd i’r afael â’r heriau hynny. Roedd y gweithdy’n cynnwys trafodaethau ar egwyddorion sylfaenol cyfraith gwrthdaro arfog, Uganda a milwyr bach, y Llys Troseddol Rhyngwladol, diogelu urddas pobl yn ystod gwrthdaro arfog a defnyddio gweithdrefnau rhyngwladol a phwysleisiwyd pwysigrwydd addysg, parch at bobl ac atal a diogelu fel y llinell amddiffyn gyntaf yn erbyn erchyllterau. Cynlluniwyd y digwyddiad rhyngweithiol hwn i roi cyfle i gyfranogwyr wneud defnydd ymarferol o’r wybodaeth a’r strategaethau.
“Mae wedi bod yn ddigwyddiad rhagorol, ac ynghyd â sefydlu canolfan gyfraith ryngwladol newydd yn Ysgol y Gyfraith Bangor, rydym yn gobeithio ei fod yn fan cychwyn i’n cyfraniad at faterion dyngarol yn yr ardal hon”, meddai trefnydd y digwyddiad, yr Athro Suzannah Linton. “Edrychwn ymlaen at weithio gydag Amnesty International a grwpiau eraill yn y dyfodol.”
Roedd y cyfranogwyr yn frwdfrydig iawn am y digwyddiad hefyd:
“Roedd y gweithdy wedi ei drefnu a’i gyflwyno’n eithriadol o dda, cafwyd cytbwysedd rhagorol rhwng y cyflwyniadau a’r ‘gweithgareddau dosbarth’. Ni allaf feddwl am unrhyw ffordd i wella ar y gweithdy! Gobeithio bydd mwy ohonynt yn cael eu trefnu....”
“Roeddwn eisiau dweud cymaint wnes i fwynhau ddoe... Roeddwn yn meddwl bod y gweithdy wedi ei drefnu’n rhagorol ac roedd y cynnwys a’r cyflwyniadau gennych chi a’ch cydweithwyr yn ardderchog. Edrychaf ymlaen at ddigwyddiad tebyg, yn y dyfodol agos, gobeithio.”
“Roedd yr hyfforddwyr i gyd yn wybodus ac yn eglur iawn.”
“Hyfforddwyr rhagorol - yn hawdd mynd atynt a ddim yn codi ofn ar bobl sydd ddim yn astudio’r gyfraith!”
“Agorodd y gweithdy ddrws ar faes newydd o wybodaeth, defnyddiol iawn.”
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2012