Ysgolhaig o Brifysgol Bangor yn darlithio yn theatr ‘Globe’ Shakespeare
Mae’r Athro Helen Wilcox o Ysgol y Saesneg Prifysgol Bangor ymysg academyddion blaenllaw sy’n rhoi darlithoedd cyn perfformiad yn theatr fyd enwog ‘The Globe’ ar lannau’r Tafwys yn Llundain. Mae’r theatr bresennol wedi’i seilio ar theatr o gyfnod Elisabeth I a safai lathenni o’r safle presennol.
Bydd yr Athro Wilcox yn traddodi darlith gyflwyno o flaen perfformiad o All’s Well That Ends Well gan Shakespeare, ddydd Mawrth 19 Gorffennaf 2011 am 6.00. Mae’r ddarlith yn un o gyfres yn ystod tymor haf 2011, ac maent yn cael eu cynnal dan nawdd hael cyhoeddwyr The Arden Shakespeare.
Fel golygydd All’s Well That Ends Well, sydd i’w chyhoeddi yn y gyfres Arden Shakespeare, meddai’r Athro Wilcox:
“Rwy’n falch o gael y cyfle i gyflwyno’r drasigomedi ryfeddol yma i gynulleidfa’r Globe. Cyfeirir at hon yn aml fel un o ‘ddramâu problemus’ Shakespeare.”
Bydd yr Athro Wilcox yn trafod rhai o nodweddion y ddrama sy’n ei gwneud mor gyfoes ac apelgar, gan gynnwys y ffordd y portreadir cariad a grym atyniad rhywiol, ei hymdriniaeth o artaith a rhyfela, agwedd y ddrama at grefydd, a'r modd y mae’n darlunio merched.
“Yr ansicrwydd parhaus ynghylch y ddrama bwerus hon yw a oes yna ddiweddglo hapus confensiynol fel sy’n ddisgwyliedig mewn comedi yma ai peidio? A yw’r teitl yn eironig ynteu a oes yna ddiweddglo hapus mewn gwirionedd?” meddai.
Mae’r Setting the Scene, sy’n nodwedd gyson o gynyrchiadau tymor yr haf yn y Globe, yn boblogaidd efo cynulleidfaoedd bob amser. Eleni ceir cynnydd yn nifer y darlithoedd gyda dwy sesiwn y rhan fwyaf o’r wythnosau drwy gydol yr haf. Elfen newydd arall yw defnyddio actor o’r Globe ym mhob sesiwn, a fydd yn darllen tameidiau o’r ddrama a ffynonellau academaidd eraill, er mwyn egluro ymhellach faterion a grybwyllir yn y ddarlith.
Gan edrych ymlaen at y gyfres meddai Dr Farah Karim-Cooper, Pennaeth Cyrsiau ac Ymchwil Globe Education, ac un o’r ysgolheigion sy’n cymryd rhan yn y gyfres:
“Mae’r gyfres ddarlithoedd yn dangos ymrwymiad Globe Education i rannu’r wybodaeth sydd gan ysgolheigion blaenllaw’r byd efo cynulleidfaoedd o ystod eang o gefndiroedd. Rŵan bod actorion hefyd yn cydweithio efo’r academyddion, byddwn yn medru dangos y berthynas ddeinamig sydd rhwng ysgolheictod a pherfformio sydd mor unigryw i Globe Shakespeare.”
Meddai Margaret Bartley, cyhoeddwr The Arden Shakespeare: “Mae’r gyfres yn falch o gael parhau’r berthynas naw mlynedd efo’r Globe. Mae’r cyfleoedd dysgu arloesol y mae’n eu cynnig i ysgolion, colegau, a’r cyhoedd yn gyffredinol, yn unigryw ac yn cyfrannu llawer at ysbrydoli miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae hyn yn gweddu i amcanion ein cyfres i ehangu deall y dramâu a’u gwerthfawrogi mewn perfformiad ac yn y dosbarth.”
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2011