Ysgolhaig o Brifysgol Bangor yn dathlu 100 mlynedd o Ysgoloriaethau i ferched â gradd
Bu ysgolhaig o Brifysgol Bangor, Dr Raluca Radulescu yn annerch Seremoni Wobrwyo yn Llundain yn ddiweddar. Mae Ffederasiwn Prydain y Merched â Gradd (BFWG) yn dathlu can mlynedd o ddyfarnu Ysgoloriaethau i ferched sy’n academyddion, ac wedi gwahodd academyddion blaenllaw â derbyniodd ysgoloriaethau yn gynharach yn eu gyrfaoedd.
Derbyniodd Dr Radulescu ‘Wobr Goffa Jane Finlay’ gan y BFWG ym 1999. Mae hi bellach yn arbenigwraig o fri ym maes llenyddiaeth Arthuraidd ac wedi bod yn dysgu ac yn ymchwilio i’r chwedl ers mwy na dwy flynedd ar bymtheg. A hithau’n Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-radd yn Ysgol Saesneg y Brifysgol, mae Dr Radulescu yn parhau traddodiad hir y Brifysgol o ragoriaeth mewn ymchwil Athuraidd. Y cwrs MA ym Mangor mewn Llenyddiaeth Arthuraidd, a gydlynir gan Dr Radulescu, yw’r unig un o’i fath yn y byd. ac mae’n llwyfan ar gyfer archwilio’r chwedl aml-ochrog a’i phresenoldeb parhaus yn y byd modern.
Roedd Dr Janet Bultitude, Cymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol yng Ngholeg St Anne, Prifysgol Rhydychen, hefyd yn annerch y cyfarfod. Derbyniodd Janet Ysgoloriaeth Ruth Bowden a ddyfarnwyd gan BFWG tra oedd yn fyfyriwr PhD yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor yn 2007. Astudiodd Janet Bultitude dan yr Athro Rafal, ac yn ddiweddar, cafodd papur ymchwil a ysgrifennwyd ganddi ar y cyd â’r Athro Rafal, tra oedd yng Nghanolfan Wolfson ar gyfer Niwrowyddoniaeth Glinigol a Gwybyddol, ei gyhoeddi yn y cylchgrawn gwyddonol Frontiers in Neurology.
Sefydlwyd y BFWG ym 1907 ym Manceinion fel y Ffederasiwn Prydeinig ar gyfer Merched Prifysgol (BFUW), gan ferched o fewn prifysgolion a oedd yn anfodlon ynglŷn â’r diffyg o ran dyrchafiadau academaidd o fewn eu prifysgolion. Yn ogystal â rhagfarn yn erbyn merched, sylweddolwyd hefyd fod diffyg cyfle ar gyfer ymchwil yn ffactor arall o bwys a oedd yn llesteirio eu cynnydd. Gweithredwyd drwy sefydlu cronfa ar gyfer Ysgoloriaethau Ôl-radd. Ers hynny, mae mwy na £2 filiwn wedi’i ddyfarnu i ferched sy’n cynnal ymchwil. Y gyntaf i dderbyn ‘Gwobr Cymrodoriaeth’ ym 1912 oedd Caroline Spurgeon, a aeth ymlaen i fod y ferch gyntaf i gael ei phenodi’n Athro drwy gystadleuaeth agored â dynion, pan ddaeth yn Athro Llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg Bedford, Prifysgol Llundain, ym 1913.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2012