Ysgolhaig yn dychwelyd i’w mamwlad i drafod Chwedlau Arthuraidd
Mae academydd a syrthiodd mewn cariad â llenyddiaeth Arthuraidd tra’n fyfyriwr israddedig yn Rwmania yn dychwelyd i'w mamwlad i gyflwyno ei hymchwil diweddaraf mewn cynhadledd ryngwladol lle bydd arbenigwyr Arthuraidd o bob cwr o'r byd.
Mae Cyngres y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol yn cael ei gynnal gan y Ganolfan Astudiaethau Canoloesol ym Mhrifysgol Bucharest, Romania, ym mis Gorffennaf (20-27 Gorffennaf 2014).
Mae Dr Raluca Radulescu bellach yn arbenigwr blaenllaw rhyngwladol ar Lenyddiaeth Arthuraidd, ac yn ddarlithydd yn Ysgol Saesneg Prifysgol Bangor, lle mae'n arwain yn unig gwrs MA yn y byd mewn Llenyddiaeth Arthuraidd. Mae hi hefyd yn golygu'r Cylchgrawn Cymdeithas Arthuraidd Ryngwladol a lansiwyd yn ddiweddar, sef y cyhoeddiad diweddaraf mewn 65 mlynedd o gyhoeddiadau ysgolheigaidd gan y Gymdeithas academaidd hon.
Bydd Dr Radulescu yn cyflwyno papur ar berthnasoedd mewn llenyddiaeth Arthuraidd. Bydd yn olrhain datblygiad pan-Ewropeaidd o ffordd arbennig o fynegi cariad brawdol a chwmnïaeth yn y chwedlau Arthuraidd. Mae goblygiadau astudiaeth hon yn bellgyrhaeddol, gan y gall y modd y mae emosiynau cadarnhaol a negyddol yn cael eu mynegi mewn llenyddiaeth gynnar ddatgelu llawer am seicoleg ddynol yn ogystal â normau ymddygiad yn y gymdeithas ganoloesol.
Eglurodd Dr Radulescu:
"Mae llenyddiaeth gynnar, ac yn arbennig ei pherthynas ag amrywiaeth o ddimensiynau, fel tueddiadau diwylliannol, gweithredu gwleidyddol neu ragolygon yn wir grefyddol, wedi fy hudo o blentyndod. Yr wyf wastad wedi edrych i'r gorffennol er mwyn deall y presennol yn well, boed hynny drwy hen fythau a chwedlau sy'n wedi goroesi drwy’r canrifoedd a miloedd o flynyddoedd, neu drwy ddatblygu ieithoedd (yn enwedig drwy astudio tarddiad a chyfieithu), i roi dim ond dwy enghraifft.
"O ran llenyddiaeth Arthuraidd, tarddiad yr apêl barhaus yw chwedl Arthur, brenin y disgwylir iddo gael ei aileni, gan gynnig gobaith nid yn unig i'r rhai sy'n credu yn ei realiti hanesyddol tybiedig, ond hefyd y rhai sy’n breuddwydio am well trefn ar bethau. Mae’r fersiynau lu sy’n ailadrodd chwedl Arthuraidd yn yr ieithoedd brodorol yr Oesoedd Canol fel Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg ac Iseldireg yn dangos apêl pan-Ewropeaidd y chwedl. Efallai y byddwn hyd yn oed yn mynd mor bell â dweud bod llawer o genhedloedd a phobloedd Canol Oesol y Gorllewin yn awyddus i gymryd rhan yn chwedl y Ford Gron a'i hegwyddorion cydraddoldeb honedig ymhell cyn dyfodiad yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r myth yn dyfalbarhau hyd heddiw am yr un rhesymau, fel stori gofiadwy, sy’n croesi ffiniau cenedl, ac sy’n galluogi awduron modern i uno hud â chyfeiriadau at y realiti gwleidyddol cyfoes - a hynny’n union fel y gwnaeth yr awduron canoloesol. "
Bydd Dr Radulescu hefyd yn cyfrannu at y cyfarfod yn trafod project pan-Ewropeaidd newydd: 'Arthur Hwyr ', sy'n canolbwyntio ar ddatblygiad y chwedl Arthuraidd yn y cyfnod canoloesol diweddarach, a’i ddylanwad ar yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg. O fewn y project hwn, bydd Dr Radulescu yn cydlynu'r adran sy'n delio â chyd-destunau gwleidyddol a chymdeithasol diwylliannol, llenyddol yr oedd astudiaethau Arthuraidd yn ffynnu ynddynt yn Ynysoedd Prydain yn ystod y cyfnodau hyn, drwy gomisiynu penodau gan arbenigwyr blaenllaw yn y maes a chyfrannu ei phennod ei hun.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014