Ysgolion ar draws y rhanbarth yn cael blas ar fasnachu wrth iddynt gymryd rhan mewn sialens sgiliau unigryw
Cafodd disgyblion o bob cwr o Ogledd Cymru y cyfle i brofi cyffro a chynnwrf gwerthu ar lawr masnachu byw diolch i fenter ‘Sialens y Farchnad Stoc’ Prifysgol Bangor.
Cynigodd y sialens le i 165 o ddisgyblion o 13 ysgol gwahanol a chynhaliwyd hi ddydd Mercher y 29ain o Fehefin ym Mhrifysgol Bangor. Noddwyd y fenter gan HSBC a chefnogwyd hi gan Ysgol Fusnes Bangor.
Y sialens oedd i’r timau bach o ddisgyblion blwyddyn 12 ddefnyddio eu sgiliau i reoli portffolio o gyfandaliadau ac arian tramor. Gwnaent eu buddsoddiadau wrth ddehongli a dadansoddi gwybodaeth o’r marchnadoedd ariannol. Dwy awr oedd hyd yr ymarfer masnachu byw, a’r tîm gyda’r portffolio uchaf ar ddiwedd y dydd oedd yn fuddugol.
Ysgol Friars, Bangor, gyrhaeddodd y brig wedi iddynt brofi eu meistrolaeth ar y llawr masnachu, a gorffen gyda chronfa o £99,600 wedi’i rheoli’n llwyddiannus iawn. Yn ail agos roedd Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon a wnaeth elw sylweddol o £96,200.
Eleni cynigiwyd y profiad unigryw hwn i gannoedd o ddisgyblion diolch i’r noddwyr a roddodd drwydded am ddim i adnodd ar-lein Sialens y Farchnad Stoc i’r ysgolion hynny a gymerodd ran. Cyn y digwyddiad, gosodwyd tasgau yn yr ysgolion gan athrawon Bagloriaeth Cymru, Astudiaeth Busnes a Mathemateg i ddewis y pum disgybl a fyddai’n eu cynrychioli.
Dywedodd Rachel Thomas, cyfarwyddwr rhanbarthol PSF HSBC yng Nghymru, “Mae Sialens y Farchnad Stoc yn gyfle arbennig i bobl ifanc o ysgolion ar draws Gogledd Cymru ddatblygu eu dealltwriaeth o fyd busnes, dysgu sgiliau newydd a mwynhau eu hunain. Mae’r fenter yn cyd-fynd â’n hamcanion cymunedol ac yn rhoi’r cyfle i ddisgyblion ddefnyddio eu haddysg yn yr ysgol mewn sefyllfa ariannol hynod realistig, mewn modd newydd a ffres.”
Ychwanegodd Meinir Llwyd o Ysgol Busnes Bangor: “Ym Mhrifysgol Bangor, credwn ei fod yn hanfodol i ffocysu ar ddatblygu cymwysterau a sgiliau ein pobl ifanc, er mwyn sicrhau y sgiliau priodol i fanteisio ar gyfleon gwaith nawr ac yn y dyfodol. Mae mentrau megis Sialens y Farchnad Stoc yn rhoi cyfle i ni gyflwyno’r brifysgol i bobl ifanc, tra’n cynorthwyo’r cenhedlaeth nesaf o arweinwyr byd busnes i ystyried cymhwyster gwerthfawr mewn cyllid, bancio neu gyfrifeg.”
Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2011