Ysgolion Gogledd Cymru’n buddsoddi mewn cystadleuaeth sgiliau busnes a chyllidol
Cafodd myfyrwyr o bob cwr o ogledd Cymru gyfle i brofi cyffro a chynnwrf delio ar lawr masnachu byw diolch i fenter a drefnwyd gan Brifysgol Bangor o'r enw Her y Farchnad Stoc.
Cymerodd 140 o fyfyrwyr o 13 o ysgolion ran yn y fenter a gynhaliwyd ddydd iau, 27 Mehefin ym Mhrifysgol Bangor. Trefnwyd y digwyddiad gan Ysgol Busnes Bangor.
Rhannwyd y myfyrwyr Blwyddyn 12 yn dimau bach, a'r her oedd defnyddio eu sgiliau i reoli portffolio o gyfranddaliadau ac arian tramor. Penderfynwyd ar eu buddsoddiadau trwy ddehongli a dadansoddi gwybodaeth o'r marchnadoedd arian. Cynhaliwyd sesiwn ddwy awr o ffug fasnachu byw a'r tîm gyda'r portffolio uchaf ei werth ar ddiwedd y sesiwn oedd yn fuddugol.
Cafodd Ysgol Rydal Penrhos fuddugoliaeth ysgubol ar y llawr masnachu gyda chronfa werth £63,700 oedd wedi ei rheoli’n arbennig o dda. Nid oedd yr ail orau sef Ysgol David Hughes, Porthaethwy yn bell ar eu hôl gan wneud elw sylweddol o £60,200. Yn cipio’r gwobrau rhagorol unigol oedd Alicia Roberts o Ysgol Friars, am Ddadansoddwr Cyfryngau gorau, a Rees Hope o Ysgol David Hughes am ei adroddiad Buddsoddi Moesegol.
Eleni cynigiodd Ysgol Busnes Bangor gyfle i gannoedd o fyfyrwyr gael y profiad yma trwy roi trwydded am ddim i adnodd ar-lein Her y Farchnad Stoc i bob ysgol a gymerodd ran. Yn y cyfnod yn arwain at y sesiwn, bu athrawon y Fagloriaeth Gymreig, Astudiaethau Busnes a Mathemateg yn cynnal cystadlaethau yn yr ysgolion i ddewis y pum disgybl a fyddai'n eu cynrychioli.
Meddai Meinir Llwyd o Ysgol Busnes Bangor: “Credwn ei bod yn hollbwysig ein bod yn canolbwyntio ar ddatblygu cymwysterau a sgiliau ein pobl ifanc, er mwyn sicrhau bod y sylfaen sgiliau priodol yn ei lle i fanteisio ar gyfleoedd am swyddi'n awr ac yn y dyfodol. Mae mentrau megis Her y Farchnad Stoc yn rhoi cyfle i ni gyflwyno’r brifysgol i bobl ifanc ac ar y pryd pryd helpu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes i ystyried cymhwyster gwerthfawr ym maes cyllid, bancio neu gyfrifeg."
Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2013