Ysgolion Gogledd Cymru’n buddsoddi mewn cystadleuaeth sgiliau busnes a chyllidol
Cafodd myfyrwyr o bob cwr o ogledd Cymru gyfle i brofi cyffro a chynnwrf delio ar lawr masnachu byw diolch i fenter a drefnwyd gan Brifysgol Bangor o'r enw Her y Farchnad Stoc.
Cymerodd 100 o fyfyrwyr o ddeg o ysgolion ran yn y fenter a gynhaliwyd ddydd Mercher 4 Gorffennaf ym Mhrifysgol Bangor. Trefnwyd y digwyddiad gan Ysgol Busnes Bangor ac fe’i cefnogwyd gan HSBC.
Rhannwyd y myfyrwyr Blwyddyn 12 yn dimau bach, a'r her oedd defnyddio eu sgiliau i reoli portffolio o gyfranddaliadau ac arian tramor. Penderfynwyd ar eu buddsoddiadau trwy ddehongli a dadansoddi gwybodaeth o'r marchnadoedd arian. Cynhaliwyd sesiwn ddwy awr o ffug fasnachu byw a'r tîm gyda'r portffolio uchaf ei werth ar ddiwedd y sesiwn oedd yn fuddugol.
Cafodd Ysgol St Gerard’s, Bangor fuddugoliaeth ysgubol ar y llawr masnachu gyda chronfa werth £88,600 oedd wedi ei rheoli’n arbennig o dda. Nid oedd yr ail orau sef Ysgol Eirias, Bae Colwyn yn bell ar eu hôl gan wneud elw sylweddol o £60,800.
Eleni cynigiodd y noddwyr gyfle i gannoedd o fyfyrwyr gael y profiad yma trwy roi trwydded am ddim i adnodd ar-lein Her y Farchnad Stoc i bob ysgol a gymerodd ran. Yn y cyfnod yn arwain at y sesiwn, bu athrawon y Fagloriaeth Gymreig, Astudiaethau Busnes a Mathemateg yn cynnal cystadlaethau yn yr ysgolion i ddewis y pum disgybl a fyddai'n eu cynrychioli.
Meddai Rachel Thomas – Cyfarwyddwr Rhanbarthol PFS HSBC "Mae Her y Farchnad Stoc yn ffordd wych i bobl ifanc o ysgolion ar draws gogledd Cymru i ddod i ddeall y byd busnes ac ar yr un pryd ddatblygu eu sgiliau a chael hwyl. Mae’r fenter yn cyd-fynd yn dda â’n hamcanion cymunedol ac yn rhoi cyfle i ddisgyblion i ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd yn yr ysgol mewn sefyllfa ariannol hynod o realistig, a defnyddio eu safbwynt gwreiddiol eu hun."
Meddai Meinir Llwyd o Ysgol Busnes Bangor: “Ym Mhrifysgol Bangor credwn ei bod yn hollbwysig ein bod yn canolbwyntio ar ddatblygu cymwysterau a sgiliau ein pobl ifanc, er mwyn sicrhau bod y sylfaen sgiliau priodol yn ei lle i fanteisio ar gyfleoedd am swyddi'n awr ac yn y dyfodol. Mae mentrau megis Her y Farchnad Stoc yn rhoi cyfle i ni gyflwyno’r brifysgol i bobl ifanc ac ar y pryd pryd helpu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes i ystyried cymhwyster gwerthfawr ym maes cyllid, bancio neu gyfrifeg."
Ychwanegodd Gweinidog Swyddfa Cymru David Jones: "Rwy'n falch bod myfyrwyr ar draws Gogledd Cymru wedi cael y cyfle unigryw i brofi bywyd ar y llawr masnachu. Mae hyn yn rhoi blas i fyfyrwyr ifanc o’r byd gwasanaethau ariannol a busnes a chyfle, nid yn unig i ystyried gyrfa yn y dyfodol ym maes gwasanaethau ariannol, ond hefyd i ddatblygu sgiliau gyda'u harian personol.
"Mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod gan bobl ifanc ystod lawn o sgiliau bywyd a fydd yn ddefnyddiol iddynt ar gyfer y dyfodol: i reoli cyllidebau, trafod ag aelodau'r tîm a dadansoddi a dehongli gwybodaeth.
"Yr wyf yn siŵr y bydd y fenter hon yn helpu myfyrwyr Gogledd Cymru ddatblygu'r rhinweddau arweinyddiaeth sydd ei angen arnynt i fod yn y genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes a chyllid."
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2012