Ysgolion lleol yn dod ynghyd ar gyfer Cynhadledd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor
Daeth mwy na 100 o ddisgyblion ysgol o leoedd mor bell â Solihull i gynhadledd arbennig a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos ddiwethaf.
Cynhelir Cynhadledd y Gyfraith bob blwyddyn, gyda’r bwriad o roi i ddisgyblion chweched dosbarth lleol flas ar astudio’r Gyfraith mewn prifysgol. Agorwyd y digwyddiad gan Syr Roderick Evans, cyn-farnwr Prydeinig yn Uchel Lys Cymru a Lloegr; yna, rhoddodd nifer o ddarlithwyr o Fangor gyflwyniadau ar rai o’r agweddau niferus ar y gyfraith, cyfraith sefydlu, cyfraith tystiolaeth a chyfraith hawlfraint, a’r olaf ohonynt yn canolbwyntio ar lawrlwytho cerddoriaeth yn anghyfreithlon.
Eleni, gwahoddwyd y disgyblion hefyd i fynd i Ffair Gyfraith a gynhaliwyd er budd myfyrwyr presennol y Gyfraith ym Mangor. Bu’r Ffair yn fodd i’r myfyrwyr a’r disgyblion ysgol, fel ei gilydd, gyfarfod â darpar gyflogwyr o nifer o gwmnïau bargyfreithwyr a chyfreithwyr o fri, er mwyn cael cyngor amhrisiadwy gan ymarferwyr ac i greu cysylltiadau pwysig. Roedd y cwmnïau a fu’n bresennol yn y ffair yn cynnwys Atlantic, Civitas and Linenhall Chambers; Carter Vincent Jones Davis; Gamlins; Hugh James; Knox Commercial; Stephensons; Cyngor Gwynedd; y Gymdeithas Ynadon; Globe Business Publishing (LawCareers.Net); Pearson Publishing; BARBRI International; Gateley LLP; Cymdeithas Gyfraith Myfyrwyr Bangor; y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Prifysgol Bangor; a phroject ymchwil Bangor ar Ennill wrth Dendro.
Hwn oedd y tro cyntaf i’r Ysgol gynnal Ffair Gyfraith fel rhan o’i hymdrechion i roi cyfleoedd gwerthfawr i’w myfyrwyr ar gyfer rhwydweithio. Cawsant hefyd wahoddiad i fynd i sesiynau arbennig ar gyngor gyrfaol, trosolwg ar waith cyfreithiol awdurdodau lleol, a chyflwyniad ar gyfleoedd i astudio trwy’r Gymraeg. Sesiwn arbennig o boblogaidd oedd y prawf ffug, dan lywyddiaeth Syr Roderick Evans ac ymarferwyr o Atlantic Chambers a Linenhall Chambers. Yn ystod y prawf, chwaraeodd myfyrwyr Bangor rannau’r erlyniad a’r amddiffyniad mewn prawf ffug lle efelychwyd amgylchiadau’r llys – cyfle gwych i fyfyrwyr y Gyfraith gael profiad ymarferol o’r gwaith o ddydd i ddydd y gallent fod yn ei wneud eu hunain ryw ddydd.
“Mae Ysgol y Gyfraith, Bangor wedi ymrwymo’n llwyr i brofi mentrau newydd i gyfoethogi profiad myfyrwyr. Mae’r ffair ar ben ein rhaglen interniaethau lwyddiannus iawn, lle byddwn yn gosod myfyrwyr gyda chwmnïau a siambrau fel y cânt brofiad gwaith gwerthfawr cyn graddio, yn ogystal â gweithgareddau allgyrsiol, megis prawf ffug gweithredol a nifer o ddarlithoedd gan siaradwyr gwadd,” meddai’r Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, Bangor. “Rydym yn hynod o ddiolchgar i’r holl arddangoswyr am eu cefnogaeth yn hon, ein Ffair Gyfraith gyntaf erioed.”
Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2013