Ysgolion lleol yn rhannu ‘Straeon Coll’ Bangor mewn gorymdaith syrcas
Bydd pum ysgol leol yn dod at ei gilydd mewn gorymdaith liwgar drwy Stryd Fawr Bangor am 1pm, ddydd Iau 20 Gorffennaf wrth i Pontio agor eu Gwledd Syrcas 2017, sef pob math o weithgareddau syrcas gyfoes dros 9 diwrnod ar ddechrau gwyliau’r haf.
Thema’r orymdaith syrcas y flwyddyn hon yw ‘Straeon Coll Bangor’, a bydd pum ysgol leol yn adrodd y straeon hyn drwy gelf wedi ei greu yn arbennig ar gyfer yr orymdaith. Bydd Ysgol Hirael, Ysgol Glancegin, Ysgol Glanadda, Ysgol Llandygai ac Ysgol y Felinheli yn cymryd rhan. Mae Mared Huws, Cydlynydd Datblygu'r Celfyddydau Pontio wedi cydweithio â chwmni syrcas Cimera i gydlynu’r orymdaith. Hefyd yn cymryd rhan bydd Codi’r To ac aelodau o Circolombia, cwmni syrcas sy’n dod yr holl ffordd o Fogota, Colombia i Fangor, fydd yn perfformio eu sioe ‘Acelere’ chwe gwaith yn Theatr Bryn Terfel rhwng 21-23 Gorffennaf.
Mae’r pump ‘stori goll’ fydd yn cael eu hadrodd fel rhan o’r orymdaith yn cynnwys hanes Owain Glyndŵr yn cyfarfod â Harry Hotspur a’r Arglwydd Mortimer ym Mangor cyn eu hymgais i gipio’r goron – cyfarfod a gyfeirir ato yn Henry IV gan Shakespeare – gaiff ei gyflwyno gan Ysgol Hirael. Bydd Ysgol Glancegin a phroject Codi’r To yn cynrychioli ymweliad The Beatles â Bangor pan ddaethant i wrando ar y Maharishi Mahesh Yogi yn 1967, gyda llong danfor felen 3D anferth. Mae Ysgol Glanadda wedi creu eliffant enfawr sy’n cynrychioli’r eliffant a adawyd ym Mangor wedi iddo farw yn ystod ymweliad gan gwmni syrcas. Yr ardd binafal yng Nghastell Penrhyn fydd yn cael ei gyfleu gan Ysgol Llandygai, a blannwyd i atgoffa’r teulu o’u hamser yn y Caribî, tra bydd Ysgol Felinheli yn cario radio art deco 3D sy’n dwyn i gof y BBC yn symud i Fangor yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Bydd Storiel hefyd yn arddangos gwrthrychau sydd ynghlwm â themâu'r orymdaith yn eu cistiau cymunedol fel rhan o’r Wledd Syrcas.Os oes ganddoch unrhyw wrthrychau eraill sy’n berthnasol i’r straeon hyn, byddai Pontio a Storiel wrth eu boddau’n clywed ganddoch chi.
Dywedodd Mared Huws, “Mae’n bleser gennym weithio gydag ysgolion lleol ar y project hwn, fydd yn agor Gwledd Syrcas Pontio mewn steil! Hoffwn ddiolch i Kate Jones ac Iago Morgan Jones o Cimera sydd wedi bod yn arwain ar greu’r gwaith celf yn yr ysgolion, a hefyd Llio Hughes, Manon Dafydd a Sioned Young ein tiwtoriaid BLAS dan hyfforddiant. Gyda gwyliau’r haf ar y gorwel, mae hyn wedi bod yn ffordd hwyliog o gyflwyno rhai o straeon y ddinas i ysgolion y fro a pa ffordd well o ddechrau’r gwyliau na gyda gorymdaith syrcas liwgar drwy Fangor?”
Bydd yr orymdaith, fydd yn cynnwys sgiliau syrcas a cherddoriaeth, yn cychwyn o Pontio am tua 1pm cyn mynd heibio Maes Parcio Glanrafon, ar draws gerddi’r Gadeirlan a fyny at y cloc, lawr y Stryd Fawr at y Gadeirlan a nôl i Pontio. Bydd y gwaith celf yn cael ei osod yn Pontio a’i arddangos am weddill yr wythnos. Mae busnesau ar y Stryd fawr yn cael eu hannog i fod yn rhan o’r Wledd Syrcas drwy rannu gwybodaeth, arddangos posteri a gwisgo eu ffenestri gyd ‘tag’ arbennig wedi ei greu ar gyfer yr achlysur.
Bydd y Wledd Syrcas ymlaen o 18-27 Gorffennaf ac yn cynnwys chwe pherfformiad o’r brif sioe gan Circolombia yn Theatr Bryn Terfel, gweithdai, perfformiadau am ddim tu mewn a thu allan, ffilmiau syrcas, digwyddiadau rhannu, cerddoriaeth a bwyd a diod. Cymerwch gip ar y rhaglen lawn ymahttps://tocynnau.pontio.co.uk/Online/17Syrcas neu helpwch eich hun i gopi o’r pecyn Gwledd Syrcas o Pontio.
Mae Gwledd Syrcas Pontio yn bosibl oherwydd cefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, y Loteri Genedlaethol, Cyngor Gwynedd a Phrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2017