Ysgoloriaeth ar gyfer barddoni
Mae uwch-ddarlithydd o Fangor wedi derbyn Ysgoloriaeth i gael cwblhau ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth.
Cyhoeddwyd bod Dr Jason Walford Davies, o Ysgol y Gymraeg, yn un o’r awduron newydd fydd yn derbyn ysgoloriaeth gan Lenyddiaeth Cymru eleni.
Bydd Ysgoloriaeth Awdur Newydd gwerth £4,000 yn caniatáu i Jason Walford Davies gymryd peth amser i ffwrdd o'i waith academaidd er mwyn canolbwyntio ar ei farddoniaeth.
Mae eisoes yn Brifardd, wedi iddo ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004 gyda’i bryddest ‘Egni’, cerdd sy’n coffáu Streic y Glowyr yn yr wythdegau.
Dywedodd Jason ei fod yn edrych ymlaen at y cyfle i orffen ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, a fydd yn cynnwys nifer o gerddi sy'n ymateb i weithiau celf a ffotograffau.
“Mae ysgrifennu creadigol yn rhan bwysig o broffil ac arlwy Ysgol y Gymraeg ym Mangor,” meddai Jason. “Bydd yr ysgoloeriaeth yn golygu y bydd modd imi ganolbwyntio ar nifer o gerddi estynedig, a chyhoeddi'r gyfrol ryw ben yn 2013.”
O ran ymchwil, prif ddiddordebau Jason Walford Davies yw llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol a’r ugeinfed ganrif, a Llên Cymru yn Saesneg. Cyhoeddodd yn helaeth ar waith R. S. Thomas, ac mae’n Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil R. S. Thomas ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012