Ysgoloriaeth Awdur Newydd i Fyfyriwr Ysgol y Gymraeg
Llongyfarchiadau i Gareth Evans-Jones, un o fyfyrwyr PhD Ysgol y Gymraeg, ar ennill Ysgoloriaeth Awdur Newydd a ddyfernir gan Llenyddiaeth Cymru.
Bydd yr ysgoloriaeth yn galluogi Gareth i ddatblygu ei nofel gyntaf, Dinogad, sydd â’i gwreiddiau yng ngherddi Y Gododdin. Bydd y nofel ffantasi yn ceisio rhoi gwedd newydd ar stori gyfarwydd; am ddyn ifanc yn dysgu ei fod wedi ei fabwysiadu, a goblygiadau hynny iddo ef, ei deulu maeth a’r gymdeithas yn ehangach.
Ceir gwybodaeth bellach ar wefan Llenyddiaeth Cymru:
http://www.llenyddiaethcymru.org/lw-news/cyhoeddi-ysgoloriaethau-awduron-gwledd-o-ysgrifennu-newydd/
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2017