Ysgoloriaeth MPhil i fyfyrwraig ddisglair sydd newydd raddio mewn Astudiaethau Plentyndod
Mae Eleanor Morsman newydd ennill ysgoloriaeth i astudio ar gyfer MPhil ar ‘Y Model Pedagogiaeth Gorau ar gyfer Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon yn y sector Addysg Gynradd'. Graddiodd Eleanor (Ellie) o Ysgol Addysg Prifysgol Bangor ym mis Gorffennaf gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn astudiaethau plentyndod a bu'n gyd-enillydd Gwobr Cronfa'r Normal a ddyfernir i'r myfyriwr gyda'r marciau uchaf mewn addysg.
Meddai Ellie:
"Rwy'n teimlo mor gyffrous ynglŷn â chael ysgoloriaeth MPhil yn yr Ysgol Addysg. Mae'n fraint cael y cyfle i gyfrannu at wella'r ddarpariaeth Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru, gan ei fod yn ffactor pwysig mewn gwella canlyniadau addysgol plant a chyfleoedd bywyd yn y dyfodol.
Roeddwn wedi gwir fwynhau gwneud yr ymchwil i fy nhraethawd hir ar Ddwyieithrwydd Plant yn ystod y cwrs BA Astudiaethau Plentyndod, ac mae hyn wedi fy symbylu i barhau gydag ymchwil ar lefel ôl-radd.
Rwyf wrth fy modd fy mod yn aros ymlaen yn yr Ysgol Addysg ysgogol hon ym Mangor gan fy mod wedi mwynhau fy amser yn yr adran yn fawr iawn. Mae awyrgylch cyfeillgar yr adran a'r staff cefnogol wedi fy helpu i ffynnu fel myfyriwr israddedig, ac roeddwn yn arbennig o falch o gael Gwobr Cronfa'r Normal ar ôl y seremoni raddio."
Bydd Ellie'n gweithio dan oruchwyliaeth Cyfarwyddwr Ymchwil yr ysgol, Dr Jean Ware, a Bryn Jones, cydawdur astudiaeth: ‘100 Bilingual Lessons: Distributing two languages in classrooms'.
Bydd Ellie'n rhoi adroddiadau rheolaidd ar gynnydd y gwaith i staff y cwrs Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon, er mwyn sicrhau ei fod yn cael effaith yn syth.
Meddai Dr Jean Ware "Mae ein darpariaeth HAGA wedi derbyn sgoriau boddhad myfyrwyr ardderchog yn ddiweddar, ond mae lle i wella o hyd ac rydym wrth ein bodd bod Ellie'n mynd i fod yn gweithio gyda ni ar y project pwysig hwn."
Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2014