Ysgoloriaethau Comisiwn Ysgoloriaethau’r Gymanwlad ar gael ar gyfer rhaglenni MSc mewn Amaethgoedwigaeth a Choedwigaeth Drofannol ym Mhrifysgol Bangor. Gwnewch gais yn awr!
Mae Prifysgol Bangor wedi cael 15 o ysgoloriaethau Comisiwn Ysgoloriaethau’r Gymanwlad i'w dyfarnu i ysgolheigion rhyngwladol eithriadol i astudio naill ai:
· MSc Amaethgoedwigaeth a Diogelu'r Cyflenwad Bwyd (dysgu o bell)
· MSc Coedwigaeth Drofannol (dysgu o bell)
yn dechrau ym mis Medi 2021. Sicrhawyd yr ysgoloriaethau llawn hyn gan Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor yn dilyn proses hynod gystadleuol yn erbyn prifysgolion gorau eraill y Deyrnas Unedig.
Mae'r ysgoloriaethau hyn i ysgolheigion o wledydd sy'n datblygu yn y Gymanwlad yn unig: Ghana, Guyana, India, Kenya, Lesotho, Malawi, Mozambique, Nigeria, Rwanda, Sierra Leone, Sri Lanka, Tanzania, Y Gambia, Uganda a Zambia. Mae’r ysgoloriaethau werth £18,000, sy'n cynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth hael i alluogi’r myfyrwyr i fynd i wlad drofannol am bythefnos ar daith astudio orfodol ym mis Gorffennaf/Awst 2022 (*os bydd cyfyngiadau Covid-19 yn caniatáu). Mae grant astudio bychan hefyd ar gael i helpu’r myfyrwyr gyda chostau astudio sy'n gysylltiedig â dysgu o bell (e.e. defnyddio'r rhyngrwyd).
“Mae'n newyddion gwych bod Comisiwn Ysgoloriaethau’r Gymanwlad wedi ymrwymo eleni i gefnogi 15 o ysgolheigion rhagorol ar gyfer ein rhaglenni dysgu o bell”, meddai Cyfarwyddwr y Rhaglen MSc Coedwigaeth Drofannol, Dr James Walmsley. “Mae'r ysgoloriaethau dysgu o bell hyn yn galluogi ysgolheigion rhagorol o bob rhan o'r Gymanwlad i astudio am MSc, tra’n byw a gweithio yn eu gwledydd eu hunain. Mae ein hysgolheigion fel arfer yn weithwyr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio ym maes coedwigaeth, amaethgoedwigaeth a rheoli adnoddau naturiol, sy'n golygu eu bod yn gallu adeiladu ar yr hyn maent yn ei ddysgu trwy eu hastudiaethau mewn modd uniongyrchol a diriaethol iawn.
“Rydym yn gwneud ymdrech fawr i greu 'cymuned ddysgu' fywiog a chefnogol. Mae tîm o staff academaidd gydag amrywiaeth o arbenigeddau yn gweithio'n agos i ddatblygu deunyddiau dysgu newydd a chyffrous, gan wneud mwy a mwy o ddefnydd o dechnolegau e-ddysgu i wella dysgu myfyrwyr, ysbryd colegol a thrylwyredd academaidd."
Meddai un o'n graddedigion diweddar (Tankiso Lechesa o Lesotho): “Cefais lawer o foddhad o fod yn fyfyriwr dysgu o bell ym Mhrifysgol Bangor oherwydd y dulliau dysgu a ddefnyddiwyd fel darlithoedd a seminarau ar-lein, trafodaethau grŵp a theithiau astudio preswyl. Daeth y dulliau dysgu hyn â myfyrwyr a'r tîm darlithio yn agos at ei gilydd a chreu perthynas dda rhyngddynt.” (darllenwch ragor yma).
Mae gennym grŵp amrywiol o fyfyrwyr dysgu o bell o sefydliadau ymchwil, cyrff rheoli coedwigoedd cyhoeddus a phreifat, cyrff anllywodraethol amgylcheddol a sefydliadau cysylltiedig eraill o dros 20 o wahanol wledydd. Rydym yn cynnal Taith Astudio Coedwigaeth Drofannol er mwyn sicrhau bod yr holl ysgolheigion a'r tîm dysgu yn cwrdd wyneb yn wyneb i gael cyfle i ddod i adnabod ei gilydd yn well a darganfod a dysgu gyda'i gilydd mewn amgylchedd coedwigaeth drofannol. Dyma oedd uchafbwynt y rhaglen i lawer.
Mae'r Ysgol Gwyddorau Naturiol wedi bod yn cynnig cyrsiau dysgu o bell sy'n gysylltiedig â choedwigaeth yn rhan-amser ers 2002 gyda'r garfan gyntaf o fyfyrwyr Comisiwn Ysgoloriaethau’r Gymanwlad yn dechrau yn 2011. Ers hynny, mae ein hysgolheigion a’n graddedigion wedi bod yn llysgenhadon gwych i Brifysgol Bangor ac i Gomisiwn Ysgoloriaethau’r Gymanwlad. Mae ysgoloriaethau Comisiwn Ysgoloriaethau’r Gymanwlad wedi rhoi cyfle prin i'n myfyrwyr a'n graddedigion dysgu o bell astudio am radd ôl-radd ryngwladol yn un o sefydliadau uchaf ei barch y Deyrnas Unedig yn y maes.
Ceir rhagor o wybodaeth ynglŷn â chyflwyno cais yma.
Ysgolheigion, staff a gwesteiwyr Comisiwn Ysgoloriaethau’r Gymanwlad ar y daith astudio coedwigaeth drofannol yn Ghana. © James Walmsley
Casglu data fel rhan o'r project ymchwil dan arweiniad myfyrwyr ar y daith astudio coedwigaeth drofannol. Roedd y grŵp hwn yn ymchwilio i effeithiau gwahanol driniaethau coedwriaeth ar strwythur cellïoedd coedwig a stociau carbon. © James Walmsley
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2021