Ysgrifennydd y Cabinet yn gweld arloesi ar waith ym Mhrifysgol Bangor
Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC, â Phrifysgol Bangor ddydd Iau (16 Mawrth), gan fynychu Cynhadledd Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru yn ogystal ag ymweld ag Undeb y Myfyrwyr ac Arloesi Pontio Innovation (API) yn adeilad Pontio.
Meddai’r Ysgrifennydd yn dilyn ei hymweliad â’r Brifysgol: “Rwy’n hynod ddiolchgar i John a’i dîm am drefnu daith wych o amgylch rhai o gyfleusterau ardderchog Prifysgol Bangor. Roeddwn yn arbennig o falch o gael cyfarfod myfyrwyr yn yr Undeb a chlywed ganddyn nhw am fywyd prifysgol a’r profiad byd enwog sydd ynghlwm â’r lle.
“Roeddwn hefyd yn falch o gael clywed mwy am waith y Brifysgol ym maes ehangu mynediad, gan roi roi cyfleoedd i bobl yr ardal i dreulio amser ar gampws y Brifysgol a chael y profiad o astudio mewn awyrgylch Addysg Uwch.”
Yn ystod ei hymweliad, bu Kirsty Williams AC yn cyfarfod â myfyrwyr ac fe’i tywyswyd o amgylch Undeb y Myfyrwyr a chafwyd cyflwyniad ar y gwaith a wneir gan y swyddogion sabothol amrywiol a sut y mae eu gwaith hwy wedi cyfrannu at enw da’r Brifysgol ym maes profiad myfyrwyr a’u llesiant.
Bu’r AC hefyd yn ymweld ag Arloesi Pontio Innovation, sy’n gartref i lu o gyfleusterau a chyfarpar dylunio modern. Yma, clywodd am rai o weithgareddau diweddar API a oedd yn cynnwys, ymysg pethau eraill, rhoi cymorth i dad lleol wrth iddo ddatblygu braich brostheig ar gyfer ei fab bach.
Hawliodd hanes Ben Ryan, a raddiodd o Fangor ac a ddatblygodd fraich brosthetig i’w fab, Sol, ar ôl i’r bychan orfod colli ei fraich yn 10 niwrnod oed, sylw rhyngwladol. Rhoddodd Ben y gorau i’w swydd er mwyn datblygu braich brosthetig i Sol a sefydlu cwmni, Ambionics, cwmni start-up sydd wedi derbyn cefnogaeth gan API, er mwyn datblygu prosthetigau ar gyfer plant bach eraill.
Meddai Is-Ganghellor Prufysgol Bangor, Yr Athro John G. Hughes: “Roedd hwn yn gyfle ardderchog i Ysgrifennydd y Cabinet gyfarfod â myfyrwyr ac i weld rhywfaint o’r gwaith arloesol yr ydym yn gyflawni wrth helpu unigolion a busnesau’r rhanbarth.”
Cyn ymweld ag adeilad Pontio, bu Ysgrifennydd y Cabinet yn mynychu Cynhadledd Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru. Rhaglen genedlaethol yw Ymestyn yn Ehangach sy’n ceisio ehangu cyfranogiad a mynediad at Addysg Uwch, gan gefnogi uwch-sgilio ac ymwneud cymdeithasol.
Mae'n ceisio cynyddu cyfranogiad mewn addysg uwch o blith grwpiau a chymunedau yng Nghymru lle mae cyfranogiad yn isel, trwy greu ystod eang o gyfleoedd astudio a llwybrau dysgu i addysg uwch. Mae'r gynhadledd yn dwyn ynghyd holl randdeiliaid rhanbarthol y Bartneriaeth, gan gynnwys prifysgolion, colegau Addysg Bellach a grwpiau adfywio cymunedol amrywiol.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2017