Wendy Evans, Swyddog Gwybodaeth Fusnes
Wendy yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer dadansoddi data perfformiad; darparu cefnogaeth i gydweithwyr ar nodi, dehongli a delweddu data. Mae hi hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu adroddiadau Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPI), meincnodau a thueddiadau mewn perthynas â fframwaith cynllunio strategol y Brifysgol ac mae'n ymdrin â cheisiadau data ad-hoc, gan gynnwys ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Mae Wendy yn cymryd rôl arweiniol o ran datblygu a chyflwyno adnodd Gwybodaeth Fusnes PowerBI y Brifysgol, cynhyrchion mewnwelediad busnes allanol a modelau cynllunio busnes, gan gynnwys cefnogi a hyfforddi defnyddwyr. Mae hi hefyd yn cefnogi gwaith tîm cynllunio strategol a busnes y brifysgol.