Llwyddo gyda'ch Astudiaethau
Help gydag aseiniadau, arholiadau, cyflwyniadau, mathemateg ac ystadegau, cymryd nodiadau, rheoli amser: Oriau swyddfa (9yb-5yp)
Yn ystod oriau swyddfa arferol, mae yna nifer o bobl a all gynnig help a chefnogaeth i chi:
- Gall eich tiwtor modiwl ateb cwestiynau am gynnwys y cwrs, gofynion aseiniadau penodol, awgrymiadau ynghylch darllen, a sylwadau am waith y mae wedi'i farcio i chi. Gellwch siarad â hwy ar ddiwedd eich darlithoedd, anfon e-bost atynt, trefnu apwyntiad i siarad â hwy, neu fynd i'w swyddfa yn ystod eu horiau swyddfa penodol heb apwyntiad.
- Mae'r Ganolfan Sgiliau Astudio yn cynnig apwyntiadau cyfrinachol un-i-un ar ysgrifennu ac/neu sgiliau astudio i fyfyrwyr sy'n dymuno gwella eu harddull ysgrifennu, cyfeirio, cynllunio a golygu, saernio traethawd, sgiliau dadansoddi beirniadol/dadlau, cymryd nodiadau, sgiliau cyflwyno ac arholi, rheoli amser, a defnyddio meini prawf sylwadau ac asesu.
Mae'n ddefnyddiol dod â sampl o'ch gwaith, megis yr aseiniad rydych yn gweithio arno ar hyn o bryd, i'w drafod gyda'r mentor.
Gellwch drefnu apwyntiadau yma:
/studyskills/individual-appointment.php.cy
- Mae'r Ganolfan Sgiliau Astudio hefyd yn cynnig apwyntiadau a sesiynau galw heibio ar gyfer gwella sgiliau mathemateg ac ystadegau.
- Mae'r Ganolfan Sgiliau Astudio hefyd yn darparu gweithdai rhyngweithiol i grwpiau ar amrywiaeth o bynciau.
- Gall Llyfrgellwyr Cymorth Academaidd gynnig help i ddod o hyd i ddeunydd darllen ar gyfer aseiniadau, arddulliau ac offer cyfeirnodi, arweiniad ar ddulliau chwilio, adolygiadau systematig, hawlfraint, a chael cyhoeddi eich gwaith.
- O ran cefnogaeth gydag iaith Saesneg, mae ELCOS yn darparu amrywiaeth o gyrsiau gyda ffioedd amrywiol.
- Maent hefyd yn darparu modiwlau y gellwch eu harchwilio neu eu cymryd am gredyd.
- Os hoffech i rywun ddangos i chi sut i ddefnyddio rhaglenni Technoleg Gwybodaeth fel Microsoft Office, gellwch alw heibio i'r adran TG yn Llyfrgell Deiniol Road.
Y darn difrifol…
Mae'n rhaid i chi ddarllen a dilyn y rheolau a'r rheoliadau hyn.
Trefn Uniondeb Academaidd: /regulations/procs/proc05.php.cy
Rheoliadau Cyffredinol i'r holl Fyfyrwyr: /regulations/regulations/reg13.php.cy
Y Llyfrgell - Polisi Defnydd Derbyniol: /library/about/acceptable-use.php.cy
TG Polisi Defnydd Derbyniol: /itservices/policies/accept_use.php
Am yr holl reoliadau academaidd eraill, gweler: /regulations/index.php.cy