Ms Elen Bonner
Swydd: Ymchwilydd, Tiwtor ac Ymgeisydd PhD.
E-bost: emp404@bangor.ac.uk
Rhagolwg
Mae Elen Bonner yn Ymchwilydd Ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor gydag arbenigedd penodol mewn astudio’r berthynas rhwng yr economi, mudo a’r Gymraeg. Mae hi’n ddeiliad Ysgoloriaeth Martin Rhisiart drwy law'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Fel rhan o’i gwaith doethuriaeth cynhaliodd adolygiad systematig o’r hyn sy’n wybyddus am ddylanwad gwahanol ddimensiynau o’r economi ar y Gymraeg ynghyd a datblygu teipoleg unigryw sy’n cyfleu’r hyn sy’n gyrru penderfyniadau siaradwyr yr iaith mewn perthynas â mudo. Dyma’r adolygiad llenyddol mwyaf cyfredol a chynhwysfawr ar ddylanwad yr economi ar y Gymraeg.
Mae hi wedi cyflwyno ei gwaith i fforymau amrywiol gan gynnwys ‘Rhwydiaith’, sef rhwydwaith sy’n cael ei gydlynu gan Gymdeithas Llywodraethau Leol Cymru ar gyfer swyddogion iaith, yn ogystal â chyfrannu tuag at gyfarfodydd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ac Arfor.
Yn ddiweddar, mae Elen wedi bod yn gweithio fel cynorthwyydd ymchwil ar brosiectau sy’n archwilio i ddefnydd cymunedol o’r Gymraeg a dylanwad y sector dwristiaeth ar iaith. Mae hyn, ynghyd â’i phrofiad fel myfyriwr PhD, wedi meithrin sgiliau ymchwilio cryf gan gynnwys archwilio llenyddiaeth, creu offer ymchwil, casglu a dadansoddi data ansoddol a chyflwyno gwaith ymchwil i gynulleidfaoedd amrywiol. Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel ymchwilydd ar brosiect a gyllidwyd drwy Gronfa Her Arfor sy’n mynd i'r afael â’r her o recriwtio staff dwyieithog.
Cyfranna Elen i arlwy dysgu’r Brifysgol fel tiwtor Cymdeithaseg cyfrwng Cymraeg ac mae'n Ddarlithydd Cysylltiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cymwysterau
- Tystysgrif Ôl-radd mewn Dulliau Ymchwil
2021 - MA: Datblygu Cymuned
2017 - BA: Celf Gain
University College for the Creative Arts, 2006
Addysgu ac Arolygiaeth
Is-raddedig
SCS1004 - Cymdeithaseg a'r Byd Cyfoes
SCU2001 - Dulliau Ymchwil
SCS3010 - Hawliau Ieithyddol
SCU1006 - Rhaniadau Cymdeithasol
Cyhoeddiadau
2024
- CyhoeddwydCymraeg 2050: Rôl yr economi wrth ymdrechu tua’r miliwn
Bonner, E., 1 Meh 2024
Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Safe Gwe / Cyhoeddiad Gwe - E-gyhoeddi cyn argraffuDefining economic impact on minority languages: The Case of Wales
Bonner, E., Prys, C., Mitchelmore, S. & Hodges, R., 21 Maw 2024, (E-gyhoeddi cyn argraffu) Yn: Journal of Multilingual and Multicultural Development. 17 t.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid - CyhoeddwydMigration through a language planning lens: A typology of Welsh speakers' migration decisions
Bonner, E., Prys, C., Hodges, R. & Mitchelmore, S., 10 Mai 2024, Yn: Current issues in language planning. t. 1-22 22 t.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
2023
- CyhoeddwydDefnyddio'r Gymraeg mewn Cymunedau yn Ynys Mon
Hodges, R., Prys, C., Bonner, E., Orrell, A. & Gruffydd, I., 28 Gorff 2023, 85 t.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Adroddiad Comisiwn