Dr Aled Llion Jones
Pennaeth Ysgol / Darllenydd mewn Llenyddiaeth Gymraeg a Chanoloesol (Ysgol y Gymraeg)
–
Rhagolwg
Addysg a Chyflogaeth
Fe'm haddysgwyd ym Mhrifysgolion Leeds, Caerdydd a Harvard, ac enillais raddau ym meysydd Athroniaeth a Saesneg (BA), Cymraeg (MPhil) ac Astudiaethau Celtaidd (PhD). Rwyf wedi bod yn Ddarlithydd neu'n Athro mewn prifysgolion yng Ngwlad Pwyl (Lublin), Iwerddon (Gaillimh), UDA (Harvard) a Chymru (Bangor), ac wedi darlithio'n achlysurol neu addysgu ar ysgolion haf mewn sefydliadau ledled Ewrop a Gogledd America.
Ymchwil
Rwy'n gweithio ar draws cyfnodau a disgyblaethau, gan ddwyn athroniaeth a theori lenyddol ddiweddar i ddialog â llenyddiaeth fodern a chanoloesol Cymru ac Iwerddon. Pwysig i’r gwaith hwn hefyd ydy theori amlieithrwydd a chyfieithu. Gweler yn enwedig fy monograff, Darogan (GPC 2013), a hefyd fy erthygl yn Translation Studies, 9.
Yn ddiweddar mae fy ngwaith ymchwil wedi bod yn troi o gwmpas dau brif faes, sef athroniaeth yr ugeinfed ganrif (yn enwedig ffigyrau megis Martin Heidegger, Maurice Blanchot, Martin Buber, Jacques Derrida) a llenyddiaeth Gymraeg y canol oesoedd. Digwyddiad pwysig sy'n clymu'r meysydd hyn ynghyd yw cyfieithiad Martin Buber o Bedair Cainc y Mabinogi yn 1914, ac rwyf wedi bod yn edrych ar y croes-ffrwythloni cysyniadol rhwng y chwedlau Cymraeg a'r traddodiadau dyneiddiol-Hasidig. Gweler fy erthygl yn Ysgrifau Beirniadol ar yr olaf.
Rwyf hefyd yn edrych yn agos ar gysyniadau o amser, cronoleg a hanesyddiaeth yn llên ganoloesol y Gymraeg a'r Wyddeleg. Mae'r brosiect hon yn archwilio nid yn unig nodweddion megis y deictig ond hefyd y ffyrdd y mae ffurfiau llenyddol a throsiadau rhethregol yn mynegi profiadau cysyniadol (ac anghysyniadol) o amser, lle, tragwyddoldeb a'r iwtopig. Gweler fy erthygl yn Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium ar hyn.
Cyflwyno a Siarad Cyhoeddus
Rwyf wedi traddodi ystod o bapurau mewn cynadleddau o orllewin Romania i dde Califfornia (ac yn y rhan fwyaf o’r gwledydd rhyngddynt): siaradaf gan fwyaf ar lenyddiaeth Gymraeg a Gwyddeleg (ganoloesol a modern), ond hefyd ar athroniaeth, ac astudiaethau diwylliannol yn ehangach.
Caf fy ngwahodd yn aml i gyflwyno mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau cyhoeddus, o brifysgolion i neuaddau pentref, ac mae fy ngwaith fel athro iaith (Cymraeg, Pwyleg, Gwyddeleg) hefyd yn fodd o gysylltu â’r gymuned leol ac ehangach. Rwy'n barod iawn i drafod ar y cyfryngau darlledu: rwy'n gyfforddus yn siarad a darlithio mewn nifer o ieithoedd.
Cyfieithu Llenyddol
Rwyf wedi cyfieithu a thrafod yn gyhoeddus farddoniaeth sawl bardd Pwyleg, a hefyd wedi cael fy nghomisiynu gan Gyfnewidfa Llenyddiaeth Cymru i gyfieithu rhyddiaith o'r iaith honno. Cyhoeddais amryw gyfieithiadau o'r Wyddeleg i'r Gymraeg.
Fe'm cymhwyswyd drwy arholiad ar gyfer aelodaeth o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (Cym-Saes; Saes-Cym).
Addysgu
Byddaf yn dysgu bob blwyddyn ar fodiwlau blwyddyn gyntaf, ail a thrydedd y gwahanol gynlluniau BA. Dysgaf sgiliau iaith a llythrennedd (Cymraeg a Gwyddeleg) yn ogystal â llenyddiaeth, hanes llenyddiaeth, ac athroniaeth. Rwy'n cyfrannu'n gyson hefyd i fodiwlau a gaiff eu cyd-addysgu, a’r rheiny’n amrywio o lenyddiaeth ganoloesol a modern cynnar i ieithyddiaeth, sosioiethyddiaeth a chynllunio ieithyddol. Fi yw sylfeinydd a chyfarwyddwr y cwrs MA 'Y Celtiaid', a byddaf yn cyfrannu at ddysgu ar gyrsiau MA eraill ar draws yr Ysgol a'r Coleg. Rwy'n hapus i drafod prosiectau PhD.
Gwybodaeth Cyswllt
Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Prifysgol Bangor
Ffordd y Coleg
Bangor
LL57 2DG
+44 (0)1248 382243
Cymwysterau
- PhD
Harvard University, 2005–2011 - MA
Harvard University, 2005–2007 - MPhil
Caerdydd, 1997–2000 - BA
Leeds University, 1993–1996
Addysgu ac Arolygiaeth
Addysgu BA
Blwyddyn 0
- CXC-1036 Cyflwyno Llenyddiaeth Gymraeg (Dechreuwyr)
Blwyddyn 1
- CXC-1002 Llên y Cyfnod Modern Cynnar
- CXC-1005 Ysgrifennu Cymraeg (trywydd ail-iaith)
- CXC-1026 Golwg ar Lenyddiaeth (trywydd ail-iaith)
Blwyddyn 2 a 3
- CXC-3202/2202 Athroniaeth a Llenyddiaeth
- CXC-3029/2029 Chwedlau'r Oesau Canol
- CXC 2203/3203 Blas ar yr Wyddeleg
- CXC-3009 Traethawd Estynedig
Addysgu MA
Fi yw cyfarwyddwr cwrs MA 'Y Celtiaid'. Byddaf hefyd yn goruchwylio myfyrwyr MA (Cymraeg). Cyfrannaf at ddarlithoedd/seminarau sawl cwrs MA arall (e.e. Astudiaethau Arthuraidd; Cyflwyno'r Oesau Canol; Llenyddiaethau Cymru)
Goruchwylio PhD
Yn ddiweddar goruchwyliwyd gennyf y rhain:
- bu prosiect Philip Davies yn astudiaeth gymharol o ddisgyrsiau cenedlaetholgar yng Nghymru a Gwlad y Basg tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg;
- mae Angelika Rüdiger yn astudio'r datblygiad o fotiffau llên gwerin Gymraeg rhwng y cyfnod canoloesol a'r modern.
Croesawaf gynigion ar gyfer prosiectau ymchwil ar amryw agweddau o lenyddiaethau'r ieithoedd Celtaidd - yn enwedig Cymraeg a Gwyddeleg, a rhai'n ymwneud â methodoleg theoretig/athronyddol.
Arholi PhD
Bûm yn arholwr mewnol i nifer o draethodau ymchwil PhD, yn Ysgol y Gymraeg a hefyd Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg, ac Ysgol Athroniaeth a Chrefydd.
Arholi Allanol
- Newydd orffen cyfnod fel Arholwr Allanol, Prifysgol y Drindod Dewi Sant (Cynllun AUR, Y Gyfadran Allanol)
Diddordebau Ymchwil
Rwy'n ymchwilio i lenyddiaethau'r ieithoedd Celtaidd yn gyffredinol (Cymraeg a Gwyddeleg yn arbennig), ac mae gennyf hefyd ddiddordeb mawr mewn Llenyddiaeth Gymharol, yn enwedig yng nghyd-destun diwylliannau llai Ewrop a'r ieithoedd Slafeg (y Bwyleg yn arbennig).
Yn fy ymchwil fy hun a'm goruchwylio mae gennyf ddiddordeb neilltuol mewn gwaith ac iddo ogwydd theoretig: mae fy ymchwil (gw. manylion cyhoeddiadau a chynadleddau) yn ymwneud â disgyrsiau sydd ar y ffin rhwng ffiloleg ac athroniaeth iaith/celf (e.e., proffwydoliaeth, amlieithrwydd, cyfieithu, barddoneg ac estheteg, ac ecofeirniadaeth).
Yn ddiweddar mae fy ngwaith ymchwil wedi bod yn troi o gwmpas dau brif faes, sef athroniaeth yr ugeinfed ganrif (yn enwedig meddylwyr megis Martin Heidegger, Maurice Blanchot, Martin Buber, Jacques Derrida, J.R. Jones) a llenyddiaeth Gymraeg y canol oesoedd (barddoniaeth a rhyddiaith). Digwyddiad pwysig sy'n clymu'r meysydd hyn ynghyd yw cyfieithiad Martin Buber o Bedair Cainc y Mabinogi yn 1914, ac rwyf wedi bod yn edrych ar y croes-ffrwythloni cysyniadol rhwng y chwedlau Cymraeg a'r traddodiadau dyneiddiol-Hasidig.
Rwyf erbyn hyn yn edrych yn benodol ar gysyniadau o amser, cronoleg a hanesyddiaeth yn llên ganoloesol y Gymraeg a'r Wyddeleg. Mae'r prosiect diweddaraf hwn yn archwilio nid yn unig agweddau megis y deictig ond hefyd y ffyrdd y mae ffurfiau llenyddol a throsiadau rhethregol yn mynegi profiadau cysyniadol (ac anghysyniadol) o amser, lle, tragwyddoldeb ac iwtopia.
Rwyf wrthi hefyd yn paratoi cyflwyniad hygyrch i Athroniaeth Llenyddiaeth, i'w gyhoeddi ar ffurf llyfr. Hwn fydd y cyflwyniad cyntaf o'i fath yn y Gymraeg, ac yn trafod llên Cymru yn benodol.
Cyfleoedd Project Ôl-radd
Cyhoeddiadau
2024
- Wedi ei Dderbyn / Yn y wasgPoets, Language, Grammar, Death: Reading 'Beirdd y Tywysogion' with Heidegger
Jones, A. L., 2024, (Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg) Festschrift.
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
2023
- Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg'Cyn iddynt Fyn’d ar Ddifancoll’: Gweledigaeth y Ffotograffydd John Thomas o Gymru Oes Fictoria
Richards, R. & Jones, A. L. (Golygydd), 2023, (Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg) Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. (Cyfres y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig)
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid
2022
- Cyhoeddwyd'Mae'r Beibl o'n tu': ymatebion crefyddol y Cymry yn America i gaethwasiaeth (1838-1868)
Evans Jones, G. & Jones, A. L. (Golygydd), Medi 2022, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 368 t. (Cyfres y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig)
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid - CyhoeddwydAdolygiad o Mererid Hopwood, Dychmygu Iaith (Gwasg Prifysgol Cymru, 2022)
Jones, A. L., Hyd 2022, Yn: Barn.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl
2021
- CyhoeddwydEfrydiau Dynion: Adolygiad o 'Rheswm a Rhyddid' gol. E. Gwynn Matthews
Jones, A. L., Mai 2021, Yn: O'r Pedwar Gwynt. t. 39 1 t.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl - CyhoeddwydY 'Brifysgol Wyddeleg', tybed?
Jones, A. L., 3 Meh 2021, Yn: Barn. t. 6-7 2 t.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl
2020
- CyhoeddwydDarllen y Dychymyg: Creu Ystyron Newydd i Blant a Phlentyndod yn Llenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
Rosser, S. & Jones, A. L. (Golygydd), 15 Rhag 2020, Gwasg Prifysgol Cymru. 336 t. (Cyfres y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig)
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid - CyhoeddwydReview: Cambridge History of Welsh Literature
Jones, A. L., 10 Medi 2020, Yn: The Medieval Review.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl
2019
- Cyhoeddwyd'Good Time(s), Bad Time(s): myth and metaphysics in some medieval literature': The Keynote Lecture of the 38th Harvard Celtic Coloquium
Jones, A. L., 12 Maw 2019, Proceedings of the 38th Harvard Celtic Colloquium. Andrews, C., Newton, H. & Parker, S. (gol.). 2018 gol. Cyfrol 38.
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
2018
- CyhoeddwydAr drên i Warszawa - a hanes yn ddrych
Jones, A., 31 Gorff 2018, Yn: O'r Pedwar Gwynt. 7, t. 6-7 2 t.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl - CyhoeddwydCerddi Martin Codax: Cyfieithiadau o gerddi hynaf yr iaith Aliseg-Bortiwgaleg
Jones, A. (Cyfieithydd), Miguelez-Carballeira, H. (Cyfieithydd) & Costas Gonzalez, X.-H. (Golygydd), 2018, Vigo : Universidade De Vigo.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall › Cyfraniad Arall - CyhoeddwydCynghanedd, Amser a Pherson yng Nghywyddau Brud Dafydd Gorlech
Jones, A., 30 Mai 2018, Y geissaw chwedleu. Jones, A. L. & Fomin, M. (gol.). Bangor, 14 t. (Studia Celto-Slavica; Cyfrol 8).
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - CyhoeddwydReview of Barry Lewis, 'Medieval Welsh Poems to Saints and Shrines'
Jones, A., 2018, Yn: Éigse. 40
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid - CyhoeddwydY geissaw chwedleu: Proceedings of the 7th International Colloquium of Societas Celto-Slavica
Jones, A. (Golygydd) & Fomin, M. (Golygydd), 30 Mai 2018, Bangor: Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor. 189 t. (Studia Celto-Slavica; Cyfrol 8)
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid
2017
- CyhoeddwydOwain ab Urien
Jones, A., 18 Awst 2017, The Encyclopedia of Medieval Literature in Britain. Fay, J. A., Futton, H. & Rector, G. (gol.). Wiley-Blackwell, Cyfrol The Encyclopedia of Medieval Literature in Britain.
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Cofnod mewn Gwyddoniadur/Geiriadur › adolygiad gan gymheiriaid - CyhoeddwydPreiddiau Annwfn
Jones, A., 18 Awst 2017, The Encyclopedia of Medieval Literature in Britain. Fay, J. A., Futton, H. & Rector, G. (gol.). Wiley-Blackwell
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Cofnod mewn Gwyddoniadur/Geiriadur › adolygiad gan gymheiriaid - CyhoeddwydReview of Natalia Petrovskaia, 'Medieval Welsh Perceptions of the Orient'
Jones, A., Maw 2017, Yn: Renaissance Quarterly. 70, 1, t. 325-326 2 t.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl - CyhoeddwydYmddiddan Myrddin a Thaliesin
Jones, A., 18 Awst 2017, The Encyclopedia of Medieval Literature in Britain. Fay, J. A., Futton, H. & Rector, G. (gol.). Wiley-Blackwell
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Cofnod mewn Gwyddoniadur/Geiriadur › adolygiad gan gymheiriaid
2016
- CyhoeddwydMartin Buber a Phedair Cainc y Mabinogi: Seioniaeth, Dyneiddiaeth a Duw
Jones, A., 1 Rhag 2016, Ysgrifau Beirniadol 34. Price, A. (gol.). Gwasg Gee, t. 209-238 29 t.
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid - CyhoeddwydMedieval Wales in Modern Germany: Martin Buber translates the Mabinogi
Jones, A., 2016, Golden Epochs and Dark Ages: Perspectives on the Past. Antonowicz, A. & Niedokos, T. (gol.). Lublin: Wydawnictwo KUL, Cyfrol 14. 15 t. (Studies in Literature and Culture ).
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - CyhoeddwydProphecy as criticism: MS Peniarth 50, tradition and translation
Jones, A., 1 Maw 2016, Yn: Translation Studies. 9, 2, t. 137-151 14 t.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid - CyhoeddwydTwo by Two: The Doubled Chariot-figure of Táin Bó Cuailgne
Jones, A., 1 Chwef 2016, Ollam: Studies in Gaelic and Related Traditions in Honor of Tomás Ó Cathasaigh . Boyd, M. (gol.). Lanham: Fairleigh Dickenson University Press, 16 t. Chapter 2
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
2013
- CyhoeddwydDarogan: Prophecy, Lament and Absent Heroes in Medieval Welsh Literature
Jones, A. L., 15 Rhag 2013, University of Wales Press.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
2012
- Cyhoeddwyd'Celtic Prosody'
Ford, P. K. & Jones, A., 2012, The Princeton Encyclopaedia of Poetry and Poetics. Greene, R. (gol.). Princeton: Princeton University Press
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Cofnod mewn Gwyddoniadur/Geiriadur › adolygiad gan gymheiriaid
2010
- CyhoeddwydProceedings of the Harvard Celtic Colloquium 2010: 26/27
Chance, C., Radiker, L., Zall, C., Bempechat, P. & Jones, A., 2010, Cambridge, MA: Harvard University Press.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid
2009
- CyhoeddwydProceedings of the Harvard Celtic Colloqium 2005: 24/25
Jones, S., Jones, A. (Golygydd) & Knight, J., 2009, Cambridge, MA: Harvard University Press.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
2004
- CyhoeddwydFersiynau ar Fordaith Lenyddol: Adolygiad o Weithdy Cyfieithu
Davies, M. P. & Jones, A., 2004, Yn: Taliesin. 121, t. 90-102
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl
2003
- CyhoeddwydDa Bangor a Bangor: il viaggio di un bardo
Llwyd, I., Jones, A. (Golygydd), Jones, A. (Cyfieithydd), Bianchi, A. (Cyfieithydd) & Siviero, S. (Cyfieithydd), 2003, Mobydick.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
Gweithgareddau
2023
- Rhaglen Aled Hughes
Sgwrs ar lenyddiaeth Arthuraidd, i nod 7 mlwyddiant sefydlu'r Ganolfan Arthuraidd
1 Maw 2023
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr) - Harvard University
Siaradwr gwadd yn seminar 'CELTIC 138: The Mabinogion: Stories from Medieval Wales' (i drafod erthygl o'm heiddo sydd ar y maes llafur).
21 Chwef 2023
Gweithgaredd: Ymweld â sefydliad academaidd allanol (Ymchwilydd Gwadd)
2020
- Harvard University
Athro ar Ymweliad (Visiting Professor)
1 Awst 2020 – 30 Rhag 2020
Gweithgaredd: Ymweld â sefydliad academaidd allanol (Ymchwilydd Gwadd) - Gwersi Gwyddeleg Enghreifftiol
Gwersi Ar-lein i Diwtoriaid y Gogledd
14 Mai 2020
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
2019
- Culhwch ac Olwen and a reference to Geoffrey's Historia
Papur cynhadledd yn trafod pwysigrwydd cyfeiriad posibl at Historia Regum Britanniae yn y chwedl Culhwch ac Olwen.
20 Medi 2019
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr) - Darlith wadd, Humanities Center / Dept. of Celtic Languages and Literatures, Harvard University
Teitl: 'Why Arthur is Always Wrong: Culhwch ac Olwen as self-defeating prophecy'
13 Medi 2019
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - Beirniadu Her Gyfieithu 2019
Trefnir gan PEN Cymru. Yr her eleni yw cyfieithu dwy gerdd gan Julia Fiedorczuk o'r Bwyleg i'r Gymraeg.
Gorff 2019
Cysylltau:
Gweithgaredd: Arall (Cyfrannwr) - Universität Wien: Darlithoedd a Seminarau
Fe'm gwahoddwyd i gyflwyno dwy gyfres o ddarlithoedd a seminarau i gyflwyno'r iaith Gymraeg yn ei chyd-destun hanesyddol, diwylliannol ac ieithyddol.
23 Ebr 2019 – 31 Mai 2019
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Ymchwilio a Dysgu mewn Sefydliad Allanol (Cyfrannwr)
2018
- Viva PhD (Ysgol y Gymraeg)
Cadeirio viva PhD (Ysgol y Gymraeg)
11 Rhag 2018
Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr) - Cyflwyniad y Gymraeg ar Daith, Ysgol Friers
Sesiwn i gyflwyno manteision BA mewn Cymraeg i ddisgyblion yr ysgol, a drefnwyd ar y cyd â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
26 Tach 2018
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr) - Cyflwyniad ar gwrs preswyl Glan-llyn
Cyflwyniad i ddisgyblion chweched dosbarth o ysgolion led-led Cymru, ar gwrs Preswyl Glan-llyn a drefnwyd gan Ysgol y Gymraeg a'r Urdd
21 Tach 2018
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr) - Cyflwyniad Y Gymraeg ar Daith, Ysgol Tryfan
Sesiwn i gyflwyno manteision BA mewn Cymraeg i ddisgyblion yr ysgol, a drefnwyd ar y cyd â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
7 Tach 2018
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr) - Prif-ddarlith/Keynote: Harvard Celtic Colloquium
'Good time(s), bad time(s): myths and metaphysics in some medieval literature'
6 Hyd 2018
Cysylltau:
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Anerchiad fel siaradwr gwadd (Cyfrannwr) - Rhaglen Aled Hughes, Radio Cymru
Sgwrs i drafod taith i Jerusalem i archif Martin Buber, cyfieithydd y Mabinogi i'r Almaeneg
25 Ebr 2018
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr) - Cyflwyniad ar Ail Gainc y Mabinogi i ddisgyblion Ysgol Tryfan
18 Ebr 2018
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Prif siaradwr) - Gwers Wyddeleg enghreifftiol i diwtoriaid iaith.
Cynhadledd Cymraeg i Oedolion, Plas Tan-y-Bwlch
13 Ebr 2018
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - Sgwrs wadd i Gymdeithas Hanes y Tair Llan
'Amser a gofod: darllen llenyddiaeth ganoloesol y Gymraeg gyda Stephen Hawking'. Defnyddio theoriau gwyddonol diweddar ynghylch amser a gofod i ddarllen llenyddiaeth Gymraeg ganoloesol.
10 Ebr 2018
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - Viva PhD Cymraeg/Athroniaeth a Chrefydd
Arholwr Mewnol Ysgol y Gymraeg/Ysgol Athroniaeth a Chrefydd
Chwef 2018
Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr)
2017
- Y Gymraeg ar Daith, Bro Dinefwr
Sesiwn i gyflwyno manteision BA mewn Cymraeg i ddisgyblion yr ysgol
22 Tach 2017
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd (Siaradwr) - Y Gymraeg ar Daith, Aberaeron
Sesiwn i gyflwyno manteision BA mewn Cymraeg i ddisgyblion yr ysgol
17 Tach 2017
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd (Siaradwr) - Sesiwn 'Cyflwyno'r BA Cymraeg', Ysgol David Hughes
Sesiwn awr yn disgrifio manteisio gradd mewn Cymraeg, o ran cyflogadwyedd, etc.
10 Gorff 2017
Cysylltau:
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyflwynydd) - Gwers Wyddeleg enghreifftiol
Gwers iaith enghreifftiol i diwtoriaid iaith, Cynhadledd Cymraeg i Oedolion, Plas Tan-y-Bwlch
Mai 2017
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
2016
- Darlith wadd: Cynhadledd Flynyddol Adran Athronyddol Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru.
'Buber, Benjamin, Cynddelw, Rhonabwy: amser, iaith a hanes yn llenyddiaeth Gymraeg y Canol Oesoedd'.
Tach 2016
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd) - Cynhadledd 'Dialog': cyflwyno ymchwil ar Martin Buber a'r Mabinogi
'Cyfriniaeth, Seioniaeth a Phedair Cainc y Mabinogi'
22 Hyd 2016
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd) - Papur yng Nghynhadledd Canolfan Ymchwil Cymru: ‘“Mi a wnn pwy wyt ti”: Cyfriniaeth Fodern Almaeneg-Iddewig yn Etifeddu'r Canol Oesoedd Cymraeg’
Papur cynhadledd
26 Meh 2016
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr) - Darlith wadd ym Mhrifysgol Uppsala
'"Fel y torraist ti fy nghalon": medieval and early-modern Welsh love poetry'. Darlith i fyfyrwyr lleol a dysgwyr o bell.
Mai 2016
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd) - Gwers iaith enghreifftiol i diwtoriaid iaith y gogledd
Plas Tan-y-Bwlch, Cynhadledd Cymraeg i Oedolion
Ebr 2016
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Prif siaradwr) - Rhaglen Dei Tomos, BBC Radio Cymru. Trafodaeth ar amlieithrwydd mewn llenyddiaeth Gymraeg.
'Amlieithrwydd mewn llenyddiaeth Gymraeg'
Maw 2016
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd) - Seminar MA yn Adran y Saesneg (Astudiaethau Celtaidd), Prifysgol Gatholig Lublin, Gwlad Pwyl
Agweddau cyfredol ar sosio-ieithyddiaeth y Gymraeg
Ion 2016
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd) - XVIeg Gyngres Astudiaethau Celtaidd Rhyngwladol
2016 – 2019
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Trefnydd)
2015
- Darlith gyhoeddus yn Adran Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Poznań, Gwlad Pwyl
Yr Athronydd yn Annwn: Martin Buber, Cyfriniaeth Iddewig a'r Mabinogi
Rhag 2015
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Prif siaradwr) - Seminar Ôl-radd Ysgol y Gymraeg
'Yr Athronydd yn Annwn: Martin Buber, Cyfriniaeth Iddewig a'r Mabinogi'
Rhag 2015
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd (Siaradwr) - Sgwrs i'r Fainc Sglodion (Cymdeithas Lenyddol Blaenau Ffestiniog)
Bendigeidfran yn Berlin: y Mabinogi a rhai o athronwyr yr Almaen, c. 1914
Rhag 2015
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd) - Darlith wadd ym Mhrifysgol Szczecin, Gwlad Pwyl
'Martin Buber and the Mabinogi: a very tenuous Polish connection'. Welsh Days 2015.
Hyd 2015
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd) - Ddarllen a thrafod cerddi Marko Pogačar, wedi eu cyfieithu gennyf o’r Groasieg i'r Gymraeg
Hyd 2015
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd) - Plus FM, Szczecin
Cyfweliad yn Bwyleg ynghylch iaith a diwylliant Cymru
Hyd 2015
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr) - International Congress of Celtic Studies
'Mabinogi Martin Buber: y cyfieithiad cyntaf o'r Pedair Cainc i'r Almaeneg'
Medi 2015
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr) - Darlith wadd, Humanities Center / Dept. of Celtic Languages and Literatures, Harvard University
'Poetry, Language, Grammar, Death: Reading the Gogynfeirdd with Heidegger'
26 Maw 2015
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Prif siaradwr) - Viva PhD Hanes
Arholwr Mewnol ar gyfer Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg
2015
Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr)
2014
- Darlith gyhoeddus yn Neuadd Ogwen, Bethesda, mewn cyfres a drefnwyd gan Brifysgol Bangor/Pontio
'Zombies Gwyddelig, Moch yr Apocalyps a phroblemau eraill Cymry'r Mabinogi'
Tach 2014
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Prif siaradwr) - Darllen a thrafod cerddi Wioletta Grzegorzewska, wedi eu cyfieithu gennyf o’r Bwyleg i'r Gymraeg
Hyd 2014
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - Societas Celto-Slavica, 7fed Colociwm
'Mesur, Cynghanedd a Pherson: sylwadau ar strwythur rhai cerddi canoloesol'
Medi 2014
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr) - Cwrs Preswyl Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Freiburg
Dysgu (Cymraeg: Iaith a Llên) ar gwrs preswyl Astudiaethau Celtaidd
Meh 2014
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd (Siaradwr gwadd) - Darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Poznań, Gwlad Pwyl.
'Language and transcendence in the poetry of the Welsh Princes'
Ebr 2014
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
2013
- Darllen a thrafod cerddi Bartek Majzel, wedi eu cyfieithu gennyf o’r Bwyleg i'r Gymraeg
Hyd 2013
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - Ysgol Haf Astudiaethau Celtaidd
Trefnu a chydlynu Ysgol Haf i fyfyrwyr o wledydd Ewrop a Tsieina
Gorff 2013
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd (Trefnydd) - Gweithdy Athroniaeth Prifysgol Caerdydd
Darlith wadd: ‘Athronwyr y tywysogion? Sylwadau ar iaith y Gogynfeirdd, y frawddeg enwol a'r apophatig’
Meh 2013
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd) - Viva PhD
15 Mai 2013
Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr) - Papur yng nghyfres Seminarau Ymchwil Ysgol y Gymraeg
‘Y Canu Darogan, Peniarth 50 ac Amlieithrwydd’
Mai 2013
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd) - Trafodaeth yn ystod gweithdy cyfieithu rhyngwladol
Ion 2013
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd)
2012
- Darllen a thrafod cerddi Julia Fiedorczuk, wedi eu cyfieithu gennyf o’r Bwyleg i'r Gymraeg
Hyd 2012
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - Medieval Multilingualism in the British Isles
‘National Library of Wales, MS Peniarth 50: Welsh Political Prophecy and Multilingualism’
Gorff 2012
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr) - NAASWCH International Congress on Welsh Studies, Bangor, 2012
‘Rhys Fardd a rhyddfrydwyr eraill yr Oesau Canol’
Gorff 2012
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr) - Darlithydd gwadd ar amryw gyrsiau Astudiaethau Celtaidd
Ebr 2012
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - Viva PhD Cymraeg
Arholwr mewnol (Ysgol y Gymraeg)
2012
Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr)
2011
- Viva Phd Cymraeg
Arholwr Mewnol Ysgol y Gymraeg
2011
Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr)
2010
- Harvard University
Athro ar Ymweliad (Visiting Professor)
1 Awst 2010 – 30 Rhag 2020
Gweithgaredd: Ymweld â sefydliad academaidd allanol (Ymchwilydd Gwadd)