Professor Jason Davies
Athro mewn Cymraeg a Llen Cymru yn Saesneg (Ysgol y Gymraeg)
–
Rhagolwg
Brodor o Aberystwyth yw Dr Jason Walford Davies. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gyfun Penweddig yn y dref honno, a graddiodd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor ym 1993. Fe’i hapwyntiwyd yr un flwyddyn i Ddarlithyddiaeth yn yr adran hon. Y mae bellach yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg ac yn Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil R. S. Thomas ym Mhrifysgol Bangor.
Yn sgil penodi R. S. Thomas (1913–2000) yn Athro er Anrhydedd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor ym 1999, sefydlwyd Canolfan Ymchwil arbennig er mwyn cydnabod ei gyfraniad a hybu ymchwil ar ei waith. Y mae’r Ganolfan hon yn archif o holl ddeunydd cyhoeddedig R. S. Thomas, ynghyd â chasgliad digymar o gyfrolau beirniadol, ysgrifau, adolygiadau, cyfweliadau a deunydd clywedol yn ymwneud â’i waith. Ceir yn yr archif yn ogystal lawer iawn o ddeunydd anghasgledig ac anghyhoeddedig gan y bardd.
Y mae'r Ganolfan ar gael at ddefnydd ymchwilwyr ar ymweliad - rsthomas.bangor.ac.uk
Prif feysydd ymchwil Jason Walford Davies yw llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol a’r ugeinfed ganrif, a Llên Cymru yn Saesneg. Cyhoeddodd yn helaeth ar waith R. S. Thomas, ac ymhlith ei ymdriniaethau â’r bardd hwnnw y mae’r cyfrolau R. S. Thomas: Autobiographies (J. M. Dent: 1997) a Gororau’r Iaith: R. S. Thomas a’r Traddodiad Llenyddol Cymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru: 2003) – monograff a osodwyd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru/ Y Cyngor Llyfrau, 2004.
http://www.celfcymru.com/sioegelf/index.php?page=6c1491af&cat=21&lang=1
Ymddangosodd ei olygiad o lythyrau R. S. Thomas at y bardd a’r beirniad Raymond Garlick (gohebiaeth hanner canrif) yn 2009 (Gwasg Gomer).
Ef yw golygydd Gweledigaethau: Cyfrol Deyrnged Yr Athro Gwyn Thomas (Cyhoeddiadau Barddas: 2007), a chyd-olygydd Cof ac Arwydd: Ysgrifau Newydd ar Waldo Williams (Cyhoeddiadau Barddas: 2006) – cyfrolau sy’n cynnwys astudiaethau estynedig ganddo ar waith Waldo. Ar hyn o bryd y mae wrthi’n llunio cofiant i Waldo yn y gyfres ‘Dawn Dweud’ (Gwasg Prifysgol Cymru), a hefyd yn paratoi’r golygiad beirniadol diffiniol o’i gerddi ar gyfer Gwasg Gomer.
Yr oedd Jason Walford Davies yn un o feirniaid cystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000 ac yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau 2005.
http://www.eisteddfod.org.uk/index.php?lang=CY;navId=138
Yn 2004 enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd â’i bryddest ‘Egni’, cerdd yn coffáu Streic y Glowyr 1984–5, ac y mae wrthi’n gweithio ar gasgliad o gerddi sydd i’w gyhoeddi’n fuan.
http://www.bbc.co.uk/cymru/eisteddfod2004/maes/jason.shtml
http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_3520000/newsid_3529200/3529210.stm
http://www.eisteddfod.org.uk/index.php?lang=CY;navId=108
www.bangor.ac.uk/news/Jason.php.cy?
http://www.cynghanedd.com/annedd/content/view/47/41/
Y mae’n cyfrannu’n gyson i raglenni radio a theledu ar y celfyddydau, ac ef oedd cyflwynydd cyfres Ffilmiau’r Bont ar gyfer S4C, Cymru a’r Chwyldro Diwydiannol (2006).
Gwybodaeth Cyswllt
Position: Senior Lecturer
Email: wes009@bangor.ac.uk
Phone: +44 (0) 1248 38 2240
Location: Room 3, Professor’s Corridor
Addysgu ac Arolygiaeth
Teaching
CXC1001: Beirniadaeth Lenyddol Ymarferol (‘Practical literary criticism’)
CXC1016: Llên Gyfoes (‘Contemporary literature’)
CXC3001/ CXC2101: Canu Chwedl (‘Saga poetry’)
CXC3102/ CXC2002: Dafydd ap Gwilym (‘Dafydd ap Gwilym’)
CXC3007: Barddoniaeth Fodern (‘Modern Poetry’)
CXC3009: Traethawd Estynedig (‘Dissertation’)
Cyhoeddiadau
2024
- Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg'Waldo Williams: Henry Vaughan and Other "Sprightly runners"'
Davies, J., Mai 2025.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur › adolygiad gan gymheiriaid
2023
- CyhoeddwydBeirniadaeth Jason Walford Davies
Davies, J., 1 Awst 2023, Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023. Lewis, G. (gol.). Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, t. 36-52 15 t. (Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru).
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - CyhoeddwydRhin cydeneidiau’n ymagor’: Gohebiaeth Waldo Williams a Megan Humphreys
Davies, J., 16 Awst 2023, Penrhaith ein Heniaith Ni: Cyfrol Deyrnged Gruffydd Aled Williams. Huws, B. & Chapman, T. R. (gol.). 1af gol. Aberystwyth: Atebol, t. 171-209 38 t.
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
2016
- CyhoeddwydToo Brave to Dream: Encounters with Modern Art
Davies, J. (Golygydd) & Brown, A. (Golygydd), 29 Medi 2016, 1af gol. Haxham: Bloodaxe Books. 112 t.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
2013
- Cyhoeddwyd"Myned Allan i Fanfrig Gwreiddiau": Waldo Williams a The Penguin New Writing
Davies, J. W., 1 Rhag 2013, Yn: Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. 19, t. 148-168
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid - Cyhoeddwyd'Dan y Dderwen Gam': Cerdd Goll gan Waldo Williams
Davies, J. W., 1 Hyd 2013, Ysgrifau Beirniadol XXXII. Gwasg Gee, t. 163-197
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - Cyhoeddwyd'Dyfal Gerddwr y Maes': Waldo Williams a'r Pedestrig
Davies, J. W., 1 Hyd 2013, Yn: Llên Cymru. 36, 1, t. 51-90
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid - CyhoeddwydR.S. Thomas: Uncollected Poems
Brown, A. D. (Golygydd) & Davies, J. W. (Golygydd), 29 Maw 2013, 2013 gol. Bloodaxe Books Ltd.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
2009
- CyhoeddwydR. S. Thomas – Letters to Raymond Garlick, 1951-1999
Davies, J. W. (Golygydd), 1 Ion 2009, 2009 gol. Gwasg Gomer.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
2007
- CyhoeddwydGweledigaethau: Cyfrol Deyrnged yr Athro Gwyn Thomas.
Davies, J. W. (Golygydd), 1 Ion 2007, 2007 gol. Cyhoeddiadau Barddas.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
2006
- CyhoeddwydCof ac Arwydd: Ysgrifau Newydd ar Waldo Williams
Walford Davies, D. (Golygydd) & Davies, J. W. (Golygydd), 1 Ion 2006, 2006 gol. Cyhoeddiadau Barddas. 232 t.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
2004
- Cyhoeddwyd1) ‘Egni', in J. Elwyn Hughes (ed.), Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd a'r Cylch, 2004 (Gwasg Gomer: Llandysul, 2004), pp. 22–27;2) ‘Rhwng y Llinellau', Taliesin, 131 (Summer 2007), pp. 34–39;3) ‘Y Disgyniad yn Aberystwyth', Barddas, 291 (February/March 2007), p. 13;4) ‘Y Bae', Taliesin, 129 (Winter 2006),pp.34–35;5) ‘Cinio Gydag R.S.', Barddas, 292 (April/May 2007), p. 5.
Davies, J. W., Walford Davies, J. & Hughes, J. E. (Golygydd), 1 Ion 2004, Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Casnewydd a'r Cylch, 2004. 2004 gol. Gomer Press, Llandysul, t. 22-27
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - CyhoeddwydEgni
Davies, J. W., 2004, Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd a'r Cylch 2004. Gwasg Gomer, t. 22-27
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Cyfraniad Pennod Arall
2003
- CyhoeddwydGororau'r Iaith: R.S Thomas a'r Traddodiad Llenyddol Cymraeg
Davies, J. W., 1 Ion 2003, University of Wales Press, Cardiff.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
Gweithgareddau
2024
- 'Y Prifardd Rhys Iorwerth yn trafod cerdd fuddugol Cystadleuaeth y Goron 2023, "Rhyddid", yng nghwmni’r Athro Jason Walford Davies'
Y Prifardd Rhys Iorwerth yn cael ei gyfweld gan Jason Walford Davies, Cadeirydd y beirniaid, a thraddodwr y feirniadaeth, Cystadleuaeth y Goron, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Lly^n ac Eifionydd 2023
31 Ion 2024
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
Projectau
-
01/06/2020 – 01/08/2022 (Wedi gorffen)
-
Ahrc-An Edition Of R.S.Thomas'S Letters
01/10/2006 – 13/09/2007 (Wedi gorffen)