Rhagolwg
Roedd Gareth yn Brifathro Coleg Normal Bangor (1994-96), yna yn Ddirprwy Is-Ganghellor (1996-2005) ac yn Athro Addysg (2000-2005) ym Mhrifysgol Bangor ac wedyn yn Athro Emeritws yn y brifysgol. Mae’n arbenigo mewn addysg mathemateg gyda phwyslais ar addysg ddwyieithog.
Diddordebau Ymchwil
Graddiodd Gareth mewn Mathemateg yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, ac enillodd ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Nottingham trwy gymhwyso Damcaniaeth y Cwantwm i astudio mathemateg moleciwlau aromatig. Enillodd Gymrodoriaeth Prifysgol Cymru yn Adran Mathemateg Gymhwysol CPGC ac yna fe’i gyflogwyd gan goleg Politechnig Morgannwg (Prifysgol De Cymru erbyn hyn) a’r Brifysgol Agored. Magodd ddiddordeb mewn addysg mathemateg ac enillodd radd MAdd gan Brifysgol Caerdydd a’i benodi gan Gyngor Sir Gwynedd fel Ymgynghorydd Mathemateg cyn symud i Goleg Normal Bangor.
Mae Gareth wedi cyfrannu’n helaeth i boblogeiddio mathemateg mewn erthyglau, llyfrau a’r cyfryngau, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol. Yn 2010 enillodd Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol am ei gyfraniadau i fathemateg. Yn Eisteddfod Wrecsam 2011 fe’i derbyniwyd i Orsedd y Beirdd dan yr enw ‘Gareth Ffowc’. Fe’i etholwyd yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2016 a’i dderbyn yn Gymrawd er Anrhydedd o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2018. I gydnabod ei ragoriaeth gyhoeddus fe’i dderbyniwyd yn Ddoethur er Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth gan Brifysgol Bangor yn 2023.
Cyhoeddiadau
2024
- E-gyhoeddi cyn argraffuStability in theory, in the laboratory and in the air: William Ellis Williams’ campaign for proof positive (1904–1914)
Boyd, T. J. M., Ffowc Roberts, G. & Owens, A. R., 23 Mai 2024, (E-gyhoeddi cyn argraffu) Yn: British Journal for the History of Mathematics. 39, 1, t. 36-61 26 t.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
2022
- CyhoeddwydFor the Recorde: A History of Welsh Mathematical Greats
Ffowc Roberts, G., 2022, University of Wales Press. 160 t.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
2020
- CyhoeddwydCyfri'n Cewri: Hanes Mawrion ein Mathemateg
Ffowc Roberts, G., 2020, Gomer Press.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
2016
- CyhoeddwydCount Us In: How to make maths real for all of us
Ffowc Roberts, G., Chwef 2016, University of Wales Press. 144 t.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
2013
- CyhoeddwydRobert Recorde: The Life and Times of a Tudor Mathematician
Smith, F. (Golygydd) & Ffowc Roberts, G. (Golygydd), 2013, University of Wales, Press. 256 t.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
2012
- CyhoeddwydMae Pawb yn Cyfrif: stori ryfeddol y Cymry a’u rhifau
Ffowc Roberts, G., 2012, Gomer Press.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
2000
- CyhoeddwydBilingualism and Number in Wales
Ffowc Roberts, G., 2000, Yn: International Journal of Bilingual Education and Bilingualism. 3, 1, t. 44-56 13 t.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid