Astudiaeth Ôl-radd – Cwestiynau sy'n codi'n aml (ymgeiswyr DU/UE)
Rwyf Am Wneud Cais:
Sut y gwnaf gais am astudiaeth ôl-radd?
<Sut i wneud cais am gwrs ôl-raddedig>
A oes dyddiad olaf o ran gwneud cais?
Yn gyffredinol, dylech wneud cais cyn gynted ag sydd bosibl, am y gall lleoedd lenwi’n gyflym. Fodd bynnag, derbynnir ceisiadau, fel rheol, hyd at ddechrau’r tymor. Gwiriwch â’r Ysgol am unrhyw derfynau amser a fo’n gysylltiedig ag efrydiaethau a hysbysebir.
Faint yw’r ffioedd dysgu?
Beth y mae’r ffi ddysgu yn ei gynnwys?
Mae’r ffi ddysgu’n cynnwys y costau arferol sy’n gysylltiedig â dysgu’r cwrs. Nid yw’n cynnwys llety, ffioedd mainc, nwyddau traul, rhai teithiau maes na chostau byw. Dylech gael eglurhad ynglŷn â’r holl gostau sy’n gysylltiedig â’ch cwrs cyn cofrestru.
Beth yw’r costau byw i rai sy’n astudio yn PB?
Ar hyn o bryd, rydym yn amcangyfrif isafswm costau byw o £9,600 am 12 mis. Bydd costau’n amrywio yn ôl y llety a’r ffordd o fyw a ddewisir.
Sut y gallaf brofi fy nghymwysterau academaidd?
Bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth o’ch cymwysterau. Er enghraifft:
- cadarnhad o’ch cymhwyster / cymwysterau gan eich prifysgol neu’ch coleg blaenorol
- trawsgrifiadau gwreiddiol (na ellir eu hanfon yn ôl)
- Ffotogopïau neu gopïau wedi’u sganio o’ch tystysgrifau
Bydd angen cyfieithiadau wedi’u dilysu lle bo hynny’n briodol. Peidiwch ag anfon tystysgrifau gwreiddiol trwy’r post.
Bydd angen ichi ddod â’ch tystysgrifau gwreiddiol pan fyddwch yn cofrestru.
Pa gymwysterau yn y Saesneg y byddwch yn eu derbyn fel tystiolaeth o fedrusrwydd yn yr iaith?
Fel rheol, mae sgôr IELTS o 6.0 heb unrhyw elfen islaw 5.5, neu gymhwyster cyfwerth, yn dderbyniol. Efallai y bydd rhai cyrsiau’n gofyn am sgorau uwch, a nodir yn y cynnig i’ch derbyn. Os oes gennych gymhwyster arall yn y Saesneg, gwiriwch â’r Swyddfa Derbyniadau.Pwy gaiff fod yn ganolwr imi?
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod gennych ganolwr addas (fel rheol, rhywun nad yw’n aelod o’r teulu nac yn berthynas). Dylai graddedigion diweddar ddarparu tystlythyr academaidd, e.e. o’r sefydliad diwethaf y buoch yn astudio ynddo. Os ydych yn gwneud cais yn ôl y rheolau i fyfyrwyr hŷn, cyflogwr perthnasol ddylai ysgrifennu eich tystlythyr. Efallai y byddwn yn gofyn am dystebau ychwanegol yn ddiweddarach.
Beth os byddaf am newid fy nghwrs?
Dylech gysylltu â’r Swyddfa Derbyniadau.
A gaf ysgoloriaeth neu fwrsariaeth?
A allaf ddilyn fy nghwrs yn rhan-amser neu drwy ddysgu o bell?
Mae modd dilyn y rhan fwyaf o gyrsiau’n rhan-amser, ond rydym yn cynghori myfyrwyr tramor i wirio o ran unrhyw gyfyngiadau a fo ar fewnfudo. Mae cyrsiau dysgu o bell wedi’u nodi’n glir.
A allaf gychwyn ar fy nghwrs ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn?
Fel rheol, mae cyrsiau Meistr llawn-amser trwy ddysgu yn cychwyn ar ddechrau’r flwyddyn academaidd ym Medi. Gall rhaglenni MPhil a PhD gychwyn ar ddechrau unrhyw mis, yn amodol ar gytundeb â’r Ysgol.
A allaf dderbyn credyd am unrhyw astudiaeth flaenorol?
Mae’r Brifysgol yn cydnabod trosglwyddo credydau ac achrediad o ddysgu blaenorol. Dylech gysylltu â’ch Ysgol cyn gynted ag y bo modd, fel y gellir ystyried eich gais.
Sut y caf fwy o wybodaeth am fy nghwrs?
Cewch lawer o wybodaeth ar wefan yr Ysgol, ynghyd â manylion cyswllt am fwy o wybodaeth.
A gaf fy nosbarthu fel myfyrwyr UD / UE ynteu fel myfyriwr Tramor at ddibenion ffioedd dysgu?
Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau penodol chi. Cewch lawer o wybodaeth fuddiol ar UK Council for International Student Affairs UKCISA
Os oes gennyf gwestiwn nad yw’r CCA yn ymdrin ag ef, â phwy y dylwn gysylltu?
Dylech gysylltu â’r Swyddfa Derbyniadau neu, os yw eich cwestiwn yn ymwneud â’r cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo, dylech gysylltu â’r Ysgol academaidd berthnasol.
Rwyf Wedi Gwneud Cais:
Rwyf wedi gwneud cais, beth sy’n digwydd nesaf?
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais, anfonir cydnabyddiaeth awtomataidd trwy e-bost i’r cyfeiriad e-bost a roesoch. Ar ôl i ni derbyn eich cais, anfonir cydnabyddiaeth awtomatig trwy e-bost i’r cyfeiriad e-bost a roesoch. Caiff eich cais ei ystyried wedyn gan yr Ysgol, a chewch wybod y canlyniad gynted ag y gwneir penderfyniad.
A gaf fy nosbarthu fel myfyrwyr UD / UE ynteu fel myfyriwr Tramor at ddibenion ffioedd dysgu?
Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau penodol chi. Cewch lawer o wybodaeth fuddiol ar UK Council for International Student Affairs UKCISA
Beth os bydd fy manylion cyswllt yn newid?
Dylech roi gwybod i’r Swyddfa Derbyniadau mewn ysgrifen cyn gynted ag y bo modd.
Os oes gennyf gwestiwn nad yw’r CCA yn ymdrin ag ef, â phwy y dylwn gysylltu?
Os ydych wedi gwneud cais yn uniongyrchol i Fangor, dylech gysylltu â’r Swyddfa Derbyniadau.
Sut y gwnaf gais am fy llety?
Bydd gwybodaeth ynglŷn â sut i wneud cais am lety’r Brifysgol wedi’i chynnwys yn y cynnig i’ch derbyn.
Faint yw’r ffioedd dysgu?
Mae gwybodaeth am ffioedd dysgu ar gael yn yr url canlynol.
Beth yw’r costau byw i rai sy’n astudio yn PB?
Ar hyn o bryd, rydym yn amcangyfrif isafswm costau byw o £9,600 am 12 mis. Bydd costau’n amrywio yn ôl y llety a’r ffordd o fyw a ddewisir.
Sut y caf fwy o wybodaeth am fy nghwrs?
Cewch lawer o wybodaeth ar wefan yr Ysgol, ynghyd â manylion cyswllt am fwy o wybodaeth.
Rwyf Wedi Derbyn fy Nghynnig:
Beth yw cynnig amodol?
Mae cynnig amodol yn pennu’n glir unrhyw amodau y bo’n rhaid ichi eu hateb cyn y gellir cadarnhau eich lle yn y Brifysgol.
Beth yw cynnig di-amod?
Mae cynnig di-amod yn cadarnhau bod gennych le yn y Brifysgol hon. Bydd angen ichi dderbyn neu wrthod y cynnig hwn trwy anfon e-bost i’r Swyddfa Derbyniadau. Ni chewch fanylion ynglŷn â chofrestru oni bai eich bod yn derbyn y cynnig yn ffurfiol. Nid yw cynnig di-amod yn ddilys ond ar gyfer y mis a’r flwyddyn a nodir ar y ddogfen, a bydd yn llithro ar ôl y dyddiad hwnnw.
Os derbyniaf y cynnig i’r derbyn, a fydd yn rhaid imi dalu ffioedd hyd yn oed os na allaf gofrestru ar gyfer fy nghwrs?
Os gofynnwyd ichi dalu blaendal, ni fydd modd ad-dalu hwnnw, fel rheol, ond dan amgylchiadau penodol (e.e. gwrthod fisa). Fel arall, nid yw ffioedd dysgu’n ddyledus os nad ydych wedi cofrestru’n ffurfiol ar gyfer eich cwrs.
Faint o oriau o ddosbarthiadau sydd bob wythnos?
Fel rheol, cewch y wybodaeth hon o wefan yr Ysgol. Os oes arnoch angen unrhyw wybodaeth ychwanegol, cysylltwch â’r Ysgol yn uniongyrchol.
Beth yw’r ‘Dyddiad Cofrestru Arfaethedig?
Unwaith y byddwch wedi cofrestru’n ffurfiol, hwn yw’r dyddiad y mae eich astudiaethau yn cychwyn.
Beth yw ‘Cyfnod y Cofrestriad’?
Hyd eich cwrs yw hwn. Nid yw’n cynnwys unrhyw gyfnod ysgrifennu traethawd hir/ thesis a all fod yn hwn, yn ôl y cwrs y byddwch yn ei ddilyn. Ar ôl cyfnod eich cofrestriad, bydd eich hawl i ddefnyddio cyfleusterau’r Brifysgol, e.e. llyfrgell a systemau cyfrifiadurol, yn dod i ben. Os bydd angen ichi estyn yr hawl hon, dylech gysylltu â’ch Ysgol ar ddiwedd cyfnod ffurfiol eich cofrestriad.
Beth yw Cofrestru?
Unwaith y byddwch wedi cofrestru, rydych yn fyfyriwr ffurfiol yn y Brifysgol. Byddwch yn gallu defnyddio adnoddau’r Brifysgol a manteisio ar gyfleusterau’r Brifysgol. Bydd yn rhaid hefyd ichi gydymffurfio â Rheolau a Rheoliadau’r Brifysgol.
Sut y cofrestraf ar gyfer fy nghwrs?
Cewch wybodaeth am sut i gofrestru’n ffurfiol ar gyfer eich cwrs unwaith y byddwch wedi derbyn cynnig di-amod i’ch derbyn.
Beth os na allaf gyrraedd Bangor mewn pryd i gofrestru?
Bydd angen ichi hysbysu’r Swyddfa Derbyniadau cyn gynted ag y bo modd, gan nodi eich rhif derbyn a’r rheswm am yr oedi.
A gaf ddirwy os cofrestraf yn hwyr?
Na chewch, ond os na chofrestrwch mewn da bryd, efallai y byddwch yn methu ymuno â’ch cwrs.
Beth os bydd fy manylion cyswllt yn newid?
Dylech roi gwybod i’r Swyddfa Derbyniadau mewn ysgrifen cyn gynted ag y bo modd.
Sut y gwnaf gais am fy llety?
Sut y caf fwy o wybodaeth am fy nghwrs?
Cewch lawer o wybodaeth ar wefan yr Ysgol, ynghyd â manylion cyswllt am fwy o wybodaeth.
Beth os byddaf am newid fy nghwrs?
Dylech gysylltu â’r Swyddfa Derbyniadau.
A allaf ohirio fy astudiaethau?
Bydd angen ichi ofyn am ohirio trwy gysylltu â’r Swyddfa Derbyniadau.
Beth yw ystyr ‘ar yr amod y cymeradwyir y cwrs’?
Sicrheir ansawdd cyrsiau newydd trwy drefn ddilysu. Yn ystod y cyfnod hwn, hysbysebir hwy a/neu eu cynnig yn amodol ar eu cymeradwyo. Cynhelir y rhan fwyaf o’r cyrsiau hyn, ond rydym yn eich cynghori i wirio gyda’r Ysgol os byddwch yn ansicr.
Pwy gaiff fod yn ganolwr imi?
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod gennych ganolwr addas (fel rheol, rhywun nad yw’n aelod o’r teulu nac yn berthynas). Dylai graddedigion diweddar ddarparu tystlythyr academaidd, e.e. o’r sefydliad diwethaf y buoch yn astudio ynddo. Os ydych yn gwneud cais yn ôl y rheolau i fyfyrwyr hyn, cyflogwr perthnasol ddylai ysgrifennu eich tystlythyr. Efallai y byddwn yn gofyn am dystebau ychwanegol yn ddiweddarach.
Sut y gallaf brofi fy nghymwysterau academaidd?
Bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth o’ch cymwysterau. Er enghraifft:
- cadarnhad o’ch cymhwyster / cymwysterau gan eich prifysgol neu’ch coleg blaenorol
- trawsgrifiadau gwreiddiol (na ellir eu hanfon yn ôl)
- Ffotogopïau neu gopïau wedi’u sganio o’ch tystysgrifau
Bydd angen cyfieithiadau wedi’u dilysu lle bo hynny’n briodol.
Peidiwch ag anfon tystysgrifau gwreiddiol trwy’r post.
Bydd angen ichi ddod â’ch tystysgrifau gwreiddiol pan fyddwch yn cofrestru.
A allaf dderbyn credyd am unrhyw astudiaeth flaenorol?
Mae’r Brifysgol yn cydnabod trosglwyddo credydau ac achrediad o ddysgu blaenorol. Dylech gysylltu â’ch Ysgol cyn gynted ag y bo modd, fel y gellir ystyried eich gais.
A gaf ysgoloriaeth neu fwrsariaeth?
Beth y mae’r ffi ddysgu yn ei gynnwys?
Mae’r ffi ddysgu’n cynnwys y costau arferol sy’n gysylltiedig â dysgu’r cwrs. Nid yw’n cynnwys llety, ffioedd mainc, nwyddau traul, rhai teithiau maes na chostau byw. Dylech gael eglurhad ynglŷn â’r holl gostau sy’n gysylltiedig â’ch cwrs cyn cofrestru.
Beth yw’r Ffi Fainc / Ffi Ymweliad Astudio?
Mae ffi fainc / ffi ymweliad astudio yn gost ychwanegol fandadol sy’n gysylltiedig â’ch cwrs ac sydd heb ei chynnwys yn y fi ddysgu. Fel rheol, byddech yn cael gwybod am hyn yn llythyr eich cynnig.
Sut y gallaf dalu fy ffioedd?
Pam y mae’n rhaid imi dalu blaendal?
Mae blaendal yn cadw lle ichi ar y cwrs, ac yn helpu myfyrwyr rhyngwladol i gael fisa fynediad i’r DU.
Sut y talaf fy mlaendal?
Gellwch dalu eich blaendal trwy gerdyn credyd/debyd, gan ffonio 00 44 1248 383791.
Dylai llythyr eich cynnig fod gennych wrth law pan wnewch yr alwad. Mewn rhai achosion, gellir talu trwy drosglwyddiad banc awtomataidd, a chewch fanylion y Brifysgol ar gais (Swyddfa Derbyniadau).
A oes raid i’m noddwr dalu blaendal?
Nid oes raid i noddwyr cydnabyddedig, e.e. y Cyngor Prydeinig, Banc y Byd, Comisiwn Ysgoloriaethau’r Gymanwlad, llywodraethau tramor etc, dalu blaendal. Gofalwch fod eich trefniadau ariannol i’w gweld yn glir ar eich ffurflen gais.
Pwy sy’n gorfod talu blaendal?
Mae rhai cyrsiau yn gofyn am flaendal er mwyn cadw eich lle ar y cwrs. Cewch wybod os oes raid i chi dalu blaendal yn y cynnig i’ch derbyn.
A gaf ad-daliad o’r blaendal os na allaf ddod i Fangor?
Fel rheol, nid yw blaendal yn ad-daladwy ond mewn achosion penodol (e.e. gwrthod fisa, salwch wedi’i ardystio).
Pa wybodaeth a gaf cyn dod i Fangor?
Ar yr amod eich bod wedi cydymffurfio ag unrhyw amodau a fo’n gysylltiedig â’ch cynnig, a’ch bod wedi derbyn yn ffurfiol y cynnig i’ch derbyn, byddwch yn cael gwybodaeth am gofrestru cyn dechrau eich cwrs. Efallai y byddwch hefyd yn cael gwybodaeth ychwanegol o’ch Ysgol.
Beth a wnaf pan gyrhaeddaf Fangor?
Ar ôl ichi ymgartrefu yn eich llety, dilynwch y cyfarwyddiadau am gofrestru y byddwch eisoes wedi’u cael. Cewch gymorth ynglŷn â llety yn y Ganolfan Gwasanaethau Myfyrwyr Gwasanaethau Myfyrwyr
Pryd y byddaf yn graddio?
Bydd y Brifysgol yn cysylltu â chi, gan roi’r trefniadau graddio ichi ar gyfer eich cwrs penodol.
Os oes gennyf gwestiwn nad yw’r CCA yn ymdrin ag ef, â phwy y dylwn gysylltu?
Os ydych wedi gwneud cais trwy un o’n asiantau recriwtio sydd wedi’i gydnabod yn rhyngwladol, dylech gysylltu â’ch asiant yn y lle cyntaf.
Os ydych wedi gwneud cais yn uniongyrchol i Fangor, dylech gysylltu â’r Swyddfa Derbyn Ôl-raddedigion postgraduate@bangor.ac.uk