Sut mae tystysgrifau’n cael eu rhyddhau?
Mae'r tystysgrifau'n cael eu hanfon drwy bost safonol y Post Brenhinol yn achos myfyrwyr sy'n byw yn y DU a thrwy bost cofnodedig y Post Brenhinol yn achos pob gwlad arall.
Cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau bod eu cyfeiriad cartref parhaol yn gywir yng nghofnodion y Brifysgol. Gellir gwirio hyn a’i newid trwy fewngofnodi i fyMangor.
Dim ond i gyfeiriadau parhaol y caiff tystysgrifau eu rhyddhau; (ni chânt eu hanfon i gyfeiriadau amser tymor na chyfeiriadau gwyliau). Os na fydd cyfeiriad parhaol i fyfyriwr ar Banner ni ryddheir eu tystysgrif. O dan amgylchiadau o'r fath cedwir tystysgrifau yn y Swyddfa Dyfarniadau a Chyflwyno nes y derbynnir cyfeiriad cartref parhaol.