Pryd byddaf yn derbyn fy nhystysgrif?
Israddedigion
Dylai'r holl israddedigion presennol sy'n gorffen eu hastudiaethau ym mis Mai neu fis Mehefin bob blwyddyn dderbyn eu tystysgrifau'r mis Gorffennaf neu fis Awst dilynol. Dylai myfyrwyr sy'n gorffen eu hastudiaethau cyn mis Mai dderbyn eu tystysgrifau o fewn 28 niwrnod i'w canlyniad gael ei brosesu.
Myfyrwyr Ôl-raddedig
Dylai pob myfyriwr ôl-raddedig presennol dderbyn eu tystysgrifau o fewn 28 niwrnod i'w canlyniad gael ei brosesu. Caiff yr holl ddogfennau cymwysterau eu postio i'r cyfeiriad cartref parhaol sydd gan y Brifysgol. Os dymunwch gadarnhau neu newid y cyfeiriad cartref parhaol sydd gennym i chi, a fyddech cystal â chysylltu â'r tîm Gweinyddu Myfyrwyr ar student-admin@bangor.ac.uk
Os bydd arnoch angen cadarnhad o'ch cymhwyster yn gynt at ddibenion cyflogaeth / astudio pellach / gwneud cais am fisa, gall y Swyddfa Gweinyddu Myfyrwyr roi llythyr swyddogol i chi yn cadarnhau eich cymhwyster.
Gweler Sut ydw i'n gwneud cais am 'Lythyr Cadarnhau Cymhwyster'?